Cynnal iechyd a lles anifeiliaid o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd

URN: LANAnC1
Sectorau Busnes (Suites): Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal iechyd a lles anifeiliaid o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd.

Mae'r safon yn cynnwys rhoi cymorth i gynnal iechyd a lles anifeiliaid trwy fonitro eu cyflwr a'u hymddygiad ac adrodd am y rhain wrth y person perthnasol.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer cynnal dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn cynnal iechyd a lles anifeiliaid o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwneud eich gwaith o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd
  2. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun a phawb sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd, a lles yr anifeiliaid, yn ystod y gwaith
  3. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â'r cyfarwyddiadau, arferion busnes a deddfwriaeth berthnasol
  4. cynnal anghenion yr anifeiliaid yn eich gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol
  5. rhyngweithio gyda'r anifail mewn ffordd sydd yn lleihau straen neu anaf
  6. cynnal iechyd a lles anifeiliaid yn ystod eich gwaith
  7. monitro cyflwr corfforol ac ymddygiad yr anifeiliaid yn eich gofal, ac adrodd am unrhyw bryderon wrth y person perthnasol
  8. gwirio cyflwr llety'r anifeiliaid yn unol â'r cyfarwyddiadau perthnasol
  9. sicrhau bod yr amodau amgylcheddol yn addas ar gyfer yr anifeiliaid yn unol â chyfarwyddiadau perthnasol
  10. sicrhau bod yr anifeiliaid yn cael bwyd a dŵr yn unol â'r cyfarwyddiadau perthnasol
  11. cydnabod pan mae ymddygiad anifail yn dangos na ddylech barhau gyda'r gweithgaredd ac adrodd wrth y person perthnasol lle bo angen.

  12. cadw cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisïau sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwysigrwydd cwblhau'r gweithgaredd o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd
  2. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
  3. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn

  4. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, codau ymarfer cysylltiedig â pholisïau sefydliadol

  5. anghenion anifeiliaid y mae'n rhaid eu cynnal yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol
  6. sut i hybu iechyd a lles anifeiliaid a lleihau'r risg o straen neu anaf
  7. sut i adnabod arwyddion iechyd yn y rhywogaeth o anifail yr ydych yn gweithio gydag ef
  8. sut i adnabod yr arwyddion a allai ddangos problemau gyda iechyd a lles anifail â'r camau y dylid eu cymryd os sylwir ar y rhain
  9. sut i adnabod arwyddion ofn, ymosodedd, straen, poen, salwch ac anaf yn yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw

  10. sut i gynnal llety anifeiliaid â'r cyfarpar a'r deunyddiau sydd eu hangen yn unol â chyfarwyddiadau perthnasol

  11. sut gallai amodau amgylcheddol effeithio ar iechyd a lles anifail
  12. sut gallau eich gweithredoedd neu weithredoedd y rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, effeithio ar ymddygiad a lles yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw

Cwmpas/ystod

Arwyddion iechyd yn y rhywogaeth o anifail yr ydych yn gweithio gydag ef yn cynnwys:

  1. ymddygiad a chyflwr y corff
  2. ystum a symudiad
  3. ymddygiad a rhyngweithio cymdeithasol
  4. ysgarthiadau.

  5. gweithredoedd arferol 

*
*

*
*


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid:

Deddf Lles Anifeiliaid, Cymru a Lloegr

Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid, yr Alban

Deddf Lles Anifeiliaid, Gogledd Iwerddon (Gogledd Iwerddon)

Amodau amgylcheddol:

ysgafn

awyru

tymheredd

lleithder

y tywydd

maint/gofod

cyswllt cymdeithasol

* *

Anghenion anifeiliaid:

amgylchedd addas (lle i fyw)

deiet addas

gallu i arddangos ymddygiad arferol

diogelu rhag poen, dioddefaint, anaf a chlefydau

yn lletya gyda, neu ar wahân i, anifeiliaid eraill (lle y bo'n briodol)

Person perthnasol

goruchwyliwr

rheolwr

perchennog


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCU29.1

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal anifeiliaid

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

anifail; iechyd; lles