Cynllunio a rheoli’r gwaith o storio cnydau wedi eu cynaeafu ar ôl y cynhaeaf activities

URN: LANAgM26
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Rheoli Amaethyddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2018

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn cynnwys cynllunio a rheoli'r gwaith o storio'r cnydau wedi eu cynaeafu yn dilyn gweithgareddau ar ôl y cynhaeaf.

Gall y cnydau gynnwys gwreiddgnydau, cnydau âr, llysiau, perlysiau, blodau neu ffrwythau. Bydd math a hyd yr amser storio yn amrywio yn ôl y math o gnwd a gofynion y farchnad/cwsmeriaid.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros reoli cnydau wedi eu cynaeafu sydd yn cael eu storio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis dulliau storio sy'n briodol i'r cnydau sy'n cael eu cynaeafu, eu cyrchfan derfynol a gofynion cwsmeriaid/y farchnad
  2. creu cynlluniau ar gyfer storio cnydau wedi eu cynaeafu yn dilyn gweithgareddau ar ôl y cynhaeaf
  3. nodi a chadarnhau argaeledd yr adnoddau sy'n ofynnol i weithredu'r cynllun storio
  4. cadarnhau argaeledd cyfleusterau storio ac offer cludo addas
  5. creu gweithdrefnau a phrotocolau ar gyfer storio cnydau wedi eu cynaeafu yn dilyn gweithgareddau ar ôl y cynhaeaf
  6. cyfathrebu'r cynllun a'r gweithdrefnau i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'i weithredu
  7. sefydlu mesurau i gynnal y lefel ofynnol o hylendid a bioddiogelwch a chadarnhau eu bod wedi cael eu gweithredu
  8. sefydlu mesurau ar gyfer ailgylchu neu waredu gwastraff ac is-gynnyrch yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol, a chadarnhau eu bod wedi cael eu gweithredu
  9. cadarnhau bod dulliau gwaith yn hybu iechyd a diogelwch ac yn cyd-fynd â deddfwriaeth, codau ymarfer a gofynion sefydliadol perthnasol
  10. cadarnhau bod y rheiny sydd yn gysylltiedig â chludo a storio cnydau wedi eu cynaeafu yn defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol
  11. rheoli'r broses gludo a storio a chadarnhau bod yr holl weithgareddau'n bodloni'r gofynion
  12. rheoli'r amgylchedd a chyflwr y cnydau a chadarnhau eu bod yn cael eu cynnal ar eu hansawdd gorau
  13. gwerthuso effeithiolrwydd y storfa yn erbyn y cynllun a, lle bo angen, cymryd camau i ddiwygio'r cynllun
  14. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cynnal a'u storio fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth, codau ymarfer, gofynion sicrhau ansawdd a pholisïau sefydliadol perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y dibenion gwahanol ar gyfer storio cnydau wedi eu cynaeafu i fodloni gofynion y gyrchfan derfynol a'r cwsmeriaid/y farchnad
  2. sut mae anghenion cnydau yn wahanol o ran eu gofynion cludo a storio
  3. sut i ddatblygu cynllun rheoli ar gyfer storio cnydau wedi eu cynaeafu yn dilyn gweithgareddau ar ôl y cynhaeaf
  4. sut i bennu'r adnoddau dynol, ariannol, materol a chyfalaf sydd yn angenrheidiol i gyflawni'r cynllun
  5. gofynion yr ardal storio mewn perthynas â'r cnwd sy'n cael ei storio, er enghraifft y gofod sy'n ofynnol, y cynllun, y gwaith paratoi, rheoli plâu, yr amodau amgylcheddol, mynediad, diogelwch, hylendid a bioddiogelwch
  6. y dulliau gwahanol o symud a chludo cnydau a'r ddeddfwriaeth berthnasol sy'n effeithio ar y rhain, fel rheoliadau trin â llaw, rheoliadau offer codi
  7. sut i ddatblygu gweithdrefnau a phrotocolau ar gyfer storio cnydau wedi eu cynaeafu yn dilyn gweithgareddau ar ôl y cynhaeaf
  8. y dulliau o gyfathrebu cynlluniau a gweithdrefnau i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'u gweithredu
  9. y dulliau o gynnal hylendid a bioddiogelwch a'r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig
  10. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo, storio, ailgylchu a gwaredu gwastraff ac is-gynnyrch
  11. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch a hylendid bwyd, codau ymarfer a gofynion sefydliadol perthnasol
  12. pwysigrwydd cadarnhau bod yr offer amddiffynnol personol (PPE) cywir yn cael ei ddefnyddio i gludo a storio cnydau wedi eu cynaeafu
  13. y gofynion ar gyfer monitro'r amgylchedd a chyflwr y cnydau sydd wedi eu storio
  14. y camau sy'n ofynnol os bydd plâu, niwed neu halogiad yn cael eu nodi
  15. sut i asesu'r broses storio yn erbyn y cynllun rheoli
  16. achos tebygol gwyriadau o'r cynlluniau ac effaith gwyriadau ar y broses storio
  17. y gofynion ar gyfer adrodd a chofnodi a’r hyd y dylid cadw cofnodion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai cnydau gynnwys:

  • gwreiddgnydau
  • glaswellt
  • cnydau âr
  • llysiau
  • perlysiau
  • blodau
  • ffrwythau

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAgM26

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Rheolwr Fferm, Rheolwr Cynhyrchu Garddwriaeth

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

cnydau; planhigion; cynhaeaf; storfa