Rhoi cyngor ar reoli clefydau cnydau

URN: LANAgM20
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Rheoli Amaethyddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2012

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn cynnwys y gallu i adnabod symptomau clefydau, gwerthuso problemau clefydau a dewis mesurau rheoli priodol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod clefydau cnydau yn gywir

  2. nodi arwyddocâd rheoli clefydau a'r dulliau priodol o asesu a gwerthuso

  3. nodi prif asiantau achosol clefydau

  4. nodi'r dulliau sydd ar gael ar gyfer rheoli, lleihau ac atal clefydau

  5. nodi prif glefydau cnydau penodol a dewis ac integreiddio mesurau rheoli addas


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. natur y prif fathau o niwed i blanhigion mewn cnydau garddwriaeth
  2. sut i ddehongli arwyddocâd mathau o niwed i dwf a storfeydd cnydau            
  3. sut i gynnal asesiadau clefydau ar blanhigion
  4. sut i asesu a chofnodi niwed gan glefydau mewn cnydau
  5. pwysigrwydd gwerthuso arwyddocâd economaidd niwed gan glefydau
  6. nodweddion arwyddocaol mycoplasma a phathogenau feirysol, bacterol a ffwng
  7. sut i gysylltu cyflyrau sydd yn dylanwadu ar oroesiad, crynhoad a lledaeniad pathogenau â datblygiad clefydau
  8. dylanwadau amgylcheddol ar heintiau a datblygiad clefydau mewn cnydau
  9. sut i ddefnyddio gwybodaeth am y ffactorau sydd yn dylanwadu ar ddatblygiad heintiau a chlefydau i ragweld a rhagfynegi'r perygl o glefydau
  10. prif ddeddfwriaeth yn ymwneud â chlefydau planhigion
  11. arwyddocâd arferion diwylliannol penodol i reoli clefydau  
  12. sut i adnabod amrywiadau o blanhigion cnydau ag ymwrthedd i glefydau

  13. argaeledd mesurau rheoli ffisegol a chemegol

  14. sut i ddosbarthu'r prif fathau o fesurau rheoli cemegol a'r prif grwpiau o gemegau
  15. pwysigrwydd cyfiawnhau'r dewis o ddulliau ar gyfer rheoli mathau penodol o glefydau

  16. y dulliau o greu deunydd lluosogi llystyfiant sydd yn rhydd rhag clefydau trwy driniaeth wres, meithrin y blaen, neu dyfu yn ynysig a rôl cynlluniau ardystio a stoc cnewyllol

  17. prif glefydau yn arbennig cnydau yn ôl rhanbarth
  18. sut i werthuso'r perygl o glefydau i gnydau penodol
  19. sut i gynnal archwiliadau o gnydau a llunio cofnodion cnydau
  20. sut i ddewis a chyfiawnhau mesurau rheoli priodol

  21. sut i gyfrifo cyfraddau dos priodol ar gyfer ffyngladdwyr penodol, a chyfiawnhau amseriad a dulliau cymhwyso ar gyfer problemau clefydau penodol

  22. strategaethau rheoli clefydau ar gyfer rhaglenni cnydio yn y dyfodol

  23. y prif fathau o newidiadau gweledol i blanhigion a chynnyrch planhigion a achoswyd gan mycoplasma, a heintiau feirysol, bacterol a ffwng
  24. datblygiad symptomau ar adegau gwahanol o dwf a storio cnydau
  25. prif effeithiau amrywiol a dylanwad amodau tyfu a storio ar fynegiant symptomau

  26. patrwm dosbarthu datblygiad symptomau mewn cnwd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAgM20

Galwedigaethau Perthnasol

Cynghorydd Cnydau, Agronomegydd

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

cnydau; clefydau