Cynorthwyo gyda darpariaeth gofal nyrsio cyffredinol i gleifion milfeddygol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys cynorthwyo gyda darpariaeth gofal nyrsio cyffredinol i gleifion milfeddygol tra’u bod yn yr amgylchedd milfeddygol. Bydd hyn yn cynnwys cynorthwyo gyda chleifion milfeddygol â chlefydau heintus neu rai nad ydynt yn heintus.
Bydd gofal nyrsio cyffredinol yn cynnwys cynorthwyo gyda darpariaeth maeth a hylifau, therapi hylif ac archwilio rhwymau, eli a monitro clwyfau.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer Cynorthwywyr Gofal Ategol sydd yn gweithio o dan gyfarwyddyd staff milfeddygol cymwys.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cadarnhau cyflwr y claf milfeddygol a’r gofal nyrsio cyffredinol sy’n ofynnol gyda staff ymarfer milfeddygol cymwys
cadarnhau a chael cyflenwadau o’r offer a’r deunyddiau sydd eu hangen i wneud y gwaith gofal nyrsio cyffredinol gofynnol ar gyfer cleifion milfeddygol
defnyddio’r gweithdrefnau rheoli heintiau gofynnol ar gyfer ymarfer milfeddygol sy’n berthnasol i’r maes ymarfer milfeddygol yr ydych yn gweithio ynddo
- gwisgo’r dillad a’r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol
- ymdrin â’r claf milfeddygol gan ddefnyddio dull sy’n berthnasol i’w rywogaeth er mwyn lleihau problemau corfforol neu feddygol
- darparu gofal nyrsio cyffredinol i gleifion milfeddygol yn unol â chyfarwyddyd staff ymarfer milfeddygol cymwys
- cynorthwyo staff ymarfer milfeddygol cymwys i roi cymorth cyntaf neu driniaeth frys i gleifion milfeddygol
- arsylwi a chofnodi cynnydd y claf milfeddygol sy’n cael ei nyrsio yn unol â chyfarwyddyd staff ymarfer milfeddygol cymwys
- hysbysu staff ymarfer milfeddygol cymwys ynghylch unrhyw newidiadau a arsylwir yn y claf milfeddygol
- cadw cofnodion yn unol â chyfarwyddyd staff ymarfer milfeddygol cymwys
- gwaredu deunydd gwastraff clinigol ac anghlinigol yn unol â deddfwriaeth berthnasol a pholisi ymarfer milfeddygol
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
- cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth lles anifeiliaid perthnasol wrth gynorthwyo darpariaeth gofal nyrsio cyffredinol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pam y mae'n bwysig cadarnhau cyflwr y claf milfeddygol a'r gofal nyrsio gofynnol gyda staff ymarfer milfeddygol cymwys
- yr offer a'r deunyddiau a ddefnyddir ar gyfer mathau gwahanol o ofal nyrsio cyffredinol ar gyfer cleifion milfeddygol
- gweithdrefnau rheoli heintiau gofynnol ar gyfer ymarfer milfeddygol sy'n berthnasol i'r maes ymarfer milfeddygol yr ydych yn gweithio ynddo
- y mathau o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sy'n ofynnol ar gyfer y gweithgaredd
- y mathau gwahanol o ofal nyrsio cyffredinol a wneir ar gleifion milfeddygol
- sut i leoli ac atal rhywogaethau gwahanol o gleifion milfeddygol er mwyn cyflawni gofal nyrsio cyffredinol gwahanol
- y gofal ychwanegol sy'n ofynnol ar gyfer clefydau heintus mewn unedau gofal milfeddygol safonol a heintus
- y camau sy'n ofynnol wrth nyrsio cleifion milfeddygol â chyflyrau heintus neu filheintiol
- egwyddorion meddygol a phrotocolau cymorth cyntaf a thriniaeth frys anifeiliaid yn y filfeddygfa
- meini prawf arsylwi'r claf milfeddygol a ddefnyddir yn ystod mathau gwahanol o ofal nyrsio cyffredinol ar gyfer anifeiliaid
- y rhesymau dros hysbysu ynghylch newidiadau mewn arsylwadau a'u goblygiadau ar gyfer gofal nyrsio cyffredinol i gleifion milfeddygol
- y dulliau cywir a diogel ar gyfer gwaredu deunyddiau gwastraff clinigol ac anghlinigol
- eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth lles anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gofal meddygol cyffredinol: cynorthwyo'r gwaith o ddarparu maeth a hylifau, therapi hylifau, archwilio rhwymau, eli a monitro clwyfau.