Cynllunio, rheoli a gwerthuso hylendid a bioddiogelwch safle
URN: LANAgM13
Sectorau Busnes (Suites): Rheolaeth Amaethyddol,Ceffylau,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys y broses o gynllunio, rheoli a gwerthuso’r gweithdrefnau a’r protocolau sydd wedi eu sefydlu ar gyfer hylendid a bioddiogelwch safle.
Mae trefniadau hylendid a bioddiogelwch da yn hanfodol i weithrediad llwyddiannus unrhyw fusnes amaethyddol. Dylent fod yn rhan annatod o’r rheolaeth barhaus ar gyfer busnesau cnwd ac anifeiliaid ac maent yn factorau allweddol yn sicrhau ansawdd.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd â chyfrifoldeb dros reolaeth hylendid a bioddiogelwch safle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynllunio gweithdrefnau a phrotocolau hylendid a bioddiogelwch i fodloni gofynion y gweithgareddau busnes, yn cynnwys cynlluniau wrth gefn, i fodloni risgiau hysbys ac a ragwelir
- cael cyngor arbenigol lle bo angen
- cadarnhau bod asesiadau risg o hylendid a bioddiogelwch safle’n cael eu cynnal yn rheolaidd, a bod arferion rheoli wedi eu sefydlu i leihau tor-rheol posibl
- cadarnhau bod yr holl weithdrefnau a’r protocolau hylendid a bioddiogelwch yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, y codau ymarfer a’r gofynion sicrhau ansawdd
- cadarnhau bod yr holl weithdrefnau a’r protocolau hylendid a bioddiogelwch y cytunwyd arnynt wedi eu cyfathrebu wrth y rheiny sy’n gweithio ar y safle, yn ogystal ag ymwelwyr, cwsmeriaid neu gontractwyr, a’u bod wedi eu deall
- rheoli holl weithdrefnau a phrotocolau hylendid a bioddiogelwch y safle i gadarnhau eu bod wedi eu gweithredu’n gywir
- cadarnhau bod dulliau gweithio yn hybu iechyd a diogelwch a’u bod yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion busnes
- cadarnhau bod y rheiny sydd yn gysylltiedig â chynnal hylendid a bioddiogelwch safle yn defnyddio’r cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol
- monitro a gwerthuso effeithiolrwydd holl weithdrefnau a phrotocolau hylendid a bioddiogelwch y safle a diweddaru’r rhain yn unol â hynny
- monitro’r dulliau o gyfathrebu gweithdrefnau a phrotocolau hylendid a bioddiogelwch y safle a diwygio’r rhain os oes angen
- cadarnhau bod y safle wedi ei baratoi ar gyfer archwiliadau gan yr awdurdodau allanol perthnasol
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cynnal a’u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer, gofynion sicrhau ansawdd a pholisïau busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr angen am weithdrefnau a phrotocolau hylendid a bioddiogelwch safle a’r ffordd y gallai hyn wahaniaethu ar gyfer gweithgareddau busnes gwahanol
- y ffynonellau gwybodaeth a chyngor arbenigol ar hylendid a bioddiogelwch safle
- sut i gynllunio a chreu gweithdrefnau a phrotocolau hylendid a bioddiogelwch safle
- pwysigrwydd sicrhau bod yr holl weithdrefnau a phrotocolau hylendid a bioddiogelwch safle yn cael eu cynhyrchu yn unol â’r gofynion cyfreithiol a’r codau ymarfer perthnasol
- goblygiadau peidio â dilyn gofynion cyfreithiol a chodau ymarfer ar gyfer hylendid a bioddiogelwch safle
- yr angen am asesiadau risg rheolaidd o hylendid a bioddiogelwch a manylion unrhyw safonau penodol perthnasol
- pwysigrwydd lleihau’r risg o halogiad
- sut i reoli cyfathrebu a gweithredu gweithdrefnau a phrotocolau hylendid a bioddiogelwch safle, yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion busnes
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch a hylendid bwyd perthnasol, codau ymarfer a gofynion busnes
- pwysigrwydd cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) cywir yn cael ei ddefnyddio wrth wneud gweithgareddau i gynnal hylendid a bioddiogelwch safle
- y safonau sydd yn ofynnol gan y cynlluniau sicrhau ansawdd perthnasol
- yr awdurdodau allanol perthnasol sydd wedi eu hawdurdodi i archwilio a beth sydd yn ofynnol yn yr archwiliad
- y dulliau ar gyfer gwerthususo gweithdrefnau a phrotocolau hylendid a bioddiogelwch safle a pham y mae hyn yn bwysig
- pwysigrwydd monitro effeithiolrwydd y dulliau o gyfathrebu gweithdrefnau a phrotocolau hylendid a bioddiogelwch safle i eraill
- y gofynion ar gyfer adrodd a chofnodi’r amser y dylid cadw cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gweithdrefnau a phrotocolau hylendid a bioddiogelwch safle:
• bioddiogelwch mynediad safle
• gofynion hylendid ar gyfer cyfleusterau
• cyfarpar a phersonél
• mynediad cemegol
• storio a defnyddio
Safonau penodol:
• HACCP (Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol)
Dolenni I NOS Eraill
Mae iechyd a llesiant anifeiliaid wedi ei gynnwys yn safon LANAgM11
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANAgM13
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermwr, Rheolwr Fferm, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
halogiad; clefydau; hylendid; bioddiogelwch; safle; fferm; tyddyn