Paratoi a chynaeafu safleoedd yn barod ar gyfer plannu cnydau

URN: LANAgC1
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Cnwd Amaethyddol,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys paratoi ac amaethu safleoedd, yn barod ar gyfer plannu cnydau.
 
Bydd angen eich bod yn gallu defnyddio cyfarpar cynaeafu er mwyn cyflawni amodau sy’n ofynnol ar gyfer y tir er mwyn gallu plannu. Bydd angen dealltwriaeth arnoch hefyd o fathau a chyflwr pridd, hinsawdd, tywydd a chyflwr y ddaear.
 
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
 
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
 
Mae’r safon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am baratoi a chynaeafu safleoedd, yn barod ar gyfer plannu cnydau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r safle a’r gweithgaredd angenrheidiol
  2. gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  3. dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw’r cyfarpar a’r peiriannau angenrheidiol, yn ddiogel ac yn gywir
  4. sicrhau bod cyfarpar paratoi a chynaeafu’r tir yn addas at y defnydd a’i fod wedi ei sefydlu i ddarparu cyflwr cywir y ddaear
  5. paratoi’r safle i fodloni gofynion y cnwd i gael ei blannu a ffactorau perthnasol eraill
  6. cynaeafu’r safle i fodloni’r cyfarwyddiadau a’r manylebau a ffactorau perthnasol eraill
  7. cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
  8. cynnal diogeledd y cyfarpar a’r peiriannau ar y safle
  9. glanhau’r cyfarpar a’r peiriannau i lawr ar ôl bob defnydd a’u gadael yn ddiogel ac yn y cyflwr cywir ar gyfer eu defnyddio yn y dyfodol
  10. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phobl eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo
  11. dilyn canllawiau’r diwydiant a busnes i leihau niwed amgylcheddol
  12. prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
  13. gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau’r busnes
  14. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sydd yn gysylltiedig â pharatoi a chynaeafu safleoedd
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd 
  3. pwysigrwydd cynnal asesiad amgylcheddol o’r safle cyn dechrau’r gwaith, a’r canfyddiadau allai effeithio ar baratoi a chynaeafu’r safle yn barod ar gyfer plannu cnydau
  4. gofynion, manteision ac anfanteision systemau gwahanol cynhyrchu cnydau
  5. egwyddorion amaethyddiaeth gynaliadwy a Rheoli Cnydau Integredig (ICM)
  6. y mathau o gyfarpar a pheiriannau sydd eu hangen ar gyfer paratoi a chynaeafu safleoedd, yn barod ar gyfer plannu cnydau, a sut i baratoi, cynnal a chadw a defnyddio’r rhain yn ddiogel ac yn gywir
  7. sut i sefydlu’r cyfarpar a’r peiriannau i wneud y dasg ofynnol, yn cynnwys y defnydd o dechnoleg 
  8. y dulliau a ddefnyddir i baratoi’r safle, yn unol â’r cyfarwyddiadau, y manylebau a’r gofynion cynhyrchu
  9. y dulliau a ddefnyddir i gynaeafu’r safle, yn unol â’r cyfarwyddiadau, y manylebau a’r gofynion cynhyrchu
  10. yr effaith y bydd y math o bridd, yr hinsawdd, y tywydd a chyflwr y ddaear, strwythurau a systemau’r ddaear yn ei gael ar y dulliau cynaeafu a ddefnyddir
  11. y gofynion a allai fod ar safleoedd ar gyfer draeniad a pherthynas hyn â’r math o bridd a’i gyflwr, yr hinsawdd a lleoliad daearyddol
  12. y berthynas rhwng y cnwd a’r math a chyflwr y pridd, yr hinsawdd a lleoliad daearyddol
  13. y math o broblemau a allai godi wrth baratoi a chynaeafu, a’r camau priodol i’w cymryd
  14. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth baratoi a chynaeafu safleoedd, yn barod ar gyfer plannu cnydau, a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  15. pam y mae’n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd cyfarpar a pheiriannau pan fyddwch ar y safle
  16. sut i lanhau cyfarpar a pheiriannau i lawr, a pham y mae hyn yn bwysig
  17. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
  18. pwysigrwydd dilyn yr arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol perthnasol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  19. y camau y gellir eu cymryd i warchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac i ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu
  20. sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
  21. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  22. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


cyfarwyddiadau a manylebau: 
darluniau/cynlluniau
amserlenni
datganiadau dull
Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
canllawiau’r cynhyrchydd
gofynion y cwsmer
gofynion sicrhau ansawdd
gofynion cnydau
cyfarwyddiadau llafar

Paratoi’r safle:
draeniad
addasu maethynnau
cliriad

Ffactorau perthnasol:
math a chyflwr y pridd
topograffeg
hinsawdd
y tywydd a chyflwr y ddaear
strwythurau a systemau presennol (e.e. ffensys, gwrychoedd, draeniad)
defnydd blaenorol o’r safle
triniaethau blaenorol
mynediad

Cyflwr gofynnol y ddaear:
dyfnder
arwynebedd sydd wedi ei gynnwys
trwch

Amaethyddiaeth gynaliadwy: Bodloni’r gofynion ar gyfer cynhyrchu bwyd tra’n cynnal proffidioldeb a gwarchod yr amgylchedd.



Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAgC1

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Gyrrwr Tractor, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

paratoi; safleoedd; cynaeafu; cnydau; caeau