Paratoi’r amgylcheddau clinigol mewn milfeddygfa
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi’r amgylcheddau clinigol mewn milfeddygfa. Mae’n cynnwys paratoi ystafelloedd archwilio, argaeledd offer a deunyddiau.
Mae’r safon yn addas ar gyfer cynorthwywyr gofal ategol sydd yn gweithio o dan gyfarwyddyd staff milfeddygol cymwys.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
paratoi ystafelloedd archwilio ac amgylcheddau clinigol eraill i’w defnyddio yn unol â’r gwasanaethau milfeddygol sy’n cael eu cyflwyno yn unol â phrotocolau ymarfer milfeddygol perthnasol
sicrhau bod yr amgylchedd clinigol yn addas ar gyfer rhywogaethau’r claf milfeddygol, y cyflwr meddygol a’r weithdrefn feddygol neu’r archwiliad fydd yn cael ei wneud
- dilyn protocolau rheoli heintiau gofynnol ymarfer milfeddygol tra’n gweithio mewn amgylcheddau clinigol mewn milfeddygfa
- gwisgo’r dillad a’r offer amddiffynnol personol gofynnol (PPE)
- gwirio cyflwr deunyddiau ac offer milfeddygol yn unol â phrotocolau perthnasol ymarfer milfeddygol
- gwaredu deunyddiau dros ben a gwastraff yn unol â gweithdrefnau perthnasol ymarfer milfeddygol
- hysbysu staff milfeddygol cymwys ynghylch unrhyw broblemau
- gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
sut i baratoi amgylcheddau clinigol, yr offer a’r deunyddiau ar gyfer gweithdrefnau ac archwiliadau meddygol a wneir mewn milfeddygfa
yr amodau amgylcheddol clinigol sy’n ofynnol ar gyfer gweithdrefnau ac archwiliadau meddygol a sut i’w haddasu
gweithdrefnau rheoli heintiau perthnasol ymarfer milfeddygol
y mathau o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gweithgaredd
y mathau o offer a deunyddiau a ddefnyddir ar gyfer y gweithdrefnau a’r archwiliadau meddygol sy’n cael eu gwneud mewn milfeddygfa, a’r lefelau stoc gofynnol
y deunyddiau dros ben a gwastraff a gynhyrchir gan weithdrefnau meddygol a sut i drin a gwaredu’r rhain yn unol â phrotocolau perthnasol ymarfer milfeddygol
y gweithdrefnau ymarfer milfeddygol perthnasol ar gyfer ymdrin â phroblemau fel namau gydag offer a chyflenwi deunyddiau wrth baratoi amgylcheddau clinigol a phryd i hysbysu staff milfeddygol cymwys ynghylch y rhain
y rhesymau pam y mae’n bwysig gofyn am arweiniad gan staff milfeddygol cymwys
pam y dylid cadw’r amgylchedd clinigol yn ddiogel ac yn gadarn cyn y weithdrefn neu’r archwiliad meddygol
eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau busnes