Cynllunio a rheoli cynaeafu a storio glaswellt a phorthiant
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys yr angen i gynllunio a rheoli cynaeafu a storio glaswellt a phorthiant. Mae rheoli glaswellt a phorthiant yn faes allweddol yn pennu proffidioldeb mentrau anifeiliaid fferm.
Mae'r safon hon yn cynnwys y systemau glaswellt a phorthiant amrywiol sy'n cael eu defnyddio ar ffermydd anifeiliaid, yn arbennig ffermydd llaeth, ac mae ar gyfer y rheiny sydd yn gwarchod porthiant sylweddol. Mae'n cynnwys cynaeafu, storio a defnyddio cnwd.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer ffermwyr, rheolwyr fferm a chynghorwyr fferm.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynllunio a rheoli cynaeafu a storio cnydau porthiant a glaswellt, lleihau colledion cnydau a chynnal ansawdd
- cynllunio a threfnu gweithgareddau cynaeafu glaswellt a phorthiant
- asesu'r cnwd porthiant neu laswellt a chyflwr y ddaear i gadarnhau addasrwydd ar gyfer cynaeafu
- nodi a chadarnhau argaeledd yr adnoddau sy'n ofynnol ar gyfer cynaeafu a storio cnydau porthiant a glaswellt yn llwyddiannus
- cyfathrebu'r cynllun cynaeafu a storio i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'i weithredu
- sefydlu mesurau i gynnal y lefelau hylendid a bioddiogelwch gofynnol a chadarnhau eu bod wedi cael eu gweithredu
- sefydlu mesurau ar gyfer ailgylchu neu waredu gwastraff ac isgynnyrch, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol, a chadarnhau eu bod wedi cael eu gweithredu
- cadarnhau bod dulliau gwaith yn cynnal iechyd a diogelwch ac yn cyd-fynd â deddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion sefydliadol
- cadarnhau bod y rheiny sydd yn gysylltiedig â chynaeafu a storio cnydau porthiant a glaswellt yn defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE) priodol
- monitro'r broses gynaeafu ac addasu cynlluniau lle bo angen, er enghraifft, oherwydd cyflwr y cnwd neu'r tywydd
- rheoli'r gwaith o gludo'r cnwd wedi ei gynaeafu o'r cae gan ddefnyddio offer addas
- rheoli cyfleusterau storio ar gyfer y cnwd wedi ei gynaeafu yn unol â'r gofynion amgylcheddol
- gwerthuso'r defnydd o ychwanegion silwair i hybu ansawdd porthiant
- monitro ac asesu maint ac ansawdd y cnydau porthiant a glaswellt sydd yn cael eu storio a chysylltu'r rhain â gofynion anifeiliaid fferm, gan gymryd camau priodol lle bo angen
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer, gofynion sicrhau ansawdd a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. pwysigrwydd cynllunio a rheoli cynaeafu a storio cnydau porthiant a glaswellt, er mwyn sicrhau proffidioldeb y fenter
2. sut i werthuso buddion cost dulliau amrywiol o gynaeafu yn cynnwys, er enghraifft, y defnydd o gontractwyr a chylchoedd peiriannau
3. y ffactorau a allai effeithio ar ansawdd cnwd neu golledion cnwd wrth gynaeafu
4. yr amodau sydd yn dangos bod y cnwd a'r ddaear yn addas ar gyfer cynaeafu
5. sut i bennu'r adnoddau dynol, ariannol, materol a chyfalaf sydd yn angenrheidiol ar gyfer cynaeafu a storio cnydau porthiant a glaswellt
6. y dulliau o gyfathrebu cynlluniau a gweithdrefnau cynaeafu a storio i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'r gweithredu
7. y dulliau o gynnal hylendid a bioddiogelwch a'r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig
8. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo, storio, ailgylchu a gwaredu gwastraff ac is-gynnyrch
9. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a gofynion sefydliadol
10. pwysigrwydd cadarnhau bod yr offer amddiffynnol personol (PPE) cywir yn cael ei ddefnyddio wrth gynaeafu a storio cnydau porthiant a glaswellt
11. y gofynion cludo ar gyfer symud y cnwd wedi ei gynaeafu i gael ei storio
12. y gofynion storio ar gyfer cnydau porthiant a glaswellt gwahanol a sut dylid cynnal y cyfleusterau hyn
13. sut i ddehongli unrhyw ddadansoddiadau o gnydau wedi eu cynaeafu
14. mathau a dulliau cymhwyso ychwanegion silwair a phryd y gallai eu defnydd fod yn gost effeithiol
15. y ffactorau sy'n achosi storio gwael a sut bydd y rhain yn dylanwadu ar ansawdd y cnydau porthiant neu laswellt sydd wedi eu gwarchod
16. sut i reoli cnydau porthiant a glaswellt tra'u bod yn cael eu storio
17. sut i gynllunio a chyfrifo ansawdd glaswellt a phorthiant sy'n cael ei storio ar unrhyw adeg
18. y gofynion ar gyfer adrodd a chofnodi a'r hyd y dylid cadw cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae cnydau porthiant sy'n cael eu cynaeafu yn cynnwys:
- rhyg porthiant
- ysgellog
- maglys
- meillion
- ffawlys