Cynnig Reiki i anifeiliaid

URN: LANACT3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithgareddau Milfeddygol Para-broffesiynol
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynnig Reiki i’r anifail yn unol â’r gofynion proffesiynol a chyfreithiol perthnasol ac yn unol â’ch addysgu a’ch dysgu dilynol, i fodloni anghenion yr anifail
  2. defnyddio arferion diogel fel y bo’n briodol i’r anifail dan sylw a’i ofynion er mwyn lleihau unrhyw risgiau i’r anifail, i chi ac i eraill
  3. cadarnhau bod y lleoliad/yr amgylchedd lle mae’r Reiki yn cael ei gynnig yn addas, eich bod chi a’r lleoliad wedi’u paratoi’n briodol a’ch bod yn gweithio yn unol â’r gweithdrefnau sy’n ofynnol gan y lleoliad
  4. esbonio proses Reiki i berchennog neu ofalwr yr anifail a sut mae’n cael ei gynnig i anifeiliaid, a’i annog i gymryd rhan weithgar mewn trafodaethau a phenderfyniadau
  5. cadarnhau manylion iechyd, lles, ffordd o fyw, natur, diagnosisau milfeddygol, meddygaeth/triniaeth yr anifail, ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall
  6. nesáu at yr anifail, ei drin a gweithio gyda’r anifail mewn modd sy’n debygol o ennill ei hyder, meithrin ffydd ac annog cydweithrediad, er mwyn i chi gynnig Reiki yn effeithiol
  7. caniatáu i’r anifail ddewis pa mor bell y mae am fod oddi wrthoch chi, oni bai eich bod wedi cael eich gwahanu rhag yr anifail; os felly, gweithiwch o bellter priodol
  8. cynnig triniaethau Reiki yn unol â’r cynllun y cytunwyd arno gyda’r perchennog neu’r gofalwr
  9. gwirio lles yr anifail a’i ymateb i’r driniaeth Reiki yn barhaus, a gweithredu’n unol â hynny, yn dibynnu ar ymateb yr anifail
  10. addasu eich triniaeth wrth i chi fynd yn eich blaen i fodloni anghenion yr anifail a mynd i’r afael â meysydd y nodoch fod angen mwy o sylw arnynt
  11. defnyddio gwahanol dechnegau Reiki, lle bo’n briodol, yn enwedig ar gyfer problemau emosiynol ac ymddygiadol
  12. sôn am gynnig Reiki i’r perchennog neu’r gofalwr fel y bo’n briodol, os yw’r broblem gyda’r anifail yn deillio o ymddygiad y perchennog neu’r gofalwr
  13. darparu adborth o’r sesiwn i’r perchennog neu’r gofalwr ar beth roedd egni’r Reiki yn ei awgrymu a’ch arsylwadau eich hun o ymateb yr anifail i’r sesiwn
  14. asesu canlyniadau’r Reiki i bennu ei effeithiolrwydd a’r camau gweithredu a’r cynlluniau mwyaf priodol yn y dyfodol
  15. gofyn bod perchennog neu ofalwr yr anifail yn rhoi adborth yn dilyn y sesiwn a thrafod unrhyw gamau y gallen nhw eu cymryd a allai fod o fudd i’r anifail
  16. adnabod pryd i roi’r gorau i driniaeth Reiki, oedi am ychydig a/neu roi sicrwydd
  17. cynhyrchu cofnodion sy’n cydymffurfio â’r gofynion proffesiynol, cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
  18. cynnal safonau ymddygiad proffesiynol a moeseg a gweithio o fewn cyfyngiadau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a’ch profiad eich hun
  19. myfyrio ar eich perfformiad eich hun a chynllunio, cofnodi a gwerthuso eich datblygiad proffesiynol parhaus
  20. cynnal perthynas waith â chydweithwyr, cleientiaid ac ymarferwyr eraill o fewn eich disgyblaeth, ynghyd â gweithwyr proffesiynol milfeddygol neu ofal anifeiliaid eraill, fel y bo angen
  21. cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth bresennol a chodau ymarfer cysylltiedig sy’n ymwneud â gofal iechyd a lles anifeiliaid bob amser

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. theori Reiki ar lefel ymarferydd (dynol), gan gynnwys ei hanes, ei ddatblygiad, ei egwyddorion, ei ddefnydd cyffredinol, pwysigrwydd hunandriniaethau, a’r buddion ymarferol i’r meddwl, y corff a’r ysbryd
  2. eich llinach chi/llinach eich athro i Mikao Usui a phwysigrwydd ymgyfarwyddo neu urddo wyneb yn wyneb uniongyrchol wrth hyfforddi’n ymarferwr Reiki
  3. y berthynas rhwng defnyddio Reiki gyda meddygaeth/gofal milfeddygol confensiynol a therapïau cyflenwol eraill, a buddion posibl hyn, ynghyd â’i ddefnyddio ar ei ben ei hun o dan amgylchiadau priodol
  4. ymarfer Reiki, gan gynnwys cynnig Reiki sy’n cyffwrdd â’r corff, uwchlaw’r corff ac o bell, a pha un sydd orau i’w ddefnyddio gyda gwahanol anifeiliaid i gyflawni’r ymateb mwyaf ffafriol
  5. sut i gasglu gwybodaeth gan berchennog neu ofalwr yr anifail am gyflyrau iechyd, diagnosisau milfeddygol a thriniaethau’r anifail, nawr neu yn y gorffennol, am broblemau corfforol, emosiynol, lles meddyliol a phroblemau eraill, a pham mae angen hyn
  6. o dan ba amgylchiadau y dylech ymgynghori â pherchennog neu ofalwr yr anifail i sicrhau bod milfeddyg yn gwneud diagnosis cyn cynnig Reiki
  7. pwysigrwydd esbonio Reiki i berchennog neu ofalwr yr anifail, ac ennill ei ddealltwriaeth
  8. strwythur ysgerbydol a lleoliad a swyddogaeth y prif organau yn yr anifeiliaid y byddwch yn cynnig Reiki iddynt
  9. y cyflyrau corfforol allweddol a all godi mewn anifeiliaid a sut gall Reiki gefnogi gofal iechyd yr anifail
  10. sut gall Reiki helpu anifeiliaid â phroblemau ymddygiadol sy’n deillio o broblemau emosiynol a sut i ddefnyddio gwahanol dechnegau
  11. sut i adnabod symptomau “baner goch”, pan fydd angen asesiad neu driniaeth filfeddygol ar frys, ac ymwybyddiaeth o glefydau sy’n hysbysadwy
  12. y canlyniadau posibl yn dilyn triniaethau Reiki
  13. sut i gynnig Reiki mewn ffordd sydd wedi’i theilwra i anghenion pob anifail ac amgylchiad unigol, gan alluogi’r anifail i ddewis p’un ai i dderbyn y Reiki, sut ac am ba hyd
  14. sut i ymgymryd â’ch gwaith yn unol â gweithdrefnau yn y lleoliad a ddefnyddir ar gyfer y driniaeth Reiki
  15. y sefyllfaoedd pan all fod yn briodol rhoi’r gorau i’r Reiki a sut i drafod hyn gyda’r perchennog neu’r gofalwr
  16. sut i asesu newidiadau yn yr anifail ar ôl y Reiki, gan ddefnyddio’ch arsylwadau a’ch teimladau eich hun ynghyd ag adborth gan y perchennog neu’r gofalwr, a defnyddio hyn i werthuso cynnydd a phennu’r camau nesaf
  17. y gofynion proffesiynol, cyfreithiol a sefydliadol perthnasol am gynhyrchu a storio cofnodion ar gyfer pob ymgynghoriad a thriniaeth
  18. eich cyfrifoldebau proffesiynol a moesegol, cyfyngiadau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a phrofiad, a’r angen am yswiriant addas ar gyfer gweithio gyda phobl ac anifeiliaid
  19. rôl sefydliadau a chymdeithasau proffesiynol Reiki
  20. gofynion deddfwriaeth bresennol ar les anifeiliaid a chyfyngiadau’r Ddeddf Milfeddygon (1966) o ran diagnosis anifeiliaid a rhoi triniaeth iddynt

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae hanes anifail yn cynnwys ei:

brofiadau bywyd

iechyd a diagnosisau meddygol

iechyd emosiynol 

iechyd seicolegol neu iechyd meddwl 

problemau ymddygiadol

profiad blaenorol o’r ddisgyblaeth gyflenwol holistig/naturiol berthnasol

Deddfwriaeth bresennol ar iechyd a lles anifeiliaid:

Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid 2006 

Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid (Yr Alban) 2006

Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon) 2011 

Gall rhoi’r gorau i Reiki fod yn briodol:

pan na fydd ymarferwr yn teimlo bod Reiki yn briodol 

pan na fydd ymarferwr yn teimlo’i fod yn dymuno cynnal sesiwn Reiki 

pan na fydd ymarferwr o’r farn bod ganddo ddigon o brofiad (ar gyfer y sefyllfa neu’r anifail)

pan fydd yr ymarferwr o’r farn y gall Reiki helpu ychydig, ond mewn gwirionedd, mae angen help mwy arbenigol ar y broblem e.e. hyfforddwr neu ymddygiadwr anifeiliaid 

pan fydd yr ymarferwr o’r farn bod angen gofal meddygol brys 

pan fydd yr ymarferwr o’r farn bod angen atgyfeirio i filfeddyg 

Symptomau baner goch – cyflyrau sydd angen sylw meddygol ar unwaith

Gall Reiki gael ei deilwra, yn ddibynnol ar:

faint yr anifail

lleoliad yr anifail

natur yr anifail

cyflwr yr anifail

agweddau eraill sy’n “benodol i achos” 

Mae’r canlyniadau posibl yn dilyn Reiki yn cynnwys:

amrywiaeth eang o ymatebion iachau

lles gwell neu deimladau lles gwell (gan gynnwys cysur)

atal dirywio pellach, gan gyflawni cyflwr sefydlog a chynnal 

yr angen posibl am adolygiad gan filfeddyg yn gysylltiedig â’r feddyginiaeth neu’r driniaeth gyfredol 

Deddf Milfeddygon (1966): 

Mae’n anghyfreithlon o dan y Ddeddf Milfeddygon (1966) i bobl nad ydynt yn filfeddygon gyflawni milfeddygaeth.

Mae’r Ddeddf yn diffinio Milfeddygaeth fel a ganlyn:

gwneud diagnosis o glefydau mewn anifeiliaid, ac anafiadau iddynt, gan gynnwys profion a gyflawnir ar anifeiliaid at ddibenion diagnostig 

rhoi cyngor ar sail diagnosis o’r fath 

triniaeth feddygol neu lawdriniaethol anifeiliaid 

cyflawni llawdriniaethau ar anifeiliaid


Dolenni I NOS Eraill

LANACT1 Asesu a diffinio angen anifail am ofal iechyd cyflenwol a naturiol/holistig
LANACT2 Datblygu a chytuno ar gynlluniau ar gyfer gofal iechyd cyflenwol a naturiol/holistig anifail 

LANAnC10 Arsylwi ac adnabod ymddygiad anifeiliaid
LANAnC15 Trin a ffrwyno anifeiliaid
LANCS68 Gweithio yn unol â gofynion proffesiynol, deddfwriaethol a rheoleiddiol, ac o fewn cwmpas cyfrifoldeb moesegol a phersonol, er iechyd a lles anifeiliaid


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

2030

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANACT3

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal anifeiliaid

Cod SOC

6129

Geiriau Allweddol

Reiki; anifail; therapi; naturiol; holistig; cyflenwol