Gofal ar gyfer cleifion mewnol milfeddygol

URN: LANAUX3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwasanaethau nyrsio milfeddygol ac ategol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu gofal ar gyfer cleifion mewnol milfeddygol.  Mae’n cynnwys arsylwi, cofnodi ac adrodd ar statws y cleifion mewnol milfeddygol tra’u bod mewn llety milfeddygol.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer Cynorthwywyr Gofal Ategol mewn ymarfer milfeddygol sydd yn gweithio o dan gyfarwyddyd staff milfeddygol cymwys.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau’r gofynion gofal ar gyfer cleifion mewnol milfeddygol gyda’r staff milfeddygol cymwys

  2. defnyddio’r gweithdrefnau rheoli heintiau gofynnol ar gyfer ymarfer milfeddygol ar gyfer y maes ymarfer milfeddygol yr ydych yn gweithio ynddo

  3. gwisgo’r dillad a’r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol

  4. paratoi a defnyddio’r offer a’r deunyddiau sy’n ofynnol ar gyfer gofalu am gleifion mewnol milfeddygol

  5. arsylwi, cofnodi ac adrodd ar gleifion mewnol milfeddygol o dan gyfarwyddyd staff milfeddygol cymwys

  6. darparu gofal i’r claf mewnol milfeddygol o dan gyfarwyddyd staff milfeddygol cymwys 

  7. darparu’r maeth a’r hylif sy’n ofynnol ar gyfer y cleifion mewnol milfeddygol a’u cyflwr yn unol â chyfarwyddiadau staff milfeddygol cymwys

  8. cynnal diogelwch y cleifion mewnol milfeddygol i’w diogelu rhag anafiadau, neu rhag dianc

  9. cadw cofnodion wrth arsylwi’r cleifion mewnol milfeddygol, yn unol â chyfarwyddyd staff milfeddygol cymwys

  10. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch, iechyd a llesiant anifeiliaid perthnasol, asesiadau risg, codau ymarfer a pholisïau busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwysigrwydd cadarnhau’r gofynion gofal ar gyfer cleifion mewnol milfeddygol gyda staff milfeddygol cymwys

  2. y gweithdrefnau rheoli heintiau sy’n ofynnol ar gyfer ymarfer milfeddygol sy’n berthnasol i’r maes ymarfer milfeddygol yr ydych yn gweithio ynddo

  3. y mathau o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer gofal cleifion mewnol milfeddygol

  4. y ffordd y dylai cleifion mewnol milfeddygol gael eu harsylwi a’r dulliau o gofnodi ac adrodd ynghylch arsylwadau i staff milfeddygol cymwys

  5. yr arwyddion y gallai cleifion mewnol milfeddygol fod yn dirywio neu mewn trallod a pham y mae’n bwysig tynnu sylw staff milfeddygol cymwys at hyn

  6. sut a phryd i ddarparu cyswllt a gofal ar gyfer cleifion mewnol milfeddygol a sut gallai hyn helpu lles corfforol ac iechyd y cleifion mewnol milfeddygol

  7. y mathau o offer a thechnegau a ddefnyddir ar gyfer darparu maeth a hylifau i gleifion mewnol milfeddygol

  8. y mathau gwahanol o lety sy’n ofynnol ar gyfer gofal cleifion mewnol milfeddygol unigol

  9. y diogelwch gofynnol ar gyfer y llety milfeddygol

  10. eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau busnes


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

Original URN LANAUX5

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd gofal ategol milfeddygol, Nyrs milfeddygol

Cod SOC

6131

Geiriau Allweddol

llety cleifion; gofal nyrsio