Cynhyrchu, gweithredu a monitro rheoli amgylchedd fferm
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cynhyrchu, gweithredu a monitro cynllun rheoli amgylchedd fferm, i gydymffurfio â chyfarwyddebau a fframweithiau rheoli yn yr amgylchedd naturiol.
Mae'r safon yn berthnasol i reoli pob math o weithgareddau, ar y fferm ac yn yr amgylchedd ehangach.
Mae'r safon yn mabwysiadu'r rhagosodiad bod rheolaeth amgylcheddol dda yn cael ei hintegreiddio i arferion rheoli cyffredinol y fferm a'i bod yn barhaus. Ei nod yw defnyddio'r cydbwysedd naturiol rhwng rheolaeth fasnachol ac amgylcheddol.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am reoli fferm.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. nodi dynodiadau amgylcheddol a chyfarwyddebau sy'n ymwneud â'r fferm, ac ymgorffori eu gofynion i broses cynllunio rheolaeth y fferm
2. cynyddu buddion dynodiadau i'r fferm o ran y cymysgedd amaeth-amgylcheddol
3. ymchwilio i gynlluniau grant amgylcheddol perthnasol i wneud y defnydd pennaf o'r cyllid a'r cymorth sydd ar gael, yn cynnwys cynlluniau'n ymwneud â statws fel rheolaeth integredig, organig ac ati a'u cymhwysiad posibl a'u buddion
4. gwerthuso datblygiad technolegau a syniadau newydd a gwneud penderfyniadau ynghylch eu defnydd a'u priodolrwydd i'r cynllun rheoli amgylchedd fferm
5. cael archwiliad amgylcheddol ar gyfer y fferm, yn cynnwys asesu effaith ar iechyd lle bo angen, i ddangos gwerth amgylcheddol cyfredol y tir a'i botensial i gyflwyno buddion amgylcheddol ychwanegol
6. cadarnhau bod yr archwilio yn nodi nodweddion amgylcheddol ac yn cynnwys data/mapiau sydd yn dangos manylion y nodweddion yn cynnwys lleoliad a chyflwr presennol
7. cael cyngor arbenigol lle bo angen
8. gan ddefnyddio'r archwiliad fferm, creu cynllun rheolaeth amgylcheddol fferm yn cynnwys y camau sy'n ofynnol ar gyfer bob un o'r nodweddion a nodwyd ac unrhyw gyfleoedd ar gyfer creu nodweddion newydd
9. cadarnhau bod y cynllun yn dangos cydbwysedd da rhwng ffermio a chadwraeth amgylcheddol ac yn ymgorffori ymagwedd fferm gyfan
10. nodi blaenoriaethau'r cynllun a'r graddfeydd amser posibl
11. dewis dulliau rheoli priodol i gyflawni'r amcanion a gynlluniwyd
12. creu cynlluniau gwaith a manylebau ar gyfer gweithredu cynllun rheolaeth amgylcheddol fferm
13. cael caniatâd i wneud y gwaith gan yr awdurdod perthnasol, lle y bo'n briodol
14. nodi a chadarnhau argaeledd yr adnoddau sy'n ofynnol i weithredu cynllun rheolaeth amgylcheddol y fferm
15. cyfathrebu'r cynllun i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'r gweithredu a phartïon eraill â diddordeb
16. rheoli gweithrediad cynllun rheolaeth amgylcheddol y fferm a bod yn barod ar gyfer arolygiad ac archwiliad gan sefydliadau allanol
17. sefydlu mesurau i gynnal y lefel hylendid a bioddiogelwch gofynnol a chadarnhau bod y rhain wedi cael eu gweithredu
18. sefydlu mesurau ar gyfer ailgylchu neu waredu gwastraff ac is-gynnyrch yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol a chadarnhau eu bod wedi cael eu gweithredu
19. cadarnhau bod dulliau gwaith yn cynnal iechyd a diogelwch ac yn cyd-fynd â deddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion sefydliadol
20. cadarnhau bod y rheiny sydd yn gysylltiedig â gwneud y gwaith rheoli amgylcheddol yn defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE) priodol
21. monitro a gwerthuso'r gwaith o weithredu cynllun rheolaeth amgylcheddol y fferm a defnyddio'r data a'r wybodaeth yma i lywio gwaith rheoli amgylcheddol yn y dyfodol
22. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer, gofynion sicrhau ansawdd a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. sut i gael archwiliad fferm amgylcheddol a pha nodweddion y mae angen eu cofnodi
2. sut i adnabod gwerth amgylcheddol safleoedd a sut gallai hyn effeithio ar waith cynllunio
3. gofynion a buddion posibl dynodiadau, cyfarwyddebau, cynlluniau a rhaglenni perthnasol
4. y mathau o waith a safleoedd lle mae angen caniatâd
5. sut i greu cynllun rheolaeth amgylcheddol fferm integredig yn cynnwys amcanion a graddfeydd amser
6. sut i bennu'r gweithgaredd rheoli sy'n ofynnol ar gyfer bob un o'r nodweddion a nodwyd a allai fod yn adfer, cynnal, ail-greu neu greu
7. sut i asesu ôl troed carbon y fferm a sicrhau mai nod cynllun rheolaeth amgylcheddol y fferm yw lleihau'r cyfraniad i allyriadau carbon lle y bo'n bosibl
8. sut mae cynllun rheolaeth amgylcheddol y fferm yn bodloni amcanion amgylcheddol y fferm, cynlluniau gweithredu amcanion amgylcheddol y fferm, cynlluniau gweithredu bioamrywiaeth lleol a chenedlaethol a/neu gynlluniau amaeth-amgylcheddol
9. y ffynonellau gwybodaeth a chyngor arbenigol am reolaeth amgylcheddol fferm
10. sut i greu cynlluniau gwaith effeithlon a manylebau sy'n cyflwyno'r safonau gofynnol ar gyfer rheolaeth amgylcheddol fferm
11. sut i bennu'r adnoddau dynol, ariannol, materol a chyfalaf angenrheidiol i gyflawni cynllun rheolaeth amgylcheddol y fferm
12. yr angen am, a'r broses o, gynllunio wrth gefn
13. y dulliau o gyfathrebu cynlluniau a manylebau gyda chontractwyr, timau gwaith a phartïon eraill â diddordeb
14. sut i oruchwylio'r gwaith o weithredu cynllun rheolaeth amgylcheddol y fferm
15. y dulliau o gynnal hylendid a bioddiogelwch a'r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig
16. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo, storio, ailgylchu a gwaredu gwastraff ac is-gynnyrch
17. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a gofynion sefydliadol
18. pwysigrwydd cadarnhau bod yr offer amddiffynnol personol (PPE) cywir yn cael ei ddefnyddio wrth wneud gweithgareddau rheoli amgylcheddol
19. sut i fonitro a gwerthuso llwyddiant y cynllun rheolaeth fferm amgylcheddol a sut i bennu faint o amser y dylai monitro ei gymryd
20. sut i ddefnyddio canlyniadau monitro i wella cynllunio i'r dyfodol
21. y gofynion ar gyfer adrodd a chofnodi a hyd cadw cofnodion
22. y gofynion ar gyfer arolygu ac archwilio gan sefydliadau allanol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai dynodiadau a chyfarwyddebau gynnwys:
- Parc Cenedlaethol
- Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)
- Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (SAC)
- Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (SPA),
- Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AONB)
- Safle Treftadaeth y Byd (WHS)
- Safle Archeolegol
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Parth Perygl Nitradau (NVZ)
- Parthau Diogelu Dŵr Yfed
- Henebion Cofrestredig (SM)
- Adeiladau Rhestredig (LB)
- Parciau a Gerddi Cofrestredig (RPG)
- Meysydd Rhyfel Cofrestredig (RB)
- Safleoedd a nodwyd ar y Cofnod Amgylchedd hanesyddol (HER).
Gallai nodweddion gynnwys:
- Rhywogaethau bywyd gwyllt
- Cynefinoedd
- Adeileddau hanesyddol
- Muriau cerrig
- Coed hynafol
- Coedwrych
- Adar
- Tirwedd
- Priddoedd agored i niwed
- Ffynonellau dŵr
- Perllannau traddodiadol
- Gwarchodaeth adnoddau naturiol
- Mynediad cyhoeddus