Cynllunio a rheoli cynaeafu cnydau a gweithgareddau ar ôl cynaeafu

URN: LANAgM25
Sectorau Busnes (Suites): Rheolaeth Amaethyddol,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys cynllunio a rheoli cynaeafu a gweithgareddau ar ôl cynaeafu ar gyfer cnydau yn cynnwys glaswellt a chnydau porthiant, grawnfwydydd/grawn, cnydau gwreiddiau, corbys, rêp had olew, hopys, llysiau, perlysiau, blodau, llwyni, coed neu ffrwythau. 

Gall cynaeafu gael ei wneud â llaw neu’n fecanyddol. Bydd dulliau cynaeafu yn dibynnu ar y math o gnwd sydd yn gysylltiedig, manylebau’r cynnyrch a’r gyrchfan. 

Gallai gweithgareddau ar ôl cynaeafu gynnwys dewis, glanhau, sychu triniaethau cyn storio, graddio, tocio, rheoli ansawdd, pacio a labelu. Bydd y math o weithgareddau’n dibynnu ar y cnwd, manylebau’r cynnyrch a’r gyrchfan.

Dylai’r rheiny sy’n gweithio gyda pheiriannau neu gyfarpar fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth.

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd â chyfrifoldeb dros gynllunio a rheoli cynaeafu a gweithgareddau ar ôl cynaeafu.

Mae cynaeafu cnydau wedi ei gynnwys yn LANAgc5 Cynaeafu cnydau trwy ddulliau mecanyddol a LANH50 Cynaeafu cnydau â llaw.

Mae gweithgareddau ar ôl cynaeafu wedi eu cynnwys yn LANH52 Cynnal gweithgareddau ar ôl cynaeafu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r safle a’r gweithrediadau cynaeafu
  2. nodi’r gyrchfan a manylebau’r farchnad/cwsmer ar gyfer y cynnyrch sy’n cael ei gynaeafu, a gofyniad unrhyw gynlluniau sicrhau ansawdd
  3. nodi dulliau a phrosesau cynaeafu sy’n cynyddu’r potensial cynaeafu ac yn bodloni manylebau’r cynnyrch
  4. nodi gweithgareddau ar ôl cynaeafu sydd yn angenrheidiol i fodloni manylebau’r cynnyrch a’r gyrchfan
  5. cynllunio ac amserlennu cynaeafu’r cnwd a’r gweithgareddau ar ôl cynaeafu i fodloni manyleb y cynnyrch a pharodrwydd y cnwd 
  6. nodi a sefydlu argaeledd yr adnoddau sydd eu hangen i gynnal y gweithrediadau cynaeafu a gweithgareddau ar ôl cynaeafu
  7. cadarnhau bod y dulliau gweithio a’r cynllun wedi eu sefydlu ac wedi eu cyfathrebu’n glir i bawb sydd yn gysylltiedig â chynaeafu a gweithgareddau ar ôl cynaeafu
  8. cadarnhau bod y cnwd mewn cyflwr sydd yn barod ar gyfer ei gynaeafu, yn unol â manylebau’r cynnyrch
  9. cymryd y camau perthnasol, lle nad yw cyflwr y cnwd yn addas ar gyfer cynaeafu 
  10. cadarnhau bod mesurau hylendid a bioddiogelwch yn eu lle ac yn cael eu cynnal yn unol ag arferion busnes
  11. cadarnhau bod mesurau ar gyfer ailgylchu neu waredu gwastraff a sgil-gynnyrch yn eu lle, yn unol â’r gofynion cyfreithiol a busnes perthnasol
  12. amlinellu mesurau i reoli effaith ar yr amgylchedd
  13. cadarnhau bod dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE) yn cael eu gwisgo a bod dulliau gweithio’n cynnal iechyd a diogelwch, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion busnes
  14. sicrhau bod offer a chyfarpar yn cael eu defnyddio a’u cynnal a’u cadw’n ddiogel ac yn gywir
  15. cadarnhau bod y dulliau a’r prosesau cynaeafu cywir yn cael eu dilyn i gyflawni manylebau’r cynnyrch
  16. cadarnhau bod y cynnyrch sy’n cael ei gynaeafu yn cael ei drin a’i gludo mewn ffordd sydd yn cynnal ansawdd y cynnyrch ac yn lleihau niwed
  17. monitro gweithrediadau cynaeafu a’u haddasu yn unol â hynny i ystyried amodau amgylcheddol, ansawdd y cnwd, problemau adnoddau neu faterion eraill 
  18. cadarnhau bod gweithgareddau ar ôl cynaeafu’n cael eu cyflawni i fodloni manylebau’r cynnyrch a gofynion sicrhau ansawdd
  19. sicrhau bod y polisïau iechyd a diogelwch a’r gofynion asesu risg yn cael eu gweithredu ar draws eich maes cyfrifoldeb
  20. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cwblhau fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion sicrhau ansawdd a’r busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon, asesu risgiau a dehongli asesiadau risg, wrth sefydlu gweithrediadau cynaeafu a gweithgareddau ar ôl cynaeafu
  2. sut i sefydlu manylebau’r farchnad/cwsmer ar gyfer y cynnyrch sy’n cael ei gynaeafu a’r gofynion ar gyfer sicrhau ansawdd
  3. y dulliau a’r prosesau cynaeafu sy’n briodol i’r cnydau sy’n cael eu cynaeafu a manylebau’r cynnyrch
  4. y gweithgareddau ar ôl cynaeafu sy’n briodol i’r cnydau sy’n cael eu cynaeafu, manylebau’r cynnyrch a’r gyrchfan
  5. pwysigrwydd cynllunio ac amserlenni gweithrediadau cynaeafu a gweithgareddau ar ôl cynaeafu 
  6. sut i bennu’r adnoddau sydd eu hangen i gynnal gweithrediadau cynaeafu a gweithgareddau ar ôl cynaeafu
  7. sut i gyfathrebu gofynion cynaeafu ac ar ôl cynaeafu i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’r broses
  8. sut i gydnabod pryd mae cnwd yn barod ar gyfer ei gynaeafu ac yn bodloni manylebau’r cynnyrch
  9. y camau i’w cymryd pan nad yw’r cnwd yn barod ar gyfer ei gynaeafu
  10. y dulliau o sefydlu a gweithredu mesurau i gynnal hylendid a bioddiogelwch a’r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig
  11. y gofynion cyfreithiol a busnes perthnasol ar gyfer ailgylchu neu waredu gwastraff a sgil-gynnyrch a grëwyd wrth gynaeafu ac yn ystod gweithgareddau ar ôl cynaeafu
  12. y mesurau y gellir eu cymryd i warchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu
  13. pwysigrwydd cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) cywir a’r dulliau gweithio sy’n cael eu defnyddio, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion busnes
  14. y mathau o offer a chyfarpar sydd eu hangen ar gyfer cynaeafu a gweithgareddau ar ôl cynaeafu a sut i sicrhau bod y rhain yn cael eu paratoi, eu defnyddio a’u cynnal a’u cadw’n ddiogel ac yn gywir
  15. pwysigrwydd cadarnhau bod gweithrediadau cynaeafu a’r gweithgareddau ar ôl cynaeafu yn cael eu cwblhau yn unol â manylebau’r cynnyrch a’r gofynion sicrhau ansawdd
  16. yr addasiadau i weithrediadau cynaeafu all fod yn angenrheidiol
  17. sut i gynnal ansawdd y cynnyrch sydd wedi ei gynaeafu a lleihau niwed
  18. y problemau a allai godi yn ystod gweithrediadau cynaeafu a sut gellir datrys y rhain
  19. y camau i’w cymryd os bydd cynnyrch y cnwd yn methu bodloni’r manylebau
  20. eich cyfrifoldebau chi yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol a chodau ymarfer, gofynion hylendid bwyd a pholisïau busnes
  21. y gofynion ar gyfer adrodd a chofnodi’r amser y dylid cadw cofnodion


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Gallai cnydau gynnwys:

glaswellt a chnydau porthiant
grawnfwydydd/grawn
cnydau gwreiddiau
corbys 
rêp had olew 
hopys
llysiau
perlysiau
blodau
llwyni
coed
ffrwythau

Gallai cyrchfannau gynnwys:

trosglwyddo uniongyrchol 
storio tymor byr
storio hirdymor

Gallai gweithgareddau ar ôl cynaeafu gynnwys:

dethol
glanhau
sychu
triniaethau cyn storio
graddio
tocio
rheoli ansawdd
pacio
labelu

Adnoddau:

dynol 
ariannol 
materol 
cyfarpar


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAgM25

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Rheolwr Fferm, Gweithiwr Planhigfa, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

cnydau; planhigion; cynaeafu; ar ôl cynaeafu