Cynllunio a rheoli glaswellt a chnydau porthiant ar gyfer pori a gwarchod anifeiliaid
URN: LANAgM4
Sectorau Busnes (Suites): Rheolaeth Amaethyddol,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys yr angen i gynllunio a rheoli glaswellt a chnydau porthiant ar gyfer pori a gwarchod anifeiliaid. Mae rheoli porthiant yn faes allweddol yn pennu proffidioldeb mentrau anifeiliaid.
Mae’r safon hon yn cynnwys amrywiaeth o systemau porthiant, pori a chadwraeth sy’n cael eu defnyddio ar ffermydd anifeiliaid, yn cynnwys rheoli systemau pori estynedig, cyllidebu glaswellt a rheoli pori.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer ffermwyr, rheolwyr fferm, rheolwyr unedau menter, pobl stoc, cynghorwyr fferm, crofftwyr a thyddynwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfrifo gofynion glaswellt a chnwd porthiant ar gyfer yr anifeiliaid yn eich system gynhyrchu
- creu cynllun ar gyfer glaswellt a chnydau porthiant, sydd yn cyd-fynd â’r system cynhyrchu anifeiliaid ddewisol
- cael cyngor arbenigol lle bo angen
- cynllunio a rheoli cynllun pori a chadwraeth sy’n bodloni gofynion yr anifeiliaid yn eich system gynhyrchu
- cynllunio a rheoli sefydlu amrywiaeth o laswellt a chnydau porthiant fydd yn rhoi’r maeth sydd ei angen ar anifeiliaid ac sydd o fudd i fioamrywiaeth ac iechyd y pridd
- nodi cyflwr y pridd, yn unol â’r gofynion cynhyrchu glaswellt a chnwd porthiant ac ymneilltuad carbon
- rheoli cyflwr y pridd, yn unol â’r gofynion glaswellt a chnwd porthiant
- nodi ble byddai taenu maethynnau ar y pridd o fudd
- lle bo angen, cynllunio a rheoli rhaglen ar gyfer cyflenwi maethynnau ar gyfer y glaswellt a’r cnydau porthiant, gan ystyried gofynion ar gyfer twf cnwd, gofynion cynhyrchu a’r dulliau gwahanol o gyflenwi maethynnau
- defnyddio technegau cyllidebu glaswellt, yn cynnwys mesur gorchuddion glaswellt, a chymryd camau lle bo angen
- nodi a chadarnhau argaeledd yr adnoddau sydd yn angenrheidiol i weithredu’r cynllun glaswellt a chnydau porthiant
- cyfathrebu’r cynllun glaswellt a chnydau porthiant wrth y rheiny sydd yn gysylltiedig â’i weithredu
- rheoli gweithredu’r cynllun glaswellt a chnydau porthiant
- cadarnhau bod maint ac ansawdd y glaswellt a’r cnydau porthiant yn bodloni’r gofynion i gefnogi pori a gwarchod anifeiliaid
- rheoli cynlluniau pori a gwarchod er budd cynefinoedd, rhywogaethau a rheoli chwyn, plâu a chlefydau a nodir, a monitro’r canlyniadau
- sefydlu mesurau i gynnal lefelau gofynnol hylendid a bioddiogelwch a chadarnhau eu bod wedi cael eu gweithredu
- cadarnhau bod dulliau gwaith yn hybu iechyd a diogelwch a’u bod yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion busnes
- monitro canlyniadau’r cynllun glaswellt a chnydau porthiant a chymharu’r canlyniadau â meincnodau’r diwydiant perthnasol
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a’u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer, gofynion sicrhau ansawdd a pholisïau busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y dulliau o gyfrifo gofynion glaswellt a phorthiant blynyddol ar gyfer yr anifeiliaid yn eich system gynhyrchu
- sut i greu cynllun ar gyfer gofynion glaswellt a phorthiant sy’n cyd-fynd â’r system cynhyrchu anifeiliaid ddewisol
- y ffynonellau gwybodaeth a chyngor arbenigol
- y dulliau gwahanol o archwilio strwythur pridd a’r ffactorau sydd yn gallu effeithio ar y strwythur
- y ffordd y bydd priddoedd gwahanol yn pennu cynlluniau glaswellt a chnydau porthiant
- y dulliau o wella strwythur pridd ar gyfer glaswellt a chnydau porthiant
- technegau samplu pridd a sut i ddefnyddio canlyniadau dadansoddi pridd wrth gynllunio gofynion maeth
- y gofynion maeth ar gyfer glaswellt a chnydau porthiant gwahanol
- y mathau o faethynnau pridd, dulliau taenu gwahanol, a phryd y dylid eu cymhwyso
- y gofynion deddfwriaeth amgylcheddol perthnasol ar gyfer darparu maethynnau pridd
- y cynnyrch posibl, costau a buddion maeth ac amgylcheddol amrywiaeth o laswellt a chnydau porthiant
- manteision ac anfanteision mathau gwahanol o laswellt a chnydau porthiant
- y dulliau gwahanol o sefydlu a rheoli amrywiaeth o laswellt a chnydau porthiant
- swyddogaethau cyllidebu glaswellt, gan ystyried ffactorau sy’n effeithio ar argaeledd glaswellt, cyfraddau twf, ansawdd ac ymgymeriad anifeiliaid newydd yn ystod y tymor pori
- sut i fesur a dehongli gorchudd glaswellt a chnydau porthiant trwy gydol y tymor pori
- problemau posibl plâu, chwyn a chlefydau a sut i reoli’r rhain
- y dulliau o fonitro perfformiad anifeiliaid o borthiant wedi ei warchod a glaswellt a phorthiant sy’n cael ei bori, yn cynnwys defnyddio’r cofnodion perthnasol a data cymharol
- y camau i’w cymryd i wella perfformiad hirdymor a thymor byr anifeiliaid o laswellt a phorthiant sy’n cael ei bori
- buddion y defnydd cywir o wrtaith anifeiliaid yn lleihau costau mewnbwn
- sut i bennu’r adnoddau dynol, ariannol, materol a chyfalaf sydd yn angenrheidiol i gyflawni’r cynllun glaswellt a chnydau porthiant
- y dulliau o gyfathrebu’r cynlluniau glaswellt a chnydau porthiant wrth y rheiny sydd yn gysylltiedig â’u gweithredu
- y dulliau o gynnal hylendid a bioddiogelwch a’r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig
- eich cyfrifoldebau yn unol â’r gofynion amgylcheddol, iechyd a diogelwch, codau ymarfer a busnes perthnasol
- y gofynion ar gyfer adrodd a chofnodi’r amser y dylid cadw cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai glaswellt a chnydau porthiant gynnwys:
• cnydau bresych e.e. bresych crych
• maip bonion
• rwden
• rêp porthiant
• betysen borthiant
• rhyg porthiant
• pys/ffa porthiant
• ysgellog
• maglys
• meillion
• ffawlys
• perlysiau buddiol
• glaswellt yn llawn rhywogaethau
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANAgM4
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermwr, Rheolwr Fferm, Cynghorydd Technegol Amaethyddol, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
glaswellt; maes; pori; anifail; anifeiliaid; maethynnau; pridd; fferm; porthiant