Cynllunio a rheoli iechyd a llesiant anifeiliaid
URN: LANAgM11
Sectorau Busnes (Suites): Rheolaeth Amaethyddol,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys cynllunio a rheoli iechyd a llesiant anifeiliaid. Mae cynnal iechyd a llesiant anifeiliaid yn allweddol i’w perfformiad ac mae felly’n hanfodol er mwyn i’r fenter for yn llwyddiannus ac yn broffidiol.
Dylid ceisio cymorth ac arweiniad allanol wrth baratoi’r cynllun, yn arbennig gan eich milfeddyg ond hefyd gan ymgynghorwyr a chynghorwyr technegol arbenigol.
Mae’n rhaid paratoi’r cynllun iechyd a llesiant yn unol â’r ddeddfwriaeth lles anifeiliaid berthnasol, codau ymarfer ac arweiniad gan sefydliadau llesiant anifeiliaid.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer rheolwyr fferm, rheolwyr praidd/uned, crofftwyr a thyddynwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- datblygu cynllun iechyd a llesiant anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau’r diwydiant, sydd yn cynnwys targedau wedi eu diffinio’n glir
- cael cyngor arbenigol gan eich milfeddyg ac ymgynghorwyr a chynghorwyr arbenigol eraill, lle bo angen
- gwerthuso’r defnydd o dechnolegau o fewn y cynllun iechyd a llesiant anifeiliaid a gwneud penderfyniadau am eu defnydd a’u priodoldeb i’r fenter
- nodi a chadarnhau argaeledd yr adnoddau sydd eu hangen i weithredu’r cynllun iechyd a llesiant anifeiliaid
- rhoi systemau ar waith i reoli gweithredu’r cynllun iechyd a llesiant anifeiliaid
- cyfathrebu’r cynllun iechyd a llesiant anifeiliaid i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’i weithredu
- nodi a darparu hyfforddiant perthnasol ar gyfer y rheiny sydd yn gysylltiedig er mwyn rheoli’r gwaith o weithredu’r cynllun iechyd a llesiant anifeiliaid
- sefydlu mesurau i gynnal y lefelau angenrheidiol o hylendid a bioddiogelwch a chadarnhau eu bod wedi cael eu gweithredu
- cadarnhau bod anifeiliaid yn cael eu monitro am glefydau, afiechyd neu faterion iechyd a llesiant eraill anifeiliaid neu anafiadau, yn unol â’r cynllun iechyd a llesiant anifeiliaid
- cadarnhau bod gan anifeiliaid fynediad at amodau amgylcheddol addas, yn unol â’r cynllun iechyd a llesiant anifeiliaid
- gweithredu’r triniaethau perthnasol i anifeiliaid, yn unol â’r cynllun iechyd a llesiant anifeiliaid
- cadarnhau bod y brechlynnau neu’r imiwneiddiadau perthnasol wedi eu derbyn, yn unol â’r cynllun iechyd a llesiant anifeiliaid a gofynion cyfreithiol
- cadarnhau bod dulliau gweithio’n cynnal iechyd a digoelwch a’u bod yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a’r gofynion busnes
- cadarnhau bod y rheiny sydd yn gysylltiedig â rheoli iechyd a llesiant anifeiliaid yn defnyddio’r gofyniad diogelu personol (PPE) priodol
- cadarnhau cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth lles anifeiliaid berthnasol, codau ymarfer, sicrwydd ansawdd fferm, polisïau ac amcanion busnes
- monitro, adolygu a diwygio’r cynllun iechyd a llesiant anifeiliaid yn rheolaidd
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cynnal a’u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol, cynlluniau sicrhau ansawdd a pholisïau busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd cynllunio a rheoli iechyd a llesiant anifeiliaid yn effeithiol, a’i effaith ar gynhyrchiant a phroffidioldeb
- elfennau allweddol gofynion iechyd a llesiant anifeiliaid o fewn systemau gwahanol cynhyrchu anifeiliaid
- cydrannau allweddol cynllun iechyd a llesiant anifeiliaid
- yr angen i ddilyn deddfwriaeth a chanllawiau’r diwydiant a gweithio’n agos gyda’r milfeddyg ac ymgynghorwyr a chynghorwyr technegol eraill, lle bo angen
- y dulliau o gynnal hylendid a bioddiogelwch a’r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig
- statws iechyd cyfredol eich anifeiliaid a sut i reoli unrhyw glefydau, afiechyd neu faterion iechyd a llesiant eraill anifeiliaid, yn cynnwys y gofynion ar gyfer ynysu anifeiliaid
- goblygiadau defnyddio triniaethau ar anifeiliaid, yn cynnwys cyfnodau tynnu’n ôl a datblygiad ymwrthedd
- sut i asesu effeithiolrwydd cost y cynllun iechyd a llesiant anifeiliaid
- y ffordd y gall amodau amgylcheddol effeithio ar iechyd a llesiant anifeiliaid
- y systemau rheoli iechyd a llesiant anifeiliaid sydd yn atal, monitro a rheoli’r tebygolrwydd o glefydau, anhwylderau a materion eraill iechyd a llesiant anifeiliaid neu anafiadau
- y brechlynnau neu’r imiwneiddiadau perthnasol sydd eu hangen ar yr anifeiliaid a sut i’w gweithredu
- sut i bennu’r adnoddau dynol, ariannol, materol a chyfalaf sydd yn angenrheidiol i weithredu’r cynllun iechyd a llesiant anifeiliaid
- y dulliau o gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â gweithredu’r cynllun iechyd a llesiant anifeiliaid, a’r ffordd y gellir darparu hyfforddiant, lle bo angen
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a gofynion busnes
- pwysigrwydd cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) yn cael ei ddefnyddio wrth reoli iechyd a llesiant anifeiliaid
- yr angen i ddarparu’r cyfleusterau, y cyflenwadau a’r cyfarpar priodol ar gyfer gweithredu’r cynllun iechyd a llesiant anifeiliaid
- sut i fonitro ac adolygu effeithiolrwydd y cynllun iechyd a llesiant anifeiliaid a gwneud yr addasiadau angenrheidiol
- deddfwriaeth benodol iechyd a llesiant anifeiliaid, codau ymarfer, sicrwydd ansawdd fferm, polisïau ac amcanion busnes
- y gofynion ar gyfer adrodd a chofnodi, a’r hyd y dylid cadw cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae mwy o fanylion am fioddiogelwch ar gael yn safon LANAgM13: Cynllunio, rheoli a gwerthuso hylendid a bioddiogelwch safle.
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANAgM11
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermwr, Rheolwr Fferm, Rheolwr Uned, Cynghorydd Technegol Amaethyddol, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
anifail; anifeiliaid; fferm; triniaeth; iechyd a llesiant