Cynllunio a rheoli cynhyrchu cnydau
URN: LANAgM24
Sectorau Busnes (Suites): Rheolaeth Amaethyddol,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys cynllunio a rheoli cynhyrchu cnydau. Gallai cnydau gynnwys, grawnfwydydd/grawn, cnydau gwreiddiau, corbys, rêp had olew, gwinwydd, hopys, llysiau, perlysiau, blodau, llwyni, coed neu ffrwythau a gallant fod wedi eu tyfu mewn cae neu mewn amgylchedd wedi ei ddiogelu fel tŷ gwydr neu bolydwnnel.
Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu cynlluniau er mwyn i’r cnydau gael eu tyfu, gan reoli gweithredu’r cynlluniau a monitro’r canlyniadau.
Wrth gynllunio a rheoli cynhyrchu cnydau mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am reoli cynhyrchu cnydau.
Mae cynhyrchu glaswellt a chnydau porthiant wedi ei gynnwys yn LANAgM4.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a gwerthuso cyfleoedd a chyfyngiadau i bennu’r cnydau i gael eu tyfu
- ceisio cyngor arbenigol lle bo angen
pennu’r dull cynhyrchu sydd i gael ei ddefnyddo
creu cynllun ar gyfer cynhyrchu cnydau addas gyda graddfeydd amser, amcanion a thargedau
- pennu’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer paratoi, plannu a chynnal y cnwd
nodi’r ffyrdd y caiff y deunydd plannu ei gaffael a’r gofynion ar gyfer ansawdd
amlinellu dulliau a manylebau ar gyfer gweithredu’r cynllun cynhyrchu cnydau
- cyfathrebu’r cynllun i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’i weithredu
- rheoli cynhyrchu cnydau i fodloni’r diben a fwriadwyd
- sefydlu mesurau i gynnal y lefelau angenrheidiol o hylendid a bioddiogelwch a chadarnhau eu bod wedi cael eu gweithredu
- sefydlu mesurau ar gyfer ailgylchu neu waredu gwastraff a sgil-gynnyrch, yn unol â’r gofynion cyfreithiol a busnes perthnasol a chadarnhau eu bod wedi cael eu gweithredu
- sefydlu mesurau i reoli’r effaith ar yr amgylchedd
- cadarnhau bod dulliau gweithio yn hybu iechyd a diogelwch a’u bod yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion busnes
- monitro gweithredu cynllun cynhyrchu cnydau yn rheolaidd i gadarnhau bod y graddfeydd amser, yr amcanion a’r targedau’n cael eu bodloni a, lle bo angen, gweithredu i unioni gwyriadau o’r cynllun
- gwerthuso llwyddiant y cnydau sydd yn cael eu tyfu i gynorthwyo gyda gwneud penderfyniadau yn y dyfodol
- cadarnhau bod cofnodion priodol yn cael eu cynnal a’u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion sicrhau ansawdd a pholisïau busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd cynllunio i gynhyrchu cnydau’n llwyddiannus
- sut i gynllunio cynhyrchu cnydau a chyflawni’r cydbwysedd gorau rhwng cyfleoedd a chyfyngiadau
- y mathau gwahanol o gnydau a’r amodau sydd yn ofynnol ar gyfer twf
- y ffynonellau gwybodaeth a’r cyngor arbenigol ar gynhyrchu cnydau
- y wybodaeth y mae angen i’r cynllun cynhyrchu cnydau ei gynnwys a sut i bennu manylion penodol
- egwyddorion technegau ffermio manwl gywir mewn perthynas â chynhyrchu cnydau
- ffynonellau deunydd plannu a sut gellir sicrhau ansawdd
- y ddeddfwriaeth genedlaethol gyfredol sy’n rheoli’r defnydd o wrteithiau a thriniaethau wrth blannu cnydau
- yr effaith bosibl y gallai dulliau rheoli gwahanol ei gael ar y cnydau, yr amgylchedd cyfagos a’r dirwedd
- sut i bennu’r adnoddau dynol, ariannol, deunydd a chyfalaf sydd yn angenrheidiol i gyflawni’r cynllun
- y dulliau o gyfathrebu cynlluniau a manylebau i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’u gweithredu
- y dulliau o gynnal hylendid a bioddiogelwch a’r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo, storio, ailgylchu a gwaredu gwastraff a sgil-gynnyrch
- y mesurau y gellir eu cymryd i warchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac i ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a gofynion sefydliadol
- y ffyrdd o fonitro a gweithredu’r cynllun cynhyrchu cnydau i gadarnhau bod graddfeydd amser, amcanion a thargedau’n cael eu bodloni
- y dulliau o werthuso a phennu llwyddiant y cynllun cynhyrchu cnydau
- y dulliau o fonitro effaith amgylcheddol cynhyrchu cnydau
- y gofynion ar gyfer adrodd a chofnodi, a’r amser y dylid cadw cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai cnydau gynnwys:
• grawnfwydydd/grawn
• cnydau gwreiddiau
• corbys
• rêp had olew
• gwinwydd
• hopys
• llysiau
• perlysiau
• blodau
• llwyni
• coed
• ffrwythau
Gallai cyfleoedd a chyfyngiadau gynnwys:
• gofynion cyfreithiol
• amgylcheddol
• cyfyngiadau defnydd o dir
• cymhellion/grantiau
• cyfleoedd marchnad
• cost cynhyrchu ac elw disgwyliedig
• y diben a fwriadwyd ar gyfer y cnwd
• yr amodau angenrheidiol i dyfu cnydau gwahanol
• amseru/tymoroldeb
• hinsawdd/tywydd
• cyflwr y ddaear
• math a chyflwr y pridd
• arwynebedd sydd ar gael
• defnydd blaenorol (cylchdroi cnydau)
• gofynion adnoddau
• gweithgareddau menter eraill
Deunydd plannu:
• hadau
• planhigion
• bylbiau, cloron, cormau, ac ati
• gwrteithiau
• triniaethau
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANAgM24
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermwr, Rheolwr Fferm, Gweithiwr Planhigfa, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
cnydau; planhigion; tyfu