Arsylwi ac adnabod ymddygiad anifeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag arsylwi ac adnabod ymddygiad yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw.
Mae'r safon hon yn cynnwys arsylwi anifeiliaid fel rhan o'ch gwaith neu astudiaethau gyda nhw er mwyn hybu eu lles a lleihau'r risg i chi eich hun, yr anifail a rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo. Byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth o'r dylanwadau ar ymddygiad anifeiliaid, yn cynnwys eich rhyngweithio chi gyda'r anifail.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon gadarnhau bod yr ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth ddiweddar a pholisïau sefydliadol, a'u bod yn gweithio o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a phrofiad.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn gweithio gydag anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant cymhwysedd a phrofiad
- cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid perthnasol a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- gwneud eich gwaith i gyd yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- cael gwybodaeth am yr anifail, lle y bo'n bosibl, o ffynonellau perthnasol (e.e. perchennog, cofnodion, arsylwadau), i helpu i bennu natur ymddygiad yr anifail
- arsylwi ac adnabod ymddygiad yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw a chofnodi hyn gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- adnabod ystod o ffactorau sy'n effeithio ar ymddygiad anifeiliaid ac ystyried y rhain wrth ryngweithio gyda'r anifail
- adnabod newidiadau yn ymddygiad anifail a chymryd y camau perthnasol
- rhyngweithio gyda'r anifail mewn ffordd sy'n osgoi ymddygiad sy'n achosi pryderon lles ac yn galluogi arsylwi i gael ei wneud yn ddiogel
- hybu lles yr anifail ac addasu eich ymddygiad eich hun, neu ymddygiad y rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, er mwyn osgoi creu ymddygiad mewn anifail sydd yn achosi pryderon lles
- adnabod ymddygiad anifeiliaid a allai ddangos pryderon lles neu broblemau eraill ac adrodd am y rhain wrth y person perthnasol
- gwybod pryd y gallai ymddygiad anifeiliaid ddangos na ddylech barhau gyda gweithgaredd a, lle bo angen, cymryd camau i unioni'r broblem hon
parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo.
cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau proffesiynol a moesegol a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid perthnasol a deddfwriaeth yn ymwneud ag anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- sut i arsylwi ac adnabod ymddygiad anifeiliaid fel rhan o'ch rhyngweithio gyda'r anifail
- y ffordd y mae'r anifail yn defnyddio ei synhwyrau a sut mae hyn yn effeithio ar ei ymddygiad
- sut i adnabod cyflyrau ymddygiadol ac emosiynol anifeiliaid
- patrymau ymddygiad arferol ac anarferol e.e. ymddygiad ystrydebol, ailadroddus
- arwyddion dioddefaint mewn anifeiliaid
- sut gallai eich gweithredoedd, neu weithredoedd y rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, effeithio ar ymddygiad a lles yr anifail
- effeithiau amgylchedd yr anifail ar ei ymddygiad
- pryd i adrodd am ymddygiad a arsylwir wrth y person perthnasol
- pwysigrwydd adnabod ymddygiad sydd yn dangos na fyddai'n ddoeth parhau gyda'r gweithgaredd
- sut i wybod pryd mae anifail wedi mynd yn llai ymatebol i symbylwyr amgylchedd a gallu neu gyfyngiadau anifeiliaid i ymdopi â nodweddion amgylchedd o gaethiwed
pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn.
y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â deddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Arsylwi ac adnabod y ffactorau canlynol sydd yn effeithio ar ymddygiad anifeiliaid:
- ymddygiad sydd yn arferol i rywogaeth
- nodweddion brîd
- natur
- cyfnod datblygiad (yn cynnwys henaint)
- rhyw
- statws atgenhedlol
- anghenion ysgogiadol (yn cynnwys newyn, syched, osgoi bygythiad, â’r angen am gyswllt cymdeithasol (os yw'n briodol))
- patrymau cyfathrebu
- cyflyrau emosiynol a meddyliol
- galluoedd canfyddiadol
- trefniant cymdeithasol ac ymddygiad cymdeithasol
- profiadau blaenorol o'r anifail â’r ymatebion a ddysgwyd o'r rhain
- ofn, rhwystredigaeth, ymosodedd, straen, poen
- salwch, anaf, anesmwythdra, clefyd a thrallod
- amglchedd a'r symbyliadau allanol a brofir
- rhyngweithio gyda bodau dynol a rhywogaethau eraill
patrymau hwsmonaeth a rheoli.
cyfnodau o weithgaredd e.e. ymddygiad nosol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth bresennol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)
Cyflwr ymddygiadol ac emosiynol anifail
- ofn,
- rhwystredigaeth,
- ymosodedd,
- tawelu,
- gorbryder,
- chwarae,
- ymlacio.