Paratoi cyfarpar plannu a phlannu cnydau
URN: LANAgC2
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Cnwd Amaethyddol,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys paratoi cyfarpar plannu a phlannu cnydau.
Byddwch yn gallu sicrhau bod y safle mewn cyflwr addas ar gyfer plannu a bod yr ansawdd a’r meintiau cywir o ddeunydd plannu ar gael. Byddwch hefyd yn gallu sefydlu a gweithredu peiriannau a chyfarpar ar gyfer plannu i fodloni anghenion manyleb y cnwd a’r plannu.
Wrth weithio gyda pheiriannau a chyfarpar, dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a gweithio tuag at warchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
Mae’r safon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am baratoi cyfarpar plannu a phlannu cnydau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r safle a’r gweithgaredd angenrheidiol
- gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw’r cyfarpar a’r peiriannau angenrheidiol, yn ddiogel ac yn gywir
- sicrhau bod y cyfarpar plannu yn addas i’w ddefnyddio a chadarnhau ei fod wedi ei sefydlu i roi’r cynnyrch gofynnol
- sicrhau bod y pridd wedi cael ei baratoi a’i fod mewn cyflwr addas ar gyfer plannu’r cnwd, a gweithredu os nad ydyw
- cludo deunydd plannu mewn ffordd sy’n osgoi niwed ac yn cynnal ansawdd
- defnyddio cyfarpar plannu i osod deunydd plannu yn y pridd yn gyson ar draws y safle, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
- cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
- cynnal diogelwch a diogeledd y cyfarpar a’r peiriannau ar y safle
- glanhau cyfarpar a pheiriannau i lawr ar ôl eu defnyddio a’u gadael yn ddiogel ac yn y cyflwr cywir ar gyfer eu defnyddio yn y dyfodol
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo
- dilyn canllawiau’r diwydiant a’r busnes i leihau niwed amgylcheddol
- prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
- gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
- cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sydd yn gysylltiedig â defnyddio cyfarpar plannu i blannu cnydau
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- pwysigrwydd cynnal asesiad amgylcheddol o’r safle cyn dechrau gwaith, a’r canfyddiadau a allai effeithio ar blannu cnydau
- gofynion, manteision ac anfanteision systemau gwahanol cynhyrchu cnydau
- egwyddorion amaethyddiaeth gynaliadwy a Rheolaeth Integredig Cnydau (ICM)
- y mathau o gyfarpar a pheiriannau sydd yn angenrheidiol ar gyfer plannu cnydau, a sut i’w paratoi, eu defnyddio a’u cynnal a’u cadw yn ddiogel ac yn gywir
- cynnyrch angenrheidiol y cyfarpar plannu, gan ystyried y ffactorau perthnasol
- sut i osod y cyfarpar a’r peiriannau i roi’r cynnyrch angenrheidiol, yn cynnwys y defnydd o dechnoleg
- y mathau o bridd a’u perthynas â phlannu cnwd a sefydlu’r cnydau
- gofynion a diben y manylebau plannu
- sut i sicrhau bod y pridd wedi cael ei baratoi a’i fod mewn cyflwr addas ar gyfer plannu cnydau
- y dulliau a ddefnyddir i baratoi deunydd plannu a sut i gadarnhau ei fod yn addas ar gyfer plannu
- y ddeddfwriaeth genedlaethol gyfredol sy’n rheoli’r defnydd o wrteithiau a thriniaethau wrth blannu cnydau
- pwysigrwydd amseru wrth blannu cnydau, a’r ffordd y mae’r math o gnwd yn effeithio ar yr amseru
- y rhyng-berthynas rhwng dwysedd, dyfnder, cyfeiriadedd, gofod rhwng planhigion a lled rhesi wrth blannu, beth sydd orau ar gyfer cnydau gwahanol a safleoedd gwahanol a pham y mae hyn yn wir
- y ffactorau y mae’n rhaid eu hystyried wrth blannu cnydau, fel triniaethau hadau, ychwanegu plaladdwyr neu faethynnau a'r gofynion cyfreithiol ar gyfer eu defnyddio
- y math o broblemau a allai godi wrth blannu a’r camau i’w cymryd
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth blannu cnydau a’r dulliau o gyflawni hyn
- pam y mae’n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd cyfarpar a pheiriannau pan fyddwch ar y safle
- sut i lanhau cyfarpar a pheiriannau i lawr, a pham y mae hyn yn bwysig
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd dilyn yr arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol perthnasol er mwyn lleihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- y camau y gellir eu cymryd i warchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu
- sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac arferion busnes
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai cnydau gynnwys:
• grawnfwydydd/grawn
• cnydau gwreiddiau
• corbys
• rêp had olew
• gwinwydd
• hopys
• llysiau
• perlysiau
• blodau
• llwyni
• coed
• ffrwythau
Cyfarwyddiadau a manylebau:
• darluniau/cynlluniau
• amserlenni
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
• canllawiau’r cynhyrchydd
• gofynion cwsmeriaid
• gofynion sicrhau ansawdd
• gofynion cnydau
• cyfarwyddiadau llafar
Deunydd plannu:
• hadau
• planhigion
• bylbiau, cloron, cormau, ac ati
• gwrteithiau
• triniaethau
Safle deunydd plannu:
• dwysedd
• dyfnder
• cyfeiriadedd
• gofod rhwng planhigion
• lled rhesi
• cadernid
Ffactorau perthnasol:
• math a chyflwr y pridd
• topograffeg
• hinsawdd
• y tywydd a chyflwr y ddaear
• strwythurau a systemau presennol (e.e. ffensys, gwrychoedd, draeniad)
• defnydd blaenorol o’r safle
• triniaethau blaenorol
• mynediad
Cynnyrch angenrheidiol:
• planhigion/ha
• kg/ha
Amaethyddiaeth gynaliadwy: Bodloni’r gofynion ar gyfer cynhyrchu bwyd tra’n cynnal proffidioldeb a gwarchod yr amgylchedd.
Amseru:
• tymoroldeb
• cyflwr y pridd
• y tywydd
• amodau amgylcheddol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANAgC2
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermwr, Gyrrwr Tractor, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
cnydau; plannu; hadau; planhigion