Rheoli a monitro cynlluniau pori glaswelltir a phorthiant

URN: LANAgM6
Sectorau Busnes (Suites): Rheolaeth Amaethyddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2018

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn cynnwys rheoli a monitro cynlluniau pori glaswellt a phorthiant ar gyfer cynhyrchu anifeiliaid fferm. Mae rheoli pori glaswellt a phorthiant yn faes allweddol yn pennu proffidioldeb mentrau anifeiliaid fferm.

Mae'r safon hon yn cynnwys amrywiaeth o systemau pori glaswellt a phorthiant sy'n cael eu defnyddio ar ffermydd anifeiliaid, yn arbennig ffermydd llaeth, ac mae'n cynnwys cynhyrchu, rheoli a monitro cynlluniau pori glaswellt a phorthiant.  Mae hefyd yn cynnwys gofynion cyfrifo, gwerthuso cnydau posibl a chyllidebu glaswellt, yn cynnwys sut i ddefnyddio gwybodaeth am orchuddion glaswellt.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer ffermwyr, rheolwyr fferm a chynghorwyr fferm.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. rheoli a monitro cynlluniau pori glaswellt a phorthiant y sefydliad, gan baru'r system cynhyrchu anifeiliaid fferm ddewisol
  2. gwerthuso technolegau newydd ac asesu'r buddion tebygol i reoli a monitro'r cynlluniau pori glaswellt a phorthiant
  3. cael cyngor arbenigol lle bo angen
  4. cyfrifo gofynion glaswellt a phorthiant yn seiliedig ar y system cynhyrchu anifeiliaid fferm ddewisol a'r adnoddau sydd ar gael
  5. defnyddio technegau cyllidebu glaswellt, yn cynnwys mesur gorchuddion glaswellt, a gweithredu yn ôl y gofyn
  6. nodi a chadarnhau argaeledd yr adnoddau sydd eu hangen i weithredu cynlluniau pori glaswellt a phorthiant
  7. cyfathrebu'r cynlluniau pori glaswellt a phorthiant i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'r gweithredu
  8. sefydlu mesurau i gynnal y lefelau hylendid a bioddiogelwch gofynnol a chadarnhau eu bod wedi cael eu gweithredu
  9. cadarnhau bod dulliau gweithio yn cynnal iechyd a diogelwch ac yn cyd-fynd â deddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion sefydliadol
  10. monitro canlyniadau'r cynlluniau pori glaswellt a phorthiant a'u cymharu â'r meincnodau perthnasol
  11. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer, gofynion sicrhau ansawdd a pholisïau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i reoli a monitro cynlluniau pori glaswellt a phorthiant er mwyn sicrhau proffidioldeb y fenter
  2. sut i ddod o hyd i dechnoleg newydd a sut i werthuso ei defnyddioldeb i reolaeth a monitro'r cynlluniau pori glaswellt a phorthiant
  3. sut i fonitro ac archwilio cnydau porthiant a glaswellt a'r ffactorau sy'n effeithio ar gynhyrchu porthiant
  4. cynnyrch, cost a buddion maeth posibl ystod o gnydau porthiant a glaswellt addas
  5. y systemau cynhyrchu anifeiliaid fferm gwahanol sy'n cael eu defnyddio a'u gofynion glaswellt a phorthiant
  6. y dulliau o gyfrifo gofynion glaswellt a phorthiant blynyddol, gan baru'r system cynhyrchu anifeiliaid fferm â gofynion y cynlluniau pori glaswellt a phorthiant
  7. swyddogaeth cyllidebu glaswellt, gan ystyried ffactorau sy'n effeithio ar argaeledd glaswellt, cyfraddau twf, ansawdd a derbyn anifeiliaid fferm newydd yn ystod y tymor pori
  8. y ffynonellau gwybodaeth a'r cyngor arbenigol ar ddatblygu cynlluniau pori glaswellt a phorthiant
  9. sut i bennu'r adnoddau dynol, ariannol, materol a chyfalaf sydd eu hangen i gyflawni'r cynlluniau pori glaswellt a phorthiant
  10. y dulliau o gyfathrebu cynlluniau pori glaswellt a phorthiant i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'u gweithredu
  11. y dulliau o gynnal hylendid a bioddiogelwch a'r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig
  12. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch a hylendid bwyd perthnasol, codau ymarfer a gofynion sefydliadol
  13. sut i fesur a dehongli gorchudd cnydau porthiant a glaswellt trwy gydol y tymor tyfu
  14. y dulliau o fonitro perfformiad anifeiliaid fferm o borthiant wedi ei gadw a glaswellt a phorthiant wedi ei bori, yn cynnwys defnyddio'r cofnodion a'r data cymharol perthnasol
  15. addasrwydd y safle a'r amgylchedd cyfagos ar gyfer pori anifeiliaid fferm
  16. y gofynion ar gyfer adrodd a chofnodi a'r hyd y dylid cadw cofnodion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai cnydau porthiant sy'n cael eu pori gynnwys:

    • cnydau bresych e.e. bresych crych
    • bonion maip
    • rwdins
    • rêp porthiant
    • betys porthiant
    • rhyg porthiant
    • pys/ffa porthiant
    • ysgellog
    • maglys
    • meillion
    • ffawlys


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAgM6

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Rheolwr Fferm, Cynghorydd Technegol Amaethyddol

Cod SOC

9111

Geiriau Allweddol

cnwd; cae; glaswellt; anifeiliaid fferm; fferm; porthiant