Cludo cnydau wedi eu cynaeafu

URN: LANAgC7
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Cynhyrchu Cnwd Amaethyddol,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys cludo cnydau ar ôl eu cynaeafu.
 
Os ydych yn defnyddio cerbyd neu gyfarpar mecanyddol ar gyfer cludo cnydau dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol. Wrth gludo cnydau ar y briffordd gyhoeddus mae’n rhaid i chi feddu ar y trwyddedau priodol ar eich cyfer chi a’r cerbyd.
 
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn cludo cnydau wedi eu cynaeafu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r safle a’r gweithgaredd angenrheidiol
  2. gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  3. dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw’r cyfarpar angenrheidiol, yn ddiogel ac yn gywir
  4. gwirio cyflwr y ddaear a monitro effaith y cyfarpar cludo ar strwythur y pridd
  5. gweithredu cyfarpar i gludo cnydau wedi eu cynaeafu, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau gan roi sylw dyledus i ddiogelwch pobl eraill a’r cyffiniau
  6. cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
  7. gosod cnydau wedi eu cynaeafu ar y cyfarpar cludo yn ddiogel ac yn gadarn, ac mewn ffordd sy’n eu diogelu rhag colled, niwed a halogiad wrth eu cludo
  8. monitro’r cnydau wedi eu cynaeafu wrth eu cludo a chymryd camau fel y bo angen
  9. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phobl eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo
  10. dilyn canllawiau’r diwydiant a’r busnes i leihau niwed amgylcheddol
  11. gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau’r busnes
  12. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sydd yn gysylltiedig â chludo cnydau wedi eu cynaeafu
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y cyfarpar cludo sydd yn addas ar gyfer cnydau gwahanol, yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
  4. y mathau o gyfarpar cludo sydd yn ofynnol a sut i ddewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw’r rhain yn ddiogel ac yn effeithiol
  5. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer defnyddio cyfarpar cludo
  6. y ffordd gywir o weithredu cyfarpar cludo a’ch cyfyngiadau mewn perthynas â gweithredu cyfarpar o’r fath
  7. sut i lwytho a diogelu cnydau wedi eu cynaeafu ar gyfer eu cludo er mwyn cynnal diogelwch y llwyth a lleihau colled a niwed
  8. y dulliau perthnasol o ddiogelu’r cnwd wedi ei gynaeafu rhag halogiad neu dywydd eithafol
  9. sut i ddefnyddio cyfarpar cludo er mwyn atal niwed i gnydau, cyfarpar a’r ardal gyfagos
  10. sut i fonitro cyflwr y cnwd sydd wedi ei gynaeafu wrth ei gludo
  11. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth gludo cnydau, a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  12. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig a’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a’r ffordd y dylid gwneud hyn
  13. pwysigrwydd dilyn yr arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol perthnasol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  14. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  15. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cyfarwyddiadau a manylebau: 
darluniau/cynlluniau
amserlenni
datganiadau dull
Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
canllawiau’r cynhyrchydd
gofynion cwsmeriaid
gofynion sicrhau ansawdd
gofynion cnydau
cyfarwyddiadau llafar


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAgC7

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Planhigfa, Gyrrwr Tractor, Gweithiwr Fferm Cyffredinol, Gweithiwr Cynhyrchu Ffrwythau a Llysiau, Paciwr, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

cnydau; cludiant; llysiau; ffrwythau; grawn; fferm; maes