Cynllunio a monitro symud anifeiliaid

URN: LANAgM3
Sectorau Busnes (Suites): Rheolaeth Amaethyddol,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys cynllunio symud anifeiliaid, yn unol â gofynion busnes a chyfreithiol perthnasol, yn ogystal â monitro symud anifeiliaid yn erbyn cynllun symud.

Gallai symud anifeiliaid fod yn ofyniad am amrywiaeth o resymau, yn cynnwys symud fel mater o drefn neu ddisgwyliedig a symud brys neu annisgwyl. Gallai symud fel mater o drefn neu ddisgwyliedig gynnwys patrymau pori cymhleth (cylchdroi), adleoli cenfaint o foch, cynllunio symud anifeiliaid yn barod ar gyfer y farchnad neu ar gyfer sioeau, symud o fferm i dir comin, yn ogystal â mynd â gwartheg i’r parlwr godro, gweithdrefnau stoc arferol eraill neu fynd ag anifeiliaid i lety addas yn ystod cyfnodau gwahanol o’r cylch cynhyrchu neu i’r lladd-dy. Mae angen i weithdrefnau fod yn eu lle hefyd i ymateb i symud anifeiliaid ar frys neu’n annisgwyl yn sgil newidiadau yn y tywydd neu am resymau eraill.  

Bydd angen cynllunio’r holl symudiadau a bydd angen i’r cynllunio ystyried yr effaith y bydd symud yn ei gael ar y fenter a busnes y fferm gyfan. Bydd hefyd yn angenrheidiol monitro ac adolygu effeithiolrwydd y symud, p’un ai’n fater o drefn neu ar frys.
 
Mae iechyd a lles yr anifeiliaid ac atal clefydau rhag cael eu trosglwyddo yn hollbwysig.

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd angen symud anifeiliaid o un lle i’r llall.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cynllunio symud anifeiliaid, gan ystyried y rhesymau dros symud a phroblemau posibl a allai godi, yn ogystal â’r effaith y bydd symud yn ei gael ar y fenter a busnes y fferm gyfan
  2. cadarnhau argaeledd ac addasrwydd y lleoliad y mae’r anifeiliaid yn cael eu symud iddo
  3. nodi a chadarnhau argaeledd yr adnoddau sydd eu hangen i weithredu symud anifeiliaid
  4. dewis llwybr addas ar gyfer symud anifeiliaid
  5. datblygu gweithdrefnau symud anifeiliaid y gall y rheiny sydd yn gysylltiedig eu dilyn ac y bydd yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer y diwydiant a pholisïau busnes
  6. cyfathrebu’r cynllun ar gyfer symud anifeiliaid wrth y rheiny sydd yn gysylltiedig â’r gweithredu, ac unrhyw un arall sydd wedi eu heffeithio gan y symud 
  7. sefydlu mesurau i gynnal lefelau addas o hylendid a bioddiogelwch wrth symud anifeiliaid, a chadarnhau bod y rhain wedi cael eu gweithredu
  8. ystyried statws iechyd yr anifeiliaid sydd yn cael eu symud a’r risgiau posibl y mae anifeiliaid cyfagos yn eu cyflwyno
  9. cadarnhau bod dulliau gwaith yn cynnal iechyd a diogelwch a’u bod yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion busnes
  10. cadarnhau bod y rheiny sydd yn gysylltiedig â symud anifeiliaid fferm wedi cael hyfforddiant digonol yn trin a symud anifeiliaid, a bod y system drin yn ddiogel ac yn hawdd i’w defnyddio ar gyfer pobl ac anifeiliaid
  11. cadarnhau bod y rheiny sydd yn gysylltiedig â symud anifeiliaid yn defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE)
  12. monitro gweithredu ac effeithiolrwydd symud anifeiliaid 
  13. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a’u storio fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer, gofynion sicrhau ansawdd a pholisïau busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. yr amgylchiadau sy’n ei wneud yn ofynnol i anifeiliaid gael eu symud, fel cylch cynhyrchu, tymoroldeb, oed, aeddfedrwydd rhywiol, gofynion maeth, yr angen i ynysu, prynu, gwerthu, arddangos neu tywydd eithafol
  2. y rheoliadau perthnasol sydd yn cynnwys symud anifeiliaid ac sydd yn pennu pryd yr ystyrir anifail yn addas i gael ei symud
  3. yr effeithiau posibl y bydd symud anifeiliaid yn eu cael ar y fenter, busnes y fferm gyfan ac unrhyw un arall sydd wedi eu heffeithio gan y symud
  4. pwysigrwydd sicrhau bod symud anifeiliaid yn cael ei gynllunio a’i gyfathrebu’n glir i bawb sydd yn gysylltiedig 
  5. y ffactorau sy’n effeithio ar y dewis o lwybr wrth symud anifeiliaid
  6. sut i bennu’r adnoddau dynol, ariannol, materol a chyfalaf sydd yn angenrheidiol i symud yr anifeiliaid
  7. y ffordd y mae gan anifeiliaid anghenion gwahanol, cyn, yn ystod ac ar ôl eu symud, a sut i nodi’r rhain yn ôl newidiadau ymddygiadol
  8. y ffordd y gellir peryglu bioddiogelwch ac iechyd yr anifail o ganlyniad i symud anifeiliaid a pha fesurau y gellir eu sefydlu i atal hyn 
  9. y cymwyseddau sydd eu hangen gan y rheiny sydd yn gysylltiedig er mwyn i drin a symud anifeiliaid fod yn ddiogel ac yn llwyddiannus
  10. pwysigrwydd cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) cywir yn cael ei ddefnyddio wrth symud anifeiliaid
  11. pryd y mae’n angenrheidiol marcio neu nodi’r anifeiliaid sydd yn cael eu symud a sut gellir gwneud hyn
  12. y ffordd y gallai symudiadau anifeiliaid gael effeithiau amgylcheddol posibl
  13. pwysigrwydd cadarnhau bod symud anifeiliaid yn dilyn y ddeddfwriaeth berthnasol a chodau ymarfer y diwydiant
  14. pwysigrwydd monitro symud anifeiliaid, a’r amgylchiadau a allai bennu’r angen i wneud newidiadau i’r cynllun, naill ai ar unwaith neu ar gyfer symudiadau yn y dyfodol
  15. y gofynion ar gyfer adrodd a chofnodi a’r amser y dylid cadw cofnodion


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​Mae’r safon hon yn cynnwys symud anifeiliaid – mae cludo anifeiliaid wedi ei gynnwys yn safon LANCS55.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAgM3

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Rheolwr Fferm, Rheolwr Uned, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

anifeiliaid; lles; symud; pori; cenfaint; haid; lleoliad; gwartheg; defaid; geifr; camelod