Cynaeafu cnydau trwy ddulliau mecanyddol

URN: LANAgC5
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Cnydau Amaethyddol,Garddwriaeth,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys cynaeafu cnydau trwy ddulliau mecanyddol. Bydd dulliau cynaeafu yn dibynnu ar y math o gnwd sydd yn gysylltiedig, manylebau’r cynnyrch a’r gyrchfan. Dylai cnydau gynnwys glaswellt a chnydau porthiant, grawnfwydydd/grawn, cnydau gwreiddiau, rêp had olew, hopys, llysiau, perlysiau, blodau, bylbiau, llwyni, coed neu ffrwythau. 

Wrth weithio gyda pheiriannau a chyfarpar, dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a gweithio tuag at warchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.

Mae’r safon hon yn ddefnyddiol ar gyfer y rheiny sydd yn cynaeafu cnydau trwy ddulliau mecanyddol. Mae cynaeafu cnydau â llaw wedi ei gynnwys yn LANH30 Cynaeafu cnydau â llaw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r safle a’r gweithgaredd angenrheidiol
  2. gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  3. dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw peiriannau a chyfarpar cynaeafu, yn ddiogel ac yn gywir
  4. sicrhau bod peiriannau a chyfarpar cynaeafu yn addas at y diben a chadarnhau eu bod wedi eu sefydlu’n gywir ar gyfer y cnwd
  5. defnyddio peiriannau a chyfarpar i gynaeafu cnydau, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
  6. cynaeafu cnydau trwy ddulliau mecanyddol mewn ffordd sy’n lleihau colled a niwed ac yn cynnal ansawdd yn cnwd
  7. gwneud addasiadau i’r cyfarpar a’r peiriannau i gynnal y perfformiad gorau
  8. nodi cnydau nad ydynt yn bodloni manylebau’r cynnyrch a chymryd y camau priodol
  9. cynnal diogelwch a diogeledd cyfarpar a pheiriannau ar y safle
  10. cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth gynaeafu, yn unol â gweithdrefnau busnes
  11. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  12. dilyn canllawiau’r diwydiant a’r busnes i leihau niwed amgylcheddol
  13. prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
  14. gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
  15. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â chynaeafu cnydau
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y mathau o beiriannau a chyfarpar sydd eu hangen ar gyfer cynaeafu cnydau a sut i baratoi, cynnal a chadw a defnyddio’r rhain yn ddiogel ac yn gywir
  4. y defnydd o dechnoleg wrth gynaeafu cnydau, yn cynnwys GPS a mapio cynnyrch
  5. cyfnodau datblygiad cnwd
  6. y ffordd y bydd y tywydd yn dylanwadu ar benderfyniadau cynaeafu
  7. sut i nodi cnydau nad ydynt yn bodloni manylebau’r cynnyrch ar gyfer cynaeafu a’r camau y dylid eu cymryd
  8. sut i nodi niwed i gnydau a sut i atal niwed i gnydau
  9. y ffordd y mae dulliau cynaeafu yn amrywio yn ôl y math o gnwd, manylebau’r cynnyrch a’r gyrchfan
  10. pwysigrwydd cynaeafu cnydau trwy ddulliau mecanyddol, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
  11. sut i wneud addasiadau i’r broses gynaeafu a phryd mae angen y rhain
  12. y math o broblemau a allai godi wrth gynaeafu a’r camau i’w cymryd
  13. pam y mae’n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd cyfarpar a pheiriannau pan fyddwch ar y safle
  14. pwysigrwydd cynnal lefelau addas o hylendid a bioddiogelwch wrth gynaeafu, a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  15. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a’r ffordd y dylid gwneud hyn
  16. pwysigrwydd dilyn yr arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol perthnasol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  17. y camau y gellir eu cymryd i warchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu
  18. y dulliau ar gyfer ailgylchu neu waredu gwastraff sydd yn cael ei greu gan y broses gynaeafu
  19. sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
  20. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  21. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Gallai cnydau gynnwys:
glaswellt a chnydau porthiant
grawnfwydydd/grawn
cnydau gwreiddiau
corbys
rêp had olew
hopys
llysiau
perlysiau
blodau
llwyni
coed
ffrwythau

Cyfarwyddiadau a manylebau: 
darluniau/cynlluniau
amserlenni
datganiadau dull
Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
canllawiau’r cynhyrchydd
gofynion cwsmeriaid
gofynion sicrhau ansawdd
gofynion cnydau
cyfarwyddiadau llafar


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAgC5

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Gweithiwr Planhigfa, Gyrrwr Tractor, Gweithiwr Cynhyrchu Ffrwythau a Llysiau, Gweithredwr Peiriannau Amaethyddol, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

cynaeafu; cnydau; peiriannau