Cynllunio, rheoli a monitro gweithrediad a pherfformiad menter fferm
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cynllunio, rheoli a monitro gweithrediad a pherfformiad menter mewn cyd-destun rheoli fferm gyfan. Bydd mentrau o feintiau gwahanol – bach a mawr.
Mae'n rhaid i bob menter gael amcanion busnes clir a thargedau ac mae'n rhaid i'r system o gynhyrchu gael ei chynllunio i gyflawni'r rhain. Mae'n rhaid i systemau monitro a gwerthuso effeithiol fod wedi eu sefydlu ac mae'n rhaid i reolaeth menter ymateb i newid.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer cynghorwyr fferm, rheolwyr fferm neu ffermwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. diffinio amcanion a thargedau ar gyfer y fenter fferm a chynllunio system o gynhyrchu i gyflawni'r rhain
2. cadarnhau bod y cynllun yn cynhyrchu cynnyrch sy'n bodloni ac yn ymateb i ofynion newidiol cwsmeriaid/y farchnad er mwyn cynyddu cyfleoedd
3. gwerthuso datblygiad technolegau newydd a gwneud penderfyniadau ynghylch eu defnydd a'u priodolrwydd i sefyllfa'r fenter fferm
4. cael cyngor arbenigol lle bo angen
5. creu rhagolygon ffisegol ac ariannol ar gyfer y fenter fferm yn seiliedig ar y targedau
6. creu gweithdrefnau a phrotocolau i reoli a monitro perfformiad y fenter fferm
7. nodi a chadarnhau argaeledd yr adnoddau sy'n ofynnol i weithredu'r cynllun ar gyfer gweithrediad a pherfformiad menter fferm
8. cyfathrebu'r cynllun i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'r gweithredu
9. cynllunio a rheoli'r system o greu'r fenter mewn ffordd sydd yn ymatebol i'r amgylchedd ac yn cyd-fynd â safonau a chodau ymarfer perthnasol
10. sefydlu mesurau i gynnal y lefelau hylendid a bioddiogelwch gofynnol a chadarnhau eu bod wedi cael eu gweithredu
11. sefydlu mesurau ar gyfer ailgylchu neu waredu gwastraff ac is-gynnyrch yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol, a chadarnhau eu bod wedi cael eu gweithredu
12. cadarnhau bod dulliau gwaith yn cynnal iechyd a diogelwch a'u bod yn cyd-fynd â deddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion sefydliadol
13. cadarnhau bod y rheiny sydd yn gysylltiedig â gweithrediad y fenter fferm yn defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE) priodol
14. dehongli a gweithredu newidiadau sydd yn deillio o gyfarwyddebau polisi allanol a fframweithiau fel y fframwaith dŵr, Parthau Perygl Nitradau, trawsgydymffurfio
15. monitro cydymffurfio â chynlluniau sicrhau ansawdd perthnasol a defnyddio'r wybodaeth hon i gynyddu cyfleoedd yn y farchnad
16. monitro a gwerthuso gweithrediad a pherfformiad y fenter fferm yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod targedau ac amcanion yn cael eu bodloni a gwneud newidiadau fel y bo angen
17. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer, gofynion sicrhau ansawdd a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. amcanion a thargedau'r fenter fferm
2. yr angen i'r fenter ategu'r cymysgedd o fusnes cyfan y fferm, gan ddefnyddio cyfleoedd ategol ond osgoi materion cystadleuol
3. galw'r farchnad/cwsmeriaid am gynnyrch penodol mewn perthynas â swm, maint/cyfaint, ansawdd, manyleb, tymoroldeb a thueddiadau newidiol
4. y systemau cynhyrchu gwahanol sydd ar gael ar gyfer y fenter fferm
5. egwyddorion systemau cynhyrchu cynaliadwy
6. y materion moesegol sy'n ymwneud â gweithrediad y fenter fferm
7. manylion a diben cynlluniau sicrhau ansawdd a'u dylanwad ar lwyddiant y fenter fferm
8. sut gellir defnyddio technoleg, er enghraifft, i wella gweithrediad a pherfformiad y fenter fferm
9. y ffynonellau gwybodaeth a'r cyngor arbenigol ar weithrediad a pherfformiad menter fferm
10. sut i gynllunio gweithrediad a pherfformiad y fenter fferm i fodloni amcanion a thargedau wedi eu diffinio
11. sut i greu rhagolygon a chyllidebau a sut i gyflwyno system reoli ffisegol ac ariannol effeithiol er mwyn asesu cydrannau perfformiad beirniadol y fenter fferm
12. sut i bennu'r adnoddau dynol, ariannol, materol a chyfalaf sydd yn angenrheidiol i gyflawni'r cynllun ar gyfer gweithrediad a pherfformiad menter fferm
13. y dulliau o gyfathrebu cynlluniau a gweithdrefnau i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'u gweithredu
14. y dulliau o gynnal hylendid a bioddiogelwch a'r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig
15. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo, storio, ailgylchu a gwaredu gwastraff ac is-gynnyrch
16. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch, a hylendid bwyd, codau ymarfer a gofynion sefydliadol perthnasol
17. pwysigrwydd cadarnhau bod yr offer amddiffynnol personol (PPE) cywir yn cael ei ddefnyddio gan y rheiny sydd yn gweithio yn y fenter fferm
18. yr angen am reolaeth ofalus a monitro ac adolygu perfformiad y fenter fferm yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod amcanion a thargedau'n cael eu bodloni a'r systemau cofnodi a'r pecynnau sydd ar gael ar gyfer cyflawni hyn
19. sut y gallai dylanwadau mewnol ac allanol effeithio ar berfformiad y fenter fferm, fel newidiadau mewn prisiau yn deillio o amodau'r farchnad, a'r newidiadau y gallai fod angen eu gwneud i'r cynllun
20. y gofynion ar gyfer adrodd a chofnodi'r hyd y dylid cadw cofnodion