Cynllunio a monitro darpariaeth anifeiliaid
URN: LANAgM12
Sectorau Busnes (Suites): Rheolaeth Amaethyddol,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys cynllunio a monitro darpariaeth anifeiliaid ar gyfer y fenter. Gallai hyn gynnwys caffael stoc i gyflwyno brîd newydd, ymestyn lefelau stoc neu amnewid stoc sydd wedi cael eu cymryd allan. Mae’n cynnwys yr opsiynau amrywiol sydd ar gael i gaffael stoc, yn cynnwys trwy raglen fridio neu drwy eu prynu i mewn. Mae hefyd yn cynnwys amcangyfrif y meintiau sydd eu hangen a’r costau cysylltiedig.
Bydd angen i chi baratoi cynlluniau ar gyfer darparu anifeiliaid sy’n bodloni targedau menter.
Mae monitro’r rhaglen ac adolygu perfformiad yn erbyn targedau yn rhan hanfodol o fenter anifeiliaid lwyddiannus.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a lleddfu’r effeithiau.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer cynghorwyr fferm, rheolwyr fferm, rheolwyr mentrau/unedau, ffermwyr, crofftwyr neu dyddynwyr
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi’r gofynion ar gyfer darparu anifeiliaid i fodloni targedau busnes menter
- nodi bridiau addas o anifeiliaid ar gyfer y lleoliad a hinsawdd y fenter a’r diben ar gyfer eu cadw
- nodi a gwerthuso opsiynau ar gyfer darparu anifeiliaid
- cael cyngor arbenigol lle bo angen
- dewis yr opsiynau dewisol, paru gofynion a chyfyngiadau’r fenter, a pharatoi cynlluniau sy’n bodloni targedau busnes
- cynhyrchu gweithdrefnau a phrotocolau i reoli a monitro darpariaeth anifeiliaid
- lle mae anifeiliaid yn cael eu cyflwyno, pennu’r fanyleb ar gyfer prynu anifeiliaid sy’n bodloni gofynion menter
- nodi ffynonellau anifeiliaid ar gyfer eu prynu sy’n bodloni’r fanyleb ofynnol
- cynllunio a gweithredu mesurau bioddiogelwch priodol ar gyfer derbyn y stoc newydd, fel sydd yn ofynnol gan y cynllun iechyd a llesiant
- lle mae anifeiliaid yn cael eu magu, pennu’r system fagu ddewisol, wedi eu magu gartref neu ar gontract, a pharatoi cynlluniau sy’n diffinio targedau perfformiad
- cyfathrebu’r cynllun ar gyfer darparu anifeiliaid i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’i weithredu
- pennu gweithdrefnau ar gyfer gwirio a monitro iechyd, llesiant a pherfformiad stoc newydd ac amlinellu unrhyw weithredoedd sydd yn angenrheidiol
- monitro perfformiad yn erbyn targedau ac addasu cynlluniau anifeiliaid fel sydd yn ofynnol
- cadarnhau bod dulliau gweithio yn cynnal iechyd a diogelwch a’u bod yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion sefydliadol
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cynnal a’u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer, gofynion sicrhau ansawdd a pholisïau busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i bennu’r gofynion ar gyfer darparu anifeiliaid i fodloni targedau busnes menter
- beth ddylai gael ei ystyried wrth ddewis bridiau addas o anifeiliaid
- sut i werthuso’r cyfleoedd a’r cyfyngiadau wrth bennu llwybr gweithredu ar gyfer darparu anifeiliaid
- sut i ddehongli gwerthoedd bridio economaidd (EBV) a pha EBV sy’n iawn ar gyfer eich anifeiliaid a’ch marchnad darged neu gadwyn gyflenwi
- yr opsiynau gwahanol sydd ar gael wrth gynllunio i ddarparu anifeiliaid, yn cynnwys bridio eich rhai eich hun, eu prynu i mewn (gwerthiant preifat, marchnadoedd anifeiliaid), neu ddefnyddio magwr ar gontract
- y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r codau ymarfer sy’n effeithio ar ddarparu anifeiliaid
- y goblygiadau ariannol, bioddiogelwch, amseru a’r cynllun difa y mae angen eu hystyried wrth gynllunio i ddarparu anifeiliaid
- sut i nodi ffynonellau anifeiliaid gyda’r nodweddion genetig, y statws iechyd a’r anian gofynnol wrth ystyried prynu anifeiliaid i mewn, yn cynnwys egwyddorion masnachu yn seiliedig ar risg lle y bo’n briodol
- ffisioleg twf anifeiliaid ac effeithiau posibl magu ar berfformiad dilynol yr anifail
- agweddau a pholisïau gwahanol iechyd, llesiant, perfformiad a maeth anifeiliaid, a sut mae’r rhain yn perthyn i’w gilydd
- y dulliau o gyfathrebu cynlluniau a gweithdrefnau i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’u gweithredu
- sut i fonitro perfformiad y cynllun yn erbyn targedau busnes menter
- y rhesymeg dros adolygu polisïau a gweithredu camau cywiro, os oes angen
- pwysigrwydd gwirio a chynnal darpariaeth anifeiliaid i sicrhau proffidioldeb y fenter
- eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch gyfredol, codau ymarfer a gofynion sefydliadol
- y gofynion ar gyfer adrodd a chofnodi, a’r amser y dylid cadw cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Amnewid anifeiliaid – caffael anifeiliaid newydd yn lle’r rhai sydd wedi cael eu cymryd allan
Gallai manylebau ar gyfer prynu anifeiliaid gynnwys:
• oed
• potensial bridio
• statws iechyd praidd
• cydymffurfio
• ymsymudiad
• bodloni safon brîd
• anian
• maint y praidd/haid ffynhonnell
• praidd/haid ffynhonnell wedi cau
• hanes iechyd a thriniaeth
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANAgM12
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermwr, Rheolwr Fferm, Rheolwr Uned, Cynghorydd Technegol Amaethyddol, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
anifeiliaid; anifail; amnewid; magu; bridio