Cynnal iechyd a lles anifeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal iechyd a lles anifeiliaid.
Mae'n cynnwys monitro cyflwr corfforol ac ymddygiad anifail, cynnal mesurau i hybu ei iechyd a'i les ac adrodd am unrhyw bryderon neu newidiadau annisgwyl.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn cynnal iechyd a lles anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud eich gwaith yn unol â chyfarwyddiadau a gweithdrefnau'r gweithle
- gwneud eich holl waith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- gwneud eich holl waith yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch anifeiliaid perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, ymarfer sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
- cynnal gwiriad iechyd a lles ar yr anifail yr ydych yn gweithio gydag ef
- adnabod arwyddion salwch mewn anifeiliaid a gweithredu, gan adrodd am unrhyw bryderon lle bo angen
- lleihau'r risg o straen ac anaf i anifeiliaid er mwyn cynnal eu hiechyd a'u lles
- monitro cyflwr corfforol ac ymddygiad anifeiliaid er mwyn cynnal iechyd a lles anifail
- nodi rhyw yr anifail er mwyn cynnal iechyd a lles
- monitro cyflwr llety'r anifail a nodi unrhyw weithredu sydd yn ofynnol
- monitro'r amodau amgylcheddol sydd yn berthnasol i'r anifail a gwneud addasiadau lle bo angen
- sicrhau bod anifeiliaid, lle bo angen, yn cael y bwyd â’r dŵr gofynnol, monitro faint y maent yn ei gymryd ac adrodd am unrhyw bryderon
- rhoi'r cyfle i anifeiliaid wneud ymarfer corff, lle bo angen, er mwyn cynnal eu hiechyd a'u lles
- rhoi'r gorfaethiad angenrheidiol i anifeiliaid, lle bo angen, er mwyn cynnal eu hiechyd a'u lles
- rhoi cyfleoedd rhyngweithio cymdeithasol i anifeiliaid lle bo angen, er mwyn cynnal eu hiechyd a'u lles
- rhyngweithio gyda'r anifeiliaid, wrth reoli eu hiechyd a'u lles, mewn ffordd sydd yn lleihau straen i'r anifail
- cael cymorth ar gyfer unrhyw argyfwng o ran iechyd anifail a dechrau camau gweithredu sydd yn berthnasol i'r sefyllfa
- cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
rheoli gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol.
gwneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried yr amgylchedd ac yn osgoi gwastraff diangen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd gwneud gweithgareddau yn unol â chyfarwyddiadau a gweithdrefnau'r gweithle
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- diben cadw anifeiliaid a sut gallai hyn effeithio ar eu hwsmonaeth
- sut i asesu anghenion iechyd a lles anifeiliaid yn eich gofal a sut gellir cynnal y rhain
clefydau ac anhwylderau cyffredin anifeiliaid a allai effeithio ar yr anifeiliaid yn eich gofal
sut i hybu iechyd a lles anifeiliaid a lleihau unrhyw straen neu anaf
sut i adnabod arwyddion iechyd yn yr anifeiliaid yn eich gofal â’r camau y dylid eu cymryd
- sut i adnabod ymddygiad cymdeithasol arferol er mwyn deall pa gyfleoedd cymdeithasol i'w cyflwyno i'r anifail
- sut i adnabod yr arwyddion sydd yn nodi problemau gyda iechyd a lles anifail, â’r camau y dylid eu cymryd
- gofynion y llety â'r arferion cynnal a chadw ar gyfer yr anifeiliaid yn eich gofal
- y gofynion bwyd a dŵr â'r drefn ar gyfer yr anifeiliaid yn eich gofal
- sut gellir addasu'r amodau amgylcheddol i fodloni gofynion iechyd a lles yr anifeiliaid yn eich gofal
- pam mae angen ymarfer corff ar anifeiliaid a sut mae'r math â’r maint yn amrywio yn ôl rhywogaeth, brîd ac yn ystod cyfnodau gwahanol bywyd anifail
y mathau gwahanol o orfaethu sy'n ofynnol gan yr anifeiliaid yn eich gofal
sut mae anifeiliaid yn cynnal eu cyflwr a'u hymddygiad corfforol eu hunain
- sut i adnabod argyfwng iechyd mewn anifail â’r camau i'w cymryd
- sut i ymateb i bryderon neu faterion mewn perthynas â'ch dyletswydd gofal
y terfynau o fewn eich maes cyfrifoldeb mewn perthynas â phroblemau iechyd gyda'r anifeiliaid yn eich gofal.
y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â deddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Arwyddion iechyd yn y rhywogaeth o anifail yr ydych yn gweithio gydag ef yn cynnwys:
- ymddangosiad a chyflwr y corff
- ystum a symudiad
- ymddygiad a rhyngweithio cymdeithasol
- ysgarthiadau (gweithrediadau'r corff)
Problemau posibl gydag iechyd a lles anifail yn cynnwys:
5. poen
6. salwch
7. anaf
8. plâu
9. trawma
10. pwysau
straen
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth bresennol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
- Amodau amgylcheddol:
- golau
- awyru
- tymheredd
- lleithder
- y tywydd
- maint/gofod
cyswllt cymdeithasol
Anghenion anifeiliaid:
- amgylchedd addas (lle i fyw)
- deiet addas
- gallu i arddangos ymddygiad arferol
- diogelwch rhag poen, dioddefaint, anaf a chlefydau
- wedi eu cartrefi gyda, neu ar wahân i, anifeiliaid eraill (lle y bo'n berthnasol)