Cyflwyno triniaethau i anifeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyflwyno triniaethau i anifeiliaid.
Mae'r gair "triniaethau" yn cynnwys meddyginiaethau ataliol a rhagnodol a thriniaethau gofal iechyd sylfaenol.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a sicrhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn cyflwyno triniaethau i anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â chyflwyno triniaethau i anifeiliaid
- gwneud eich gwaith i gyd yn unol â gweithdrefnau a chyfarwyddiadau'r gweithle
- gwneud eich gwaith i gyd yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau'r sefydliad
- gwneud eich gwaith i gyd yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid perthnasol, deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a chyfyngiadau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol gyfredol
- dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas wrth gyflwyno triniaethau i anifeiliaid
- dewis, paratoi, defnyddio a chynnal y cyfarpar gofynnol yn ddiogel ac yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau'r cynhyrchwyr a pholisïau sefydliadol
- paratoi'r ardal waith, yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol a pholisïau sefydliadol
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, polisi sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
- atal anifail mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac yn cynnal eu hiechyd a'u lles
- defnyddio a storio cyffuriau, meddyginiaethau â’r cyfarpar a ddefnyddir i gyflwyno triniaethau sylfaenol i anifeiliaid, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, cyfarwyddiadau milfeddygol neu'r gwneuthurwr ac arferion eich sefydliad
- defnyddio meddyginiaeth gyfredol wedi ei rhagnodi a heb ei halogi ar gyfer yr anifail perthnasol
- defnyddio'r arferion â’r technegau cywir i gyflwyno'r driniaeth benodedig, ar yr adeg iawn ac yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle
cael cymorth ar unwaith pan nad yw'n bosibl cyflwyno triniaeth i'r anifail
lleihau anesmwythdra a darparu ôl-ofal i anifeiliaid yn dilyn triniaeth
- arsylwi anifeiliaid yn dilyn triniaeth ac adrodd am unrhyw bryderon gydag iechyd a lles yr anifail wrth y person perthnasol
- parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
ymdrin â gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, polisi sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu'r risg wrth gyflwyno triniaethau i anifeiliaid
- pwysigrwydd cwblhau gweithgaredd yn unol â gweithdrefnau a chyfarwyddiadau gweithle
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig, a chyfyngiadau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol gyfredol
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y mathau o offer a chyfarpar sydd yn ofynnol i gyflwyno triniaethau i anifeiliaid a sut i gynnal a chadw, defnyddio a storio'r rhain yn ddiogel ac yn gywir
- pwysigrwydd paratoi'r ardal waith, yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol ac ymarfer sefydliadol
- y mathau gwahanol o driniaethau ar gyfer anifeiliaid a sut i gyflwyno'r rhain
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a sut gellir cyflawni hyn
- arwyddocâd dyddiadau dod i ben ar gyffuriau a meddyginiaethau
- y ffynonellau halogiad posibl i feddyginiaethau a sut i adnabod unrhyw niwed i feddyginiaeth
- canlyniadau posibl peidio â dilyn gweithdrefnau'r gweithle â’r cyfarwyddiadau ar gyfer cyflawni triniaethau
- sut i ymdrin â'r anifail a'i atal, pan fo angen, er mwyn cyflwyno triniaethau, a phryd y gall fod angen cymorth
- y rhesymau â’r gofynion deddfwriaethol perthnasol ar gyfer "cyfnodau diddyfnu" o rai triniaethau a chanlyniadau peidio â dilyn cyfnodau diddyfnu o'r fath
- sut i drin, storio a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- unrhyw newidiadau i gyflwr yr anifail, a allai ddigwydd ar ôl y driniaeth
pam y mae angen monitro ymddygiad anifail ac adrodd am unrhyw bryderon i'r person perthnasol
y gofynion cyfreithiol perthnasol a gofynion y cynhyrchydd ar gyfer defnyddio a storio meddyginiaeth â’r cyfarpar a ddefnyddir i gyflwyno triniaethau i anifeiliaid
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn
terfynau eich cyfrifoldeb a'ch gallu mewn perthynas â phroblemau iechyd mewn anifeiliaid a chyflwyno triniaethau.
y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â chyflwyno triniaethau a phwysigrwydd eu cwblhau, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
Deddf Llawfeddygon Milfeddygol