Rheoli cynhyrchu cnydau newydd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys rheoli cynhyrchu cnydau newydd, yn cynnwys eu tyfu, eu cynaeafu a'u storio.
Cnwd newydd yw cnwd sydd yn gorfod cael ei dyfu o dan amodau penodol. Nid yw'r safon yn ymdrin ag egwyddorion sylfaenol sefydlu, iechyd planhigion, cynaeafu a storio ond mae'n canolbwyntio ar y protocolau penodol sy'n ofynnol ar gyfer cynhyrchu cnydau newydd. Mae hyn yn cynnwys pellterau gwahanu, mathau gwahanol o rwystr a dulliau atal presenoldeb adwreiddiau (trawshaolgi) a rheoli gwirfoddol.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am gynhyrchu cnydau newydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gweithgareddau i'w cyflawni
- nodi ardaloedd o drawshalogi posibl
- sefydlu mesurau i gynnal y lefel ofynnol o hylendid a bioddiogelwch a chadarnhau eu bod wedi cael eu cyflawni
- nodi cnydau newydd gwahanol a'r mathau o hadau/grawn sydd ar gael
- cadarnhau bod yr holl ofynion deddfwriaethol ar gyfer tyfu cnydau newydd wedi cael eu bodloni
- nodi'r dull gwahanu mwyaf priodol ar gyfer pob math o gnwd, fel rhwystr ffisegol neu bellter gwahanu
- rheoli banciau hadau pridd ar gyfer cnydau newydd
- cadarnhau bod yr holl beiriannau a ddefnyddir i greu cnydau newydd yn lân a heb eu halogi
- rheoli'r dulliau o gynaeafu cnydau newydd i osgoi trawshalogi
- cadarnhau bod yr ardal storio yn lân ac yn rhydd rhag halogiad a allai effeithio ar ansawdd y cnwd newydd
- cadarnhau bod y cnwd newydd wedi ei storio mewn ardal addas ac yn cael ei gadw ar wahân i gnydau eraill
- sefydlu mesurau ar gyfer ailgylchu neu waredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol neu sefydliadol, a chadarnhau eu bod wedi cael eu gweithredu
- cadarnhau bod dulliau gwaith yn cynnal iechyd a diogelwch ac yn cyd-fynd â deddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion sefydliadol
- cadarnhau bod cofnodion priodol yn cael eu cynnal a'u storio fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer, gofynion sicrhau ansawdd a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- pwysigrwydd cynnal asesiad amgylcheddol o'r safle cyn dechrau gwaith a'r canfyddiadau allai effeithio ar y gweithgaredd arfaethedig
- y rhesymau a'r gofynion ar gyfer tyfu cnydau newydd
- y dulliau o gynnal hylendid a bioddiogelwch a'r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig
- sut gall rhwystrau ffisegol atal symudiad paill a pha effaith y mae rhwystrau gwahanol yn ei gael
- maint, ffynhonnell ac effeithiau posibl paill gwahanol
- y pellterau gwahanu a argymhellir ar gyfer y mathau gwahanol o gnydau
- sut i reoli deddfwriaeth gyfredol a pherthnasol a allai effeithio ar dyfu cnydau newydd
- sut i reoli cydweithredu gyda ffermydd cyfagos a allai effeithio ar dyfu cnydau newydd
- sut mae amserau amaethu a drilio yn helpu i reoli trawsbeillio
- sut i reoli gwirfoddolwyr mewn cnydau dilynol yn cynnwys hadau, cloron a gwreiddiau
- y cnydau sydd yn cyd-fynd yn rhywiol â chnydau a chwyn eraill
- pwysigrwydd glanhau'r holl offer, ardaloedd storio a throsglwyddo a ddefnyddir i gynhyrchu cnydau newydd
- y camau i'w cymryd wrth gynaeafu'r cnwd newydd er mwyn osgoi trawshalogi
- effaith bosibl presenoldeb adwreiddiau (trawshalogi)
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo, storio, ailgylchu a gwaredu gwastraff ac is-gynnyrch
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a gofynion sefydliadol
- y gofynion ar gyfer adrodd ynghylch a chofnodi'r amser y dylid cadw cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae cnydau newydd yn cynnwys:
- Rêp had olew Hear
- Rêp had olew Holl
- Cnydau GM
- Cnydau HT (gallu gwrthsefyll chwynladdwyr) eraill
Amaethyddiaeth gynaliadwy: Bodloni'r gofynion ar gyfer cynhyrchu bwyd tra'n cynnal proffidioldeb a diogelu'r amgylchedd
Gwirfoddolwyr: Planhigion sydd yn tyfu ar eu pen eu hunain, yn hytrach na chael eu plannu'n fwriadol