Gweithredu’r gwaith o osod maethynnau ar gnydau

URN: LANAgC4
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Cnydau Amaethyddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys gweithredu'r gwaith o osod maethynnau ar gnydau.

Bydd angen gwybodaeth arnoch am egwyddorion twf a datblygiad cnydau yn ogystal ag iechyd cnydau.

Wrth weithio gyda pheiriannau, offer neu gemegau, dylech fod wedi cael hyfforddiant a meddu ar dystysgrif gyfredol lle bo angen.

Wrth wneud eich gwaith mae'n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer gweithredwr medrus sy'n gyfrifol am weithredu'r gwaith o osod maethynnau ar gnydau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd i'w wneud
  2. gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
  3. dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r peiriannau a'r offer gofynnol, yn ddiogel ac yn gywir
  4. storio, cludo a pharatoi maethynnau yn unol â deddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
  5. cadarnhau bod y cynnyrch dethol yn addas ar gyfer y gwaith i'w gyflawni ac yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  6. cyfrifo'r isafswm sydd angen ei osod i gyflawni'r canlyniad dymunol
  7. cadarnhau bod yr amodau amgylcheddol yn briodol ar gyfer y gwaith o osod y maethynnau i'w gyflawni
  8. gweithredu'r gwaith o osod maethynnau ar y cnwd, yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  9. cynnal diogelwch a diogeledd peiriannau ac offer pan fyddwch ar y safle
  10. cadarnhau bod hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cynnal, yn unol ag arferion busnes
  11. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu'n cael eu heffeithio ganddo
  12. dilyn canllawiau'r diwydiant neu'r busnes i leihau niwed amgylcheddol
  13. gwaredu cynnyrch dros ben a chynwysyddion yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, codau ymarfer ac arferion busnes
  14. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
  15. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a'r busnes

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod peryglon ac asesu risg
  2. y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y mathau o beiriannau ac offer sy'n ofynnol ar gyfer gweithredu'r gwaith o osod maethynnau ar gnydau a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a storio'r rhain yn ddiogel ac yn gywir
  4. cyfnodau datblygiad cnydau er mwyn gosod maethynnau
  5. gofynion, manteision ac anfanteision systemau cynhyrchu cnydau gwahanol
  6. egwyddorion amaethyddiaeth gynaliadwy a Rheolaeth Integredig Cnydau (ICM)
  7. sut i gludo a storio gwrtaith a chynwysyddion yn unol â deddfwriaeth berthnasol, cyfarwyddiadau a manylebau
  8. y gofynion gosod ar gyfer mathau gwahanol o faethynnau yn cynnwys rhai organig ac anorganig
  9. sut i gyfrifo faint o faeth sy'n ofynnol a sut y dylid ei baratoi
  10. yr amodau amgylcheddol sy'n ofynnol ar gyfer gosod maethynnau ar gnydau a'r effaith y mae'r amodau hyn yn ei gael ar y gweithrediadau
  11. y math o broblemau a allai ddigwydd wrth weithredu'r gwaith o osod maethynnau ar gnydau a'r camau i'w cymryd
  12. pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd peiriannau ac offer pan fyddwch ar y safle
  13. pwysigwrydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  14. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu'n cael eu heffeithio ganddo
  15. yr effaith bosibl y gallai eich gweithgareddau ei gael ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn, yn cynnwys ystyriaethau NVZ (Parth Perygl Nitradau), llygredd dŵr ac effeithiau gorddos ar iechyd planhigion
  16. sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
  17. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  18. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cyfarwyddiadau a manylebau:

  • darluniau/cynlluniau
  • amserlenni
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP),
  • canllawiau cynhyrchwyr
  • gofynion cwsmeriaid
  • gofynion cnydau
  • cyfarwyddiadau llafar

* *
Maethynnau:

  • ffynonellau organig (e.e. gwerydau, biswail a biosolidau)
  • ffynonellau anorganig

Amaethyddiaeth gynaliadwy: Bodloni'r gofynion ar gyfer cynhyrchu bwyd tra'n cynnal proffidioldeb a gwarchod yr amgylchedd.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAgC4

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Gyrrwr Tractor, Gweithiwr Fferm Cyffredinol

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

cnydau; planhigion; maethynnau; gwrtaith