Monitro a chynnal twf iach cnydau
URN: LANAgC3
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Cnwd Amaethyddol,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys monitro a chynnal twf iach cnydau.
Byddwch yn gallu monitro twf cnydau, cymryd y camau angenrheidiol i gynnal twf iach y cnwd a rheoli risgiau i gnydau yn sgil chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd. Gallai hyn gynnwys taenu maethynnau i hybu twf iach neu weithredu dulliau addas o reoli chwyn, plâu, clefydau neu afiechyd.
Wrth weithio gyda pheiriannau a chyfarpar, dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a gweithio tuag at warchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am fonitro a chynnal twf iach cnydau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r safle a’r gweithgaredd angenrheidiol
- gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- monitro twf a datblygiad cnydau, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
- asesu cyflwr y pridd a statws maeth ar gyfer y cnwd
- cael cyngor technegol yn ymwneud â gofynion maeth a’r camau addas i’w cymryd, pan fo angen
- pennu’r maethynnau sydd yn angenrheidiol i gynnal twf iach a’r ffordd y dylid eu taenu ar y cnwd
- gweithredu dulliau o daenu’r maethynnau angenrheidiol ar y cnwd
- asesu’r risgiau i’r cnwd yn sgil chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd
- cael cyngor technegol yn ymwneud â rheoli chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd, a’r camau addas i’w cymryd, lle bo angen
- pennu’r dull o leihau’r risgiau i’r cnwd yn sgil chwyn, plâu, clefydau neu afiechyd sydd wedi eu nodi er mwyn cael y cydbwysedd gorau rhwng gofynion cynhyrchu, effaith amgylcheddol a phwrpas tyfu’r cnwd
- gweithredu dulliau o reoli chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd yn y cnwd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac arferion busnes
- cadarnhau, lle mae cemegau wedi cael eu taenu ar y cnwd, eu bod yn cael eu defnyddio yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
- monitro a gwerthuso effeithiolrwydd yr holl gamau i’w cymryd i gynnal twf iach cnydau
- cadarnhau bod hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cynnal yn unol ag arferion busnes
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- dilyn canllawiau diwydiant a busnes i leihau niwed amgylcheddol
- cadarnhau bod gwastraff yn cael ei brosesu’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
- cadarnhau bod polisïau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch busnes a gofynion asesu risg yn cael eu rhoi ar waith ar draws eich maes cyfrifoldeb
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a’u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sydd yn gysylltiedig â chynnal twf iach cnydau
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- gofynion, manteision ac anfanteision systemau gwahanol cynhyrchu cnydau
- egwyddorion amaethyddiaeth gynaliadwy a Rheolaeth Integredig Cnydau (ICM)
- cyfnodau datblygiad cnydau
- sut i bennu’r amser gorau ar gyfer monitro twf a datblygiad cnydau o ystyried gofynion y cnwd, cyfnod y twf, yr amser o’r flwyddyn a’r risgiau posibl yn sgil chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd
- y dulliau y gellir eu defnyddio i fonitro twf a datblygiad cnydau, yn cynnwys y defnydd o dechnoleg
- sut i ddefnyddio trothwyon ac amserlenni
- y ddeddfwriaeth genedlaethol bresennol sy’n rheoli’r defnydd o wrteithiau a thriniaethau ar gyfer cnydau
- problemau cywasgiad pridd
- y ffyrdd o sicrhau bod y maint cywir o faethynnau ar gael ar gyfer cnydau
- ystyr pH a sut i’w sefydlu
- rôl prif elfennau ac elfennau hybrin yn nhwf iach cnydau
- y gofynion maeth ar gyfer cnydau gwahanol
- ffynonellau cyngor technegol am y camau addas i’w cymryd i ddarparu maethynnau i gnydau
- diben taenu maethynnau a’r ffordd y gellir eu haddasu i annog twf iach cnydau
- y math o faethynnau y gellir eu taenu ar y cnwd a’r dulliau taenu y mae’n rhaid eu defnyddio
- y mathau gwahanol o wrtaith sydd ar gael a’r ffordd y dylid eu defnyddio
- sut i adnabod presenoldeb chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd a allai effeithio ar y cnwd
- ffynonellau cyngor technegol am y camau addas i’w cymryd i reoli chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd
- diben a gofynion Rheolaeth Integredig Plâu (IPM)
- yr amrywiaeth o gamau gwahanol y gellir eu cymryd i ddiogelu cnydau rhag chwyn, plâu, clefydau ac afiechyd, yn unol â systemau cynhyrchu gwahanol, a goblygiadau peidio â gweithredu
- y dulliau o reoli plâu y gellir eu defnyddio a sut i gynyddu effeithiolrwydd y rhain
- diben a’r defnydd o gemegau ar gnydau a’r goblygiadau posibl i’r gweithredwr, y cnwd, yr amgylchedd a’r defnyddiwr
- gofynion deddfwriaeth mewn perthynas â thrin a defnyddio cemegau
- labeli a thaflenni data’r cynhyrchydd mewn perthynas â pharatoi a defnyddio cemegau a’r dulliau cywir o’u taenu
- pwysigrwydd monitro a gwerthuso canlyniad yr holl gamau a gymerir i gynnal twf iach cnydau
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth gynnal twf iach cnydau a’r dulliau o gyflawni hyn
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- yr effaith bosibl y gallai eich gweithredoedd ei gael ar yr amgylchedd a ffyrdd y gellir lleihau hyn, yn cynnwys ystyriaethau NVZ (Parth Perygl Nitradau), llygredd dŵr ac effeithiau gorddos ar iechyd planhigion
- pwysigrwydd gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth, ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu
- sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
- eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae gweithredoedd gwahanol i frwydro yn erbyn chwyn, plâu a chlefydau’n cynnwys:
• gorchuddion cnydau
• cylchdroi
• dewis o amrywiadau
• amaethu rhwng rhesi
• hen welyau hadau
• isafswm braenaru
Cyfarwyddiadau a manylebau:
• darluniau/cynlluniau
• amserlenni
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
• canllawiau’r cynhyrchydd
• gofynion cwsmeriaid
• gofynion sicrhau ansawdd
• gofynion cnydau
• cyfarwyddiadau llafar
Mae prif elfennau ac elfennau hybrin yn cynnwys:
nitrogen, sylffwr, magnesiwm, potasiwm a ffosfforws
Monitro twf a datblygiad cnydau:
• twf iach dymunol
• plâu, clefydau ac afiechyd
o anifeiliaido pryfedo feirysolo bacterolo ffyngolo maetho diffyg elfen hybrino sychdero llanw gyda dŵr
Rheoli plâu:• ffensio• dychrynwyr• ymlidwyr• saethu• biolegol• cemegol• defnydd o bryfed buddiol
Amaethyddiaeth gynaliadwy: Bodloni’r gofynion ar gyfer cynhyrchu bwyd tra’n cynnal proffidioldeb a gwarchod yr amgylchedd.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANAgC3
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermwr, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
cnydau; plâu; clefydau; anhwylderau; chwyn; maethynnau; gwrtaith