Cynllunio, rheoli a monitro gweithrediad a pherfformiad menter organig

URN: LANAgM10
Sectorau Busnes (Suites): Rheolaeth Amaethyddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2018

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio, rheoli a monitro gweithrediad a pherfformiad menter organig ac mae'n cynnwys ymagwedd system gyfan mewn lleoliad organig.

Er mwyn marchnata cynnyrch fel cynnyrch "organig", mae'n rhaid cael yr ardystiad perthnasol. Gall y broses o drosi i statws organig gymryd hyd at 36 mis ac mae'n rhaid dilyn y broses a nodir gan y corff rheoli organig priodol. At ddibenion y safon hon, cymerir bod statws organig wedi ei gyflawni.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd â chyfrifoldebau cynllunio a rheoli mewn menter organig fel anifeiliaid fferm, cnydau neu arddwriaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.  diffinio amcanion a thargedau ar gyfer y fenter organig a chynllunio system gynhyrchu i gyflawni'r rhain

2.  cadarnhau bod y cynllun yn creu cynnyrch sy'n bodloni ac yn ymateb i ofynion newidiol cwsmeriaid/y farchnad er mwyn cynyddu cyfleoedd

3.  cael cyngor arbenigol lle bo angen

4.  datblygu cynllun cynhyrchu ar gyfer y fenter organig yn unol â gofynion ardystio organig perthnasol

5.  cadarnhau bod y cynllun yn ymgorffori'r ffordd y caiff arferion cynhyrchu eu rheoli er mwyn bodloni gofynion y corff rheoli organig

6.  creu rhagolygon ffisegol ac ariannol ar gyfer y fenter organig yn seiliedig ar yr amcanion a'r targedau a ddiffiniwyd

7.  creu gweithdrefnau a phrotocolau i reoli a monitro perfformiad y fenter organig

8.  nodi a chadarnhau argaeledd yr adnoddau sy'n ofynnol i weithredu'r cynllun ar gyfer gweithrediad a pherfformiad menter organig

9.  cyfathrebu'r cynllun i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'i weithredu

10.  cadarnhau bod y rheiny sy'n gweithredu'r cynllun wedi eu hyfforddi'n llawn yn egwyddorion cynhyrchu organig

11.  cynllunio a rheoli gweithrediad y fenter yn unol â gofynion ardystiad organig perthnasol

12.  sefydlu mesurau i gynnal y lefel ofynnol o hylendid a bioddiogelwch a chadarnhau eu bod wedi cael eu gweithredu

13.  sefydlu mesurau ar gyfer ailgylchu neu waredu gwastraff ac is-gynnyrch, a chadarnhau eu bod wedi cael eu gweithredu

14.  cadarnhau bod dulliau gwaith yn cynnal iechyd a diogelwch ac yn cyd-fynd â deddfwriaeth, codau ymarfer a gofynion sefydliadol perthnasol

15.  cadarnhau bod y rheiny sydd yn gysylltiedig â gweithredu'r fenter organig yn defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE) priodol

16.  monitro cydymffurfio â chynlluniau sicrwydd ansawdd perthnasol a defnyddio'r wybodaeth hon i gynyddu cyfleoedd yn y farchnad

17.  monitro a gwerthuso gweithrediad a pherfformiad y fenter organig yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod targedau acamcanion yn cael eu bodloni a gwneud newidiadau lle bo angen

18.  cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth, codau ymarfer, ardystiad organig, gofynion sicrhau ansawdd a pholisïau sefydliadol perthnasol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.  egwyddorion cynhyrchu organig

2.  y diffiniad a'r gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer cynhyrchu organig a gofynion y corff rheoli organig

3.  gofynion, manteision ac anfanteision cynhyrchu organig

4.  amcanion a thargedau'r fenter organig

5.               galw'r farchnad/cwsmeriaid am gynnyrch penodol mewn perthynas â swm, maint/cyfaint, ansawdd, manyleb, tymoroldeb  a

 thueddiadau newidiol

6.  manylion a diben cynlluniau sicrhau ansawdd perthnasol a'u dylanwad ar lwyddiant y fenter organig

7.  ble i gael cyngor arbenigol

8.  sut i gynllunio a rheoli gweithrediad a pherfformiad y fenter organig i fodloni amcanion a thargedau wedi eu diffinio

9.  sut i bennu'r adnoddau dynol, ariannol, materol a chyfalaf sydd yn angenrheidiol i gyflawni'r cynllun ar gyfer gweithrediad a pherfformiad menter organig

10.  pwysigrwydd ymagwedd system gyfan a chynnal y cydbwysedd a'r fioamrywiaeth naturiol a sut i gefnogi hyn

11.  sut i ddarparu a chynnal cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt sydd o fudd

12.  planhigion sydd o fudd a'u defnydd a'r ffordd y gellir rheoleiddio a rheoli chwyn, plâu a chlefydau yn unol â gofynion organig

13.  mathau a chynnwys priddoedd a thechnegau rheoli pridd

14.  defnyddio, cymhwyso a rheoli dŵr

15.  y gofynion perthnasol ar gyfer amgylcheddau wedi eu rheoli

16.  pwysigrwydd sicrhau a oes gan gyflenwyr statws organig

17.  y cyfleoedd ar gyfer lleihau gwastraff, ailddefnyddio ac ailgylchu

18.  sut i greu rhagolygon a chyllidebau a sut i gyflwyno system reoli ffisegol ac ariannol effeithiol i asesu cydrannau perfformiad beirniadol o'r fenter organig

19.  y dulliau o gyfathrebu cynlluniau a gweithdrefnau i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'u gweithredu

20.  y dulliau o gynnal hylendid a bioddiogelwch a'r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig

21.  y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo, storio, ailgylchu a gwaredu gwastraff ac is-gynnyrch

22.  eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch a hylendid bwyd, codau ymarfer a gofynion sefydliadol perthnasol

23.  pwysigrwydd cadarnhau bod yr offer amddiffynnol personol (PPE) cywir yn cael ei ddefnyddio gan y rheiny sydd yn gweithio yn y fenter organig

24.  yr angen am reolaeth ofalus a monitro rheolaidd ac adolygu perfformiad y fenter organig er mwyn sicrhau bod amcanion a thargedau'n cael eu bodloni

25.  sut gall dylanwadau mewnol ac allanol effeithio ar berfformiad y fenter organig, fel newidiadau mewn prisiau yn deillio o amodau'r farchnad, a'r newidiadau y gall fod angen eu gwneud i'r cynllun

26.  y gofynion ar gyfer adrodd a chofnodi a'r hyd y dylid cadw cofnodion


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Technegau rheoli pridd: e.e. palu/dim palu, defnyddio gwrtaith gwyrdd a gwyndonnydd datblygu ffrwythlondeb, tomwellt, maethynnau ategol, compost a gwrtaith

Gall ffermio organig gynnwys:

    • osgoi gwrtaith a phlaladdwyr artiffisial
    • cylchdroi cnydau a mathau eraill o amaethyddiaeth i gynnal ffrwythlondeb y pridd
    • rheoli chwyn, plaladdwyr a chlefydau gan ddefnyddio technegau amaethyddiaeth a lle bo angen, deunyddiau cymeradwy i reoli plâu a chlefydau
    • defnyddio nifer gyfyngedig o gynnyrch a sylweddau cymeradwy lle bo angen wrth brosesu bwyd organig


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAgM32

Galwedigaethau Perthnasol

Cynghorydd Technegol Amaethyddol, Ffermwyr a Thyfwyr, Rheolwyr Fferm a Garddwriaeth, Amaethyddiaeth

Cod SOC

9111

Geiriau Allweddol

amaethyddiaeth; garddwriaeth; organig; menter; polisïau; cynlluniau