Cynnal gweithdrefnau bioddiogelwch a rheoli heintiau wrth weithio gydag anifeiliaid

URN: LANAnC12
Sectorau Busnes (Suites): Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal gweithdrefnau bioddiogelwch a rheoli heintiau wrth weithio gydag anifeiliaid.

Mae trefniadau hylendid a bioddiogelwch da yn hanfodol i weithrediad llwyddiannus unrhyw fusnes sydd yn darparu gofal anifeiliaid.  Dylai'r rheolyddion â'r gweithdrefnau hyn fod yn rhan annatod o reolaeth barhaus anifeiliaid ac yn ffactor allweddol yn hybu iechyd a lles anifeiliaid.

Defnyddir y term "amgylchedd gwaith" i ddisgrifio'r ardaloedd gwahanol sydd yn lletya anifeiliaid, yn barhaol neu dros dro, yn ogystal â'r ardaloedd lle mae cyfarpar a defnyddiau traul yn cael eu storio, eu diheintio neu eu sterileiddio cyn eu defnyddio.

Yn y safon hon defnyddir y term "anifail" i gynnwys pob rhywogaeth; fodd bynnag, gall rhywogaethau penodol o anifeiliaid fod angen mesurau bioddiogelwch gwahanol.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn gweithio gydag anifeiliaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynnal hylendid y safle, gweithdrefnau bioddiogelwch a rheoli heintiau sydd yn berthnasol i'r anifeiliaid ar y safle
  2. adnabod a dilyn y cyngor â'r canllawiau ar y protocolau, arferion gwaith, hylendid a bioddiogelwch y safle
  3. lleihau halogiad i anifeiliaid a staff, yn cynnwys gofynion penodol ar gyfer rheoli heintiau wrth weithio gydag anifeiliaid
  4. sicrhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) addas yn berthnasol i'r gweithgaredd
  5. monitro cyflwr corfforol ac ymddygiad yr anifail wrth weithio gydag anifeiliaid
  6. adnabod materion iechyd anifail a chymryd camau i fynd i'r afael â nhw, gan gael cyngor milfeddygol proffesiynol lle bo angen
  7. cyfathrebu rheolyddion heintiau'r safle a gweithdrefnau a phrotocolau bioddiogelwch i bawb sydd yn cael mynediad i ardaloedd anifeiliaid ar y safle, contractwyr, ymwelwyr a chwsmeriaid
  8. ymdrin â gwastraff yn unol â deddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
  9. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol.

  10. gwneud y gwaith i gyd yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gweithdrefnau hylendid a bioddiogelwch a rheoli heintiau'r safle ar gyfer yr anifeiliaid ar y safle; a goblygiadau peidio â dilyn y rhain
  2. sut i gynnal gweithdrefnau hylendid a bioddiogelwch a rheolyddion heintiau'r safle, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol; a ble i gael cyngor os oes gennych unrhyw ymholiadau
  3. y risg o gyswllt ag alergenau a micro-organebau heintus wrth weithio gyda chynnyrch a chyfarpar anifeiliaid
  4. achosion tebygol heintiau, trawshalogi a throsglwyddo
  5. arwyddion salwch yn yr anifeiliaid yn eich gofal a phryd i ofyn am gyngor milfeddygol proffesiynol
  6. sut gellir lleihau heintio neu drawshalogiad, yn cynnwys cwarantîn ac ynysu
  7. pwysigrwydd cwarantîn a chilfachau ynysu
  8. y dulliau gwahanol o hylendid dwylo a phryd i'w defnyddio
  9. y mathau a'r defnydd o gyfarpar diogelu personol (PPE) a'r gofynion gwisg i gynnal hylendid a bioddiogelwch y safle wrth weithio gydag anifeiliaid
  10. y gwahaniaeth rhwng sterilieiddio a diheintio â'r technegau â'r deunyddiau a ddefnyddir ar gyfer bob un
  11. y gofynion sefydliadol penodol ar gyfer rheoli heintiau wrth weithio gydag anifeiliaid
  12. pwysigrwydd eich iechyd eich hun a pham y mae'n bwysig adrodd am unrhyw gyflyrau iechyd personol a allai gynyddu'r risg o drosglwyddo, yn cynnwys gwrthimiwnedd ac alergenau, yn ogystal â thriniaethau proffylactig ar gyfer anifeiliaid a bodau dynol
  13. sut i hysbysu pawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo o weithdrefnau a phrotocolau hylendid a bioddiogelwch y safle
  14. y mesurau hylendid a bioddiogelwch sy'n ofynnol ar gyfer trin, storio a gwaredu mathau gwahanol o wastraff
  15. y rhesymau dros reoli mynediad at ardaloedd gwahanol o'r amgylchedd gwaith â'r defnydd o rwystrau amddiffynnol
  16. y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â bioddiogelwch a rheoli heintiau a phwysigrwydd eu cwblhau, yn unol â'r deddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
  17. pwysigrwydd cadw cofnodion i gynorthwyo olrhain cyswllt ar gyfer clefydau heintus
  18. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol

Cwmpas/ystod

Defnyddio gweithdrefnau bioddiogelwch a rheoli heintiau wrth weithio gydag anifeiliaid, yn cynnwys:

  1. glanhau llety'r anifail
  2. glanhau cyfarpar bwydo
  3. sterileiddio neu ddiheintio cyfarpar a deunydd traul
  4. storio a gwaredu pob math o wastraff
  5. cyflenwi cyfarpar a deunydd traul i lety anifail
  6. casglu anifeiliaid o lety anifeiliaid
  7. cludo anifeiliaid i lety rhwystro
  8. mynediad ac ymadawiad pobl o lety anifail

Lleihau halogiad posibl trwy:
9. ddarparu a defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
10. y safonau hylendid priodol sy'n ofynnol ar gyfer personél
11. defnydd cywir o ddulliau diheintio neu sterileiddio sy'n briodol i eitemau ac ardal
12. arferion ac amserlenni rheoli heintiau priodol

adnabod arwyddion o salwch mewn anifeiliaid yn eich gofal yn cynnwys:
13. ymddangosiad
14. ystum a symudiad
15. ymddygiad
16. gweithrediad corfforol
17. rhyngweithio cymdeithasol

Mae angen gofynion sefydliadol penodol ar gyfer rheoli heintiau wrth:
18. dderbyn anifeiliaid newydd
19. ymweld ag anifeiliaid
20. gweithio mewn amgylcheddau anghyfarwydd
21. risg cynyddol o halogiad
22. amheuaeth o heintio
23. gwaredu gwastraff

  1. gwaredu anifeiliaid

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Aciwt – difrifol

Cronig – yn parhau am amser hir neu'n digwydd dro ar ôl tro

Fector – pryfyn neu organeb arall sydd yn trosglwyddo ffwng pathogenaidd, feirws, bacteriwm

Magwrfeydd haint – gwrthrych difywyd neu sylwedd, fel dillad, dodrefn, neu sebon, sydd yn gallu trosglwyddo organebau heintus o un unigolyn i'r llall

Cynhaliwr – anifail neu blanhigyn byw y mae parasit yn cael maeth oddi wrtho

Hysbysadwy – clefyd y mae'n rhaid adrodd amdano i awdurdodau iechyd cyhoeddus wrth gael diagnosis am y gallai fod yn beryglus i iechyd dynol neu anifeiliaid

Pathogen – unrhyw gyfrwng sydd yn cynhyrchu clefydau, yn arbennig feirws, bacteriwm neu ficro-organeb arall

Milhaint – patholeg, unrhyw glefyd anifeiliaid y gellir ei drosglwyddo i fodau dynol

Heintus – trosglwyddir trwy haint, fel o un person i'r llall o un rhan o'r corff i un arall

* *

Alergen – unrhyw sylwedd, protein yn aml, sydd yn ysgogi alergedd: mae alergenau cyffredin yn cynnwys paill, glaswelltau, llwch, a rhai meddyginiaethau.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAnC12

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal anifeiliaid

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

hylendid; bioddiogelwch; trawshalogi; rhwystrau; rheoli heintiau