Cynghori ar achosion o ddiffygion mewn cnydau

URN: LANAgM17
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Cnydau Amaethyddol,Rheolaeth Amaethyddol,Garddwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys y gallu i wahaniaethu rhwng niwed i gnydau a achoswyd yn uniongyrchol gan ffactorau amgylcheddol, niwed a achoswyd gan blâu a phathogenau a dulliau posibl y gellir eu mabwysiadu i atal hyn rhag digwydd.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am gynghori ar achosion o ddiffygion mewn cnydau.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol

Os ydych yn gweithio gyda pheiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol neu ardystiad yn unol â deddfwriaeth bresennol



Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​ nodi niwed oherwydd diffygion
  2.  gwerthuso'r niwed
  3.  nodi'r dulliau sydd ar gael ar gyfer atal a chyfyngu diffygion penodol mewn cnydau, a dewis triniaethau cywiro yn briodol
  4.  nodi cnydau sydd yn arbennig o agored i ddiffygion penodol a meddu ar ddealltwriaeth o'r gweithdrefnau sydd yn addas ar gyfer eu trin

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. symptomau twf anfoddhaol
  2. niwed i gnydau a achosir gan amodau ffisegol niweidiol yn y pridd
  3. niwed i gnydau a achosir gan statws pH anaddas, anghydbwysedd maeth, diffygion maeth a chamddefnyddio deunyddiau diogelu'r cnwd
  4. niwed i gnydau a achosir gan wlybaniaeth niweidiol
  5. yn y pridd a achosir gan dywydd eithafol
  6. mathau o niwed i blanhigion a achosir gan lygrwyr o'r atmosffer, y pridd a dŵr dyfrhau
  7. sut i bennu hyd tebygol y straen mewn cnydau presennol a chnydau yn y dyfodol
  8. sut i gymharu a gwrthgyferbynnu niwed amgylcheddol gyda'r mathau a allai gael eu hachosi gan blâu a phathogenau cnydau
  9. y gweithdrefnau sydd yn angenrheidiol ar gyfer hysbysu a chadarnhau achosion posibl gan arbenigwyr
  10. cysylltu twf a datblygiad cnydau â chyfnodau cyfwerth mewn cnydau heb eu heffeithio, sydd â'r potensial i greu cynnyrch sylweddol
  11. sut i amcangyfrif graddau'r niwed presennol ac yn y dyfodol i
  12. gnydau a'r achosion posibl a'r ffyrdd o ddatrys problemau penodol
  13. yr amrywiadau amgen o gnydau sydd yn llai agored i ddiffygion penodol
  14. arferion a deunyddiau ar gyfer unioni problemau pH a maeth
  15. gweithdrefnau ar gyfer gwella statws gwlybaniaeth yn y pridd
  16. arferion diwylliannol a allai leddfu diffygion penodol
  17. sut i archwilio cnydau anghyfartal am symptomau o niwed a thwf gwael
  18. yr achosion penodol lle na ellir priodoli niwed a thwf gwael i blâu a chlefydau, neu gystadleuaeth chwyn
  19. sut i archwilio priddoedd penodol am dystiolaeth o gywasgiad, draeniad annigonol neu straen gwlybaniaeth
  20. sut i ddehongli canlyniadau dadansoddiadau cemegol o samplau penodol o blanhigion a phridd
  21. sut i gysylltu mathau o dopograffeg a strwythur cnydau i niwed sy'n debygol yn sgîl gwynt, cenllysg, rhew ac eira
  22. sut i gysylltu symptomau penodol i ddiffygion yn y gorffennol neu'r presennol yn natur ffisegol a chemegol pridd, dyfrhau neu ffactorau atmosfferaidd niweidiol
  23. sut i wneud penderfyniadau ar fesurau i gywiro twf annormal cnydau ac atal hyn rhag digwydd eto

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

AgM17

Galwedigaethau Perthnasol

Cynghorwyr Cnydau, Agronomegwr

Cod SOC

9111

Geiriau Allweddol

cnydau; anhwylderau; plâu; pathogenau