Cynghori ar reoli chwyn
URN: LANAgM18
Sectorau Busnes (Suites): Rheolaeth Amaethyddol,Garddwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2018
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys y gallu i adnabod chwyn yn gywir a gwerthuso mesurau rheoli diogel a phriodol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod chwyn yn gywir
- defnyddio dulliau amrywiol o atal a rheoli chwyn
- gwerthuso dulliau amrywiol o atal a rheoli chwyn
- nodi problemau mawr yn ymwneud â chwyn mewn cnydau penodol a dewis ac integreiddio triniaethau rheoli addas a darbodus yn briodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- achosion pla o chwyn mewn cnydau a phwysigrwydd hanfodol hadau cnwd glân
- prif nodweddion morffoleg a ffisioleg hadau sy'n cyfrannu at ledaenu a sefydlu rhywogaethau o chwyn yn llwyddiannus
- deinameg poblogaeth hadau chwyn priddoedd ac yn arbennig y ffactorau sydd yn annog gostyngiad yn niferoedd hadau
- datblygu dealltwriaeth o fioleg chwyn
- pwysigrwydd adferiad llysieuol chwyn mewn perthynas ag amaethu, arferion cnydio a rheoli chwyn
- sut i ddehongli ymddangosiad tymhorol a lleoliadol rhywogaethau blaenllaw o
- chwyn yn ôl rhanbarth mewn cnydau penodol
- sut i archwilio ac asesu problemau chwyn yn arbennig cnydau a chadw cofnodion o blâu
- sut i ddewis a chyfiawnhau mesurau rheoli priodol
- sut i adnabod pa chwynladdwr fydd yn lleihau poblogaethau chwyn a pha gyfuniadau o chwynladdwyr y gellir eu defnyddio'n gyfreithiol ac yn ddiogel fel cymysgedd tanc ar gyfer problemau penodol
- sut i gyfrifo cyfraddau dos addas a chyfiawnhau'r amseriad a'r dulliau cymhwyso ar gyfer problemau chwyn penodol
- sut i ragfynegi'r strategaethau rheoli chwyn ar gyfer caeau penodol sydd yn angenrheidiol i leihau poblogaethau chwyn yn gynyddol
- y rhyngweithio rhwng arferion amaethyddiaeth, math o bridd a mynychder chwyn mewn cnydau penodol, neu ar ffermydd penodol
- y nodweddion botanegol a ddefnyddir i adnabod hadau, eginblanhigion a phlanhigion aeddfed
- cyfnodau gwahanol twf planhigion
- sut i ddefnyddio allwedd adnabod yn llwyddiannus
- sut i adnabod rhywogaethau chwyn blaenllaw sydd yn gysylltiedig ag arferion cnydio rhanbarthol a mathau penodol o bridd
- natur cystadleuaeth chwyn a rhagfynegi canlyniad tebygol lefel y pla o chwyn
- arwyddocâd rhywogaethau chwyn a chnwd gwirfoddol penodol fel cynhalwyr plâu a phathogenau
- sut i adnabod chwyn gwenwynig a difwyno
- y problemau posibl a achosir gan rywogaethau penodol o chwyn i weithrediadau mecanyddol yn y cae
- halogiad posibl cnydau yn ystod y cynhaeaf gan chwyn
- y ddeddfwriaeth berthnasol yn ymwneud â chwyn a hadau chwyn gwenwynig
- arwyddocâd arferion diwylliannol penodol i atal, lleihau a rheoli problemau chwyn h.y. hen welyau hadau ac ati
- sut i adnabod galluoedd cystadleuol planhigion wedi eu hamaethu mewn systemau cnydio amrywiol
- y prif fathau o fesurau rheoli cemegol a'r prif grwpiau o ddeunyddiau cemegol
- sut i gyfiawnhau'r dewis o ddulliau ar gyfer rheoli mathau penodol o rywogaethau o chwyn a phlâu o chwyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
AgM18
Galwedigaethau Perthnasol
Cynghorwyr Cnydau, Agronomegwr
Cod SOC
9111
Geiriau Allweddol
cnydau; chwyn