Derbyn cleientiaid a’u hanifeiliaid i’r filfeddygfa
URN: LANAUX1
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau nyrsio milfeddygol ac ategol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â derbyn cleientiaid a'u hanifeiliaid i'r filfeddygfa. Gallai hyn gynnwys cleientiaid yn casglu meddyginiaeth neu fwyd, neu staff milfeddygol yn derbyn anifeiliaid ar gyfer apwyntiadau.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:
- derbynwyr milfeddygfa
- cynorthwywyr gofal ategol
- nyrs filfeddygol gofrestredig
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- derbyn a chyfathrebu gyda chleientiaid a'u hanifeiliaid wrth iddynt gyrraedd y filfeddygfa o fewn terfynau eich cyfrifoldeb
- sicrhau bod cleientiaid a'u hanifeiliaid yn gyfforddus yn y filfeddygfa
- hysbysu cleientiaid, lle bo angen, ynghylch yr amser aros a'r rhesymau dros unrhyw oedi
- esbonio protocolau perthnasol y filfeddygfa i gleientiaid o fewn terfynau eich cyfrifoldeb
- cael gafael ar gofnodion cywir y cleient lle bo angen gan ddilyn polisïau Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a chyfrinachedd cleientiaid, yn unol â deddfwriaeth berthnasol a pholisïau ymarfer milfeddygol
- sicrhau bod yr anifail yn cael ei adnabod a'i atal yn unol â gweithdrefnau ymarfer milfeddygol
- cyfeirio cleientiaid i faes perthnasol ymarfer milfeddygol ac esbonio'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig yn y filfeddygfa
- ymgynghori ag aelodau'r tîm milfeddygol os oes gennych unrhyw bryderon yn ymwneud â'r anifail neu'r cleient
- cadw ardaloedd cyhoeddus y filfeddygfa mewn cyflwr glân, taclus ac wedi eu rheoli'n dda
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y dulliau gwahanol o gyfathrebu sy'n berthnasol i anghenion y cleient a'u hanifeiliaid
- pwysigrwydd adnabod y cleient, yr anifail a'r rheswm dros eu hymweliad â'r filfeddygfa
- y graddfeydd amser arferol ar gyfer apwyntiadau yn eich milfeddygfa, a'r rhesymau cyffredin dros oedi
- sut i gael mynediad at gofnodion cleientiaid a'u ffeilio gan ddilyn polisïau cywir Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a chyfrinachedd cleientiaid, yn unol â deddfwriaeth berthnasol a pholisi ymarfer milfeddygol
- sut i adnabod ac ymdrin ag unrhyw ofynion gan y cleient e.e. anawsterau symudedd, nam ar y golwg
- sut i ymdrin ag ymddygiad heriol gan gleientiaid a'u hanifeiliaid, o fewn terfynau eich cyfrifoldeb eich hun
- rheolaeth anifeiliaid, yn cynnwys ymdrin, atal ac adnabod
- gweithdrefnau'r filfeddygfa ar gyfer derbyn cleientiaid a'u hanifeiliaid
- y math o weithredoedd a allai fod yn ofynnol ar ôl i'r cleient a'r anifeiliaid ymweld â'r filfeddygfa
- yr ystod o wasanaethau sy'n cael eu cynnig gan y filfeddygfa sy'n berthnasol i ofynion y cleient a'r anifail
- pryd i gael cyngor yn ymwneud â gofynion y cleient a'r anifail a chan bwy
- pam y mae'n bwysig cadw ardaloedd cyhoeddus y filfeddygfa mewn cyflwr glân a thaclus
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gweithdrefnau’r Filfeddygfa:
rheoli anifeiliaid, ardaloedd aros, cludo anifeiliaid o fewn y filfeddygfa, argyfyngau, amheuaeth o glefydau heintus, ail safbwynt ac atgyfeiriadau
Ymddygiad heriol:
Ymosodol
Cam-drin llafar a chorfforol
Cynhennus
Gwneud ceisiadau amhosibl
Ddim yn derbyn polisïau a gweithdrefnau
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANAUX1
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwyydd gofal ategol milfeddygol, Derbynnydd milfeddygol
Cod SOC
6131
Geiriau Allweddol
milfeddygol; derbynfa; ategol; bwyd anifeiliaid; meddyginiaeth anifeiliaid; apwyntiadau milfeddyg