Darparu meddyginiaeth filfeddygol wedi ei gweinyddu o dan gyfarwyddyd Person Cymwys Cofrestredig
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys darparu meddyginiaethau milfeddygol wedi eu gweinyddu o dan gyfarwyddyd Person Cymwys Cofrestredig (RQP).
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw aelod o dîm ymarfer milfeddygol sy’n darparu meddyginiaeth filfeddygol wedi ei gweinyddu o dan gyfarwyddyd Person Cymwys Cofrestredig (RQP).
Mae Person Cymwys Cofrestredig yn Llawfeddyg Milfeddygol, yn Fferyllydd neu’n Berson Cymwys Addas (SQP).
Dylid dilyn y ddeddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau iechyd a diogelwch cysylltiedig y filfeddygfa wrth ddarparu meddyginiaethau wedi eu gweinyddu.
Mae rheoliadau’r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol yn nodi categorïau gwahanol o feddyginiaethau a phwy sydd ag awdurdod i’w cyflenwi:
POM-V (Meddyginiaeth Presgripsiwn yn Unig – Llawfeddyg Milfeddygol)
POM-VPS (Meddyginiaeth Presgripsiwn yn Unig - Milfeddyg, Fferyllydd, SQP)
NFA-VPS (Di-fwyd Anifail - Milfeddyg, Fferyllydd, SQP)
AVM-GSL (Meddyginiaeth Filfeddygol Awdurdodedig – Rhestr Werthu Gyffredinol – unrhyw aelod o’r filfeddygfa).
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cadarnhau gofynion y cleient ar gyfer meddyginiaethau milfeddygol gyda’r Person Cymwys Cofrestredig (RQP)
rhoi’r wybodaeth ofynnol i’r Person Cymwys Cofrestredig (RQP) yn unol â chyfarwyddyd llawfeddyg milfeddygol cymwys neu nyrs filfeddygol, i alluogi’r Person Cymwys Cofrestredig (RQP) i roi’r feddyginiaeth ofynnol ar bresgripsiwn
- rhoi’r meddyginiaethau milfeddygol penodol sydd wedi eu gweinyddu i’r cleient o dan gyfarwyddyd y Person Cymwys Cofrestredig (RQP)
- cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau iechyd a diogelwch ac ymarfer yn ymwneud â darparu meddyginiaethau milfeddygol bob amser
- rhoi cyngor i’r cleient ar ddefnyddio a gwaredu deunyddiau milfeddygol o dan gyfarwyddyd y Person Cymwys Cofrestredig (RQP)
- cadw cofnodion cyflenwadau yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol a’r weithdrefn ymarfer o dan gyfarwyddyd y Person Cymwys Cofrestredig (RQP)
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand: