Rhoi cyngor ar reoli plâu

URN: LANAgM19
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Rheoli Amaethyddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2012

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys y gallu i adnabod plâu a niwed gan blâu, i ragweld ac atal problemau plâu a dewis mesurau rheoli diogel a phriodol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. rhoi diagnosis o achosion symptomau niwed gan blâu trwy ddadansoddi dulliau ac ymddygiad bwydo

  2. nodi'r ffactorau sydd yn pennu achosion o niwed gan blâu a'u pwysigrwydd

  3. adnabod plâu pwysig cnydau penodol er mwyn adnabod, rhagweld ac atal y niwed y gallai pob un ei achosi, a dewis y mesurau rheoli neu'r cyfuniad o fesurau mwyaf priodol ar gyfer amgylchiadau penodol

  4. defnyddio'r dulliau priodol sydd ar gael i atal neu reoli niwed gan blâu
  5. adnabod nodweddion a chylchoedd bywyd y grwpiau hynny o anifeiliaid sydd yn cynnwys rhywogaethau pwysig o blâu

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y strwythurau a ddefnyddir wrth fwydo gan lyngyr llysiau, gwlithod, gwiddon a phryfed

  2. y dull o fwydo rhywogaethau o blâu o'r grwpiau hyn

  3. sut i gysylltu bwydo gan blâu â symptomau niwed arferol i wreiddiau, dail, blodau, hadau a ffrwythau
  4. sut i gysylltu bwydo gan blâu â throsglwyddo pathogenau cnydau
    sut i roi diagnosis o achosion niwed i gnydau trwy adnabod symptomau a/neu blâu
    sut i gysylltu mynychder plâu ag arferion cnydio penodol
    sut i gysylltu mynychder plâu â symudedd plâu, penodoldeb cynhaliwr, y tywydd a'r hinsawdd
    y ffactorau sy'n effeithio ar fynychder plâu i fonitro rhywogaethau o blâu a rhagweld ac atal niwed gan blâu
    y ddeddfwriaeth a ddyluniwyd i leihau mewnforio, lledaenu a lluosogi plâu cnydau
  5. arferion diwylliannol y gellir eu defnyddio i leihau niwed gan blâu
     amrywiadau o gnydau ag ymwrthedd i blâu a'r amgylchiadau lle dylid eu defnyddio
    asiantau biolegol a ddefnyddir mewn ymarfer masnachol i reoli plâu cnydau a'r amgylchiadau priodol ar gyfer eu defnyddio
    mesurau rheoli cemegol priodol ar gyfer problemau plâu penodol ar y cae ac yn y storfa
    manteision integreiddio dulliau rheoli plâu trwy gyfeirio at enghreifftiau penodol
    sut i adnabod llyngyr llysiau, gwlithod, miltroediaid, gwiddon a threfn bwysig pryfed
    cylchoedd bywyd arferol llyngyr llysiau
  6.  cylchoedd bywyd arferol gwiddon, miltroediaid a phryfed
    cylch cenedlaethau o bryfed gleision
    nodweddion arbennig bioleg adar a mamaliaid sy'n cyfrannu at broblemau plâu a achosir gan yr anifeiliaid hyn
    y prif blâu neu'r symptomau niwed gan blâu, fel y bo'n briodol, yn unol â rhanbarth, mewn cnydau penodol
  7. y perygl o niwed a sut i ddisgrifio'r camau y mae'n rhaid eu cymryd i gael peryglon o'r fath wedi eu gwerthuso gan wasanaethau arbenigol
    sut i gyfiawnhau mesurau rheoli penodol
    sut i gyfrifo cyfraddau dos priodol ar gyfer plaladdwyr penodol a chyfiawnhau'r amseriad
    dulliau cymhwyso ar gyfer problemau plâu penodol
  8. sut i ddylunio strategaethau rheoli plâu ar gyfer dilyniannau cnydio penodol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

AgM19

Galwedigaethau Perthnasol

Cynghorydd Cnydau, Agronomegydd

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

cnydau; chwyn