Cynllunio a chyflwyno trosglwyddo gwybodaeth/technoleg
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cynllunio trosglwyddo gwybodaeth/technoleg.
Mae trosglwyddo gwybodaeth/technoleg yn ymwneud â throsglwyddo arfer da, canlyniadau ymchwil a sgiliau, rhwng prifysgolion, cyrff a sefydliadau ymchwil eraill, busnesau a'r gymuned ehangach i alluogi arloesedd a datblygu cynnyrch, gwasanaethau a thechnolegau newydd.
Gallai'r weithred o drosglwyddo gynnwys mentora, hyfforddiant, mynediad at ddogfennau a chydweithredu arall o fewn neu rhwng sefydliadau a gallai gynnwys grwpiau ac unigolion.
Mae tystiolaeth yn awgrymu mai dim ond un mewn wyth o sefydliadau sydd yn mabwysiadu syniadau neu ddulliau newydd yn gynnar a bod y gweddill yn methu gwneud defnydd llawn o'r wybodaeth a'r technolegau sydd ar gael a allai wella eu busnes. Mae'n rhaid i ddiwydiant cystadleuol a chynaliadwy wneud defnydd llawn o wybodaeth a thechnolegau arloesol sydd wedi eu profi.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer ystod eang o bobl, a allai gynnwys cynghorwyr, ymgynghorwyr, swyddogion maes, gweithwyr ehangu yn ogystal â staff sydd yn trosglwyddo gwybodaeth/technoleg ar gyfer sefydliadau'r llywodraeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r angen i drosglwyddo gwybodaeth/technoleg
- nodi ffynonellau allweddol o wybodaeth/technoleg newydd neu bresennol
- nodi a chael mynediad at rwydweithiau, cymunedau a ffynonellau gwybodaeth/technoleg eraill
- hybu buddion gwybodaeth/technoleg ar draws y boblogaeth darged
- nodi ffyrdd addas o ddarparu'r wybodaeth/technoleg i bobl eraill ei rhannu
- gweithredu systemau, offer a phrosesau cytûn sy'n cefnogi creu, datblygu, cyfleu a rhannu gwybodaeth/technoleg
- cynllunio a gweithredu dulliau trosglwyddo sy'n berthnasol i'r gynulleidfa darged er mwyn cael y canlyniadau dymunol fel ymgymeriad, graddfeydd amser ac effeithiolrwydd cost gwell
- cyflwyno trosglwyddo gwybodaeth/technoleg mewn ffordd sydd yn addas ar gyfer y gynulleidfa darged
- darparu'r hyfforddiant, y cymorth a'r arweiniad sy'n ofynnol i alluogi pobl i gael mynediad effeithiol at wybodaeth/technoleg a'i rhannu
- gwerthuso'r risg sydd yn gysylltiedig â rhannu gwybodaeth/technoleg a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol i ddiogelu eiddo deallusol rhag defnydd diawdurdod
- monitro effeithiolrwydd y dulliau a ddefnyddir ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth/technoleg
- addasu methodoleg, os oes angen, i gael y canlyniadau dymunol
- addasu systemau, offer a phrosesau, os oes angen, i gael y canlyniadau dymunol
- cadarnhau bod cofnodion priodol yn cael eu cynnal a'u storio fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth, codau ymarfer, gofynion sicrhau ansawdd a pholisïau sefydliadol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi gofynion ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth/technoleg i gynorthwyo gynllunio
- sut i nodi ffynonellau gwybodaeth/technoleg cyfredol a datblygol perthnasol
- sut i nodi rhwydweithiau, cymunedau a ffynonellau eraill gwybodaeth/technoleg
- egwyddorion, technegau ac arfer da trosglwyddo gwybodaeth/technoleg
- y ffyrdd y gellir creu, datblygu, cyfleu a rhannu gwybodaeth/technoleg
- y ffactorau sydd yn dylanwadu ar ymgymeriad gwybodaeth/technoleg yn cynnwys adnabod mabwysiadwyr cynnar ac oedwyr (y rheiny sydd yn araf i fabwysiadu)
- y dulliau o gyflwyno gwybodaeth/technoleg
- cryfderau a gwendidau dulliau trosglwyddo amrywiol
- sut i annog pobl i rannu gwybodaeth a defnyddio systemau, offer a phrosesau trosglwyddo gwybodaeth/technoleg
- sut i gadarnhau bod y wybodaeth a geir yn cael ei chyfleu yn effeithiol ac ar gael i'r rheiny a allai gael budd ohoni
- sut i werthuso effeithiolrwydd y dulliau a ddefnyddir ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth/technoleg
- sut i addasu'r dull o drosglwyddo gwybodaeth/technoleg yn seiliedig ar y lleoliad a'r gynulleidfa darged
- goblygiadau hawliau eiddo deallusol a deddfwriaeth hawlfraint i rannu gwybodaeth/technoleg
- yr angen i gynnal system gofnodi a monitro'r canlyniadau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai dulliau cyflwyno gwybodaeth/technoleg gynnwys:
- addysg
- hyfforddiant
- cyfathrebu electronig
- ymgynghoriaeth
- cydweithredu