Storio a chynnal cnydau wedi eu cynaeafu
URN: LANAgC6
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Cynhyrchu Cnwd Amaethyddol,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys storio a chynnal cnydau wedi eu cynaeafu. Gall cnydau gynnwys glaswellt a chnydau porthiant, grawnfwydydd/grawn, cnydau gwreiddiau, corbys, rêp had olew, hopys, llysiau, perlysiau, blodau neu ffrwythau. Mae’r safon yn berthnasol i storio cnydau y tu fewn neu tu allan. Mae hefyd yn cynnwys storio wedi ei reoli gan dymheredd.
Mae’r safon yn cynnwys paratoi’r ardal storio, storio’r cnwd, a monitro a chynnal y cnwd tra’i fod yn cael ei storio.
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn storio ac yn cynnal cnydau wedi eu cynaeafu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd angenrheidiol
- gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- dewis, paratoi, defnyddio a chynnal y cyfarpar angenrheidiol, yn ddiogel ac yn gywir
- cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
- paratoi’r cyfleuster storio, yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- defnyddio mesurau i atal y risg o halogiad gan blâu neu glefydau, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
- sicrhau bod cnydau wedi eu cynaeafu wedi cael eu paratoi’n gywir cyn eu storio
- storio cnydau wedi eu cynaeafu yn y cyfleuster storio, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau ac mewn ffordd sy’n lleihau niwed
- cadw’r cyfleuster storio mewn cyflwr diogel a chadarn
- cynnal archwiliadau fel mater o drefn o’r cyfleuster storio a’r cnwd, yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau, a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol
- gwirio cyflyrau amgylcheddol cyfleusterau storio a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol
- cynnal cnydau wedi eu cynaeafu yn y cyflwr gorau posibl, yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- cylchdroi stoc, lle bo angen, yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- symud cnydau o’r cyfleuster storio, yn unol â gofynion busnes ac mewn ffordd sy’n lleihau niwed
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- dilyn canllawiau diwydiant a busnes i leihau niwed amgylcheddol
- prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
- gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
- cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sydd yn gysylltiedig â storio cnydau
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y mathau o gyfarpar sydd yn angenrheidiol ar gyfer storio cnydau a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a storio’r rhain, yn ddiogel ac yn gywir
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth storio cnydau, a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- y math o gyfleuster storio a’r amodau sydd yn angenrheidiol ar gyfer cynnal cnydau wedi eu storio yn eu cyflwr angenrheidiol, yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- arwyddion plâu a chlefydau a’r camau angenrheidiol i’w cymryd
- y mesurau y gellir eu cymryd i atal y risg o niwed yn sgil plâu
- y defnydd o fesurau rheoli plâu a’r ddeddfwriaeth yn ymwneud â’r rhain
- y gofynion paratoi ar gyfer cnydau wedi eu cynaeafu
- y rhesymau dros y ffordd y mae cnydau wedi eu cynaeafu’n cael eu trefnu mewn cyfleusterau storio
- y ffyrdd y caiff diogeledd a diogelwch y cyfleuster storio eu cynnal
- y dulliau ar gyfer cynnal archwiliadau fel mater o drefn o’r cyfleuster storio a’r cnwd, a pham y mae’r rhain yn angenrheidiol
- sut i nodi cnydau sydd yn cael eu storio sydd wedi eu niweidio neu eu halogi a’r camau angenrheidiol i’w cymryd
- y dulliau o atal niwed neu halogiad i gnydau sydd wedi eu storio
- diben cylchdroi stoc
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a’r ffordd y dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd dilyn yr arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac arferion busnes
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfarwyddiadau a manylebau:
• darluniau/cynlluniau
• amserlenni
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
• canllawiau’r cynhyrchydd
• gofynion cwsmeriaid
• gofynion sicrhau ansawdd
• gofynion cnydau
• cyfarwyddiadau llafar
Archwiliadau fel mater o drefn am bresenoldeb:
• anifeiliaid
• pryfed
• adar
• llwydni
• clefydau
• halogiad
• cleisio/niwed
• gwlybaniaeth/lleithder
• newidiadau mewn tymheredd
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANAgC6
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermwr, Gweithiwr Planhigfa, Gweithiwr Fferm Cyffredinol, Gweithiwr Cynhyrchu Ffrwythau a Llysiau, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
cnydau; storio; llysiau; tir âr; glaswellt; porthiant; ffrwythau