Datblygu a chytuno ar gynlluniau ar gyfer gofal iechyd cyflenwol a naturiol/holistig anifail
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â datblygu a chytuno ar gynlluniau ar gyfer gofal iechyd cyflenwol a naturiol/holistig anifail gyda’i berchennog neu ofalwr.
Cyn bod disgyblaeth gyflenwol a naturiol/holistig yn cael ei chynnig neu ei rhoi i anifail, mae’n bwysig bod trafodaeth iawn yn digwydd gyda pherchennog neu ofalwr yr anifail er mwyn cytuno ar y weithdrefn briodol a dymunedig. Dylai asesiad cychwynnol ac adolygiad parhaus werthuso cynnydd a chynllunio unrhyw driniaeth bellach.
Mae’r safon hon yn cyflwyno’r ffactorau y mae’n rhaid eu cyflawni ac y mae’n rhaid cydymffurfio â nhw i wneud yn siŵr bod anghenion yr anifail a’i berchennog neu ei ofalwr yn cael eu bodloni. Rhaid i hyn ganiatáu am y ffaith y gall fod angen newid camau gweithredu arfaethedig wrth i’r ddisgyblaeth fynd yn ei blaen. Hefyd, mae’n gofyn bod darparwyr gwasanaethau’n cydymffurfio â’r polisïau a’r codau ymarfer proffesiynol sy’n berthnasol i’w disgyblaeth, a bod ymarferwyr yn seilio’u hymarfer ar wybodaeth gywir a chyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- pennu’r gofal iechyd cyflenwol a naturiol/holistig a fydd yn bodloni anghenion yr anifail orau, ar sail yr holl wybodaeth sydd ar gael i chi
- cynghori ar amgylchedd neu leoliad addas i gyflawni’r gofal iechyd cyflenwol a naturiol/holistig ynddo er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau
- esbonio wrth y perchennog neu’r gofalwr yr opsiynau gofal iechyd cyflenwol a naturiol/holistig fydd yn bodloni anghenion yr anifail a’i sefyllfa orau
- esbonio’r ymatebion posibl a, lle bo’n briodol, canlyniadau tebygol y gofal iechyd cyflenwol a naturiol/holistig, gan nodi ei gyfyngiadau posibl
- esbonio a disgrifio’r disgyblaethau gofal iechyd cyflenwol a naturiol/holistig eraill a pham y gallai’r rhain fod yn well, os yw’r rhain er lles pennaf yr anifail
- datblygu a chytuno gyda’r perchennog neu’r gofalwr ar y dull y dylid ei ddilyn i helpu’r anifail orau, pa ymatebion sy’n cael eu disgwyl a’r broses werthuso
- cynnwys perchennog neu ofalwr yr anifail ym mhob penderfyniad i’w hannog i deimlo’n hyderus a gallu gwneud dewis gwybodus
- cadarnhau bod perchennog neu ofalwr yr anifail yn ymwybodol o’r ymrwymiad sydd ei angen ganddynt, ac yn cefnogi’r ymrwymiad hwnnw, er mwyn i’r canlyniad fod yn llwyddiannus
- ennill a chofnodi cydsyniad perchennog neu ofalwr yr anifail, yn unol â’r gofynion proffesiynol, cyfreithiol a sefydliadol perthnasol, cyn ymgymryd â gofal iechyd cyflenwol a naturiol/holistig
- defnyddio arferion diogel sy’n briodol i’r anifail dan sylw a’i ofynion er mwyn lleihau unrhyw risgiau i’r anifail, i chi ac i eraill
- nesáu at yr anifail a’i drin mewn modd sy’n debygol o gynyddu ei ffydd a’i hyder yn yr ymarferwr a’i annog i gydweithredu, a lleihau trallod
- cynnal lles yr anifail bob amser
- adnabod pryd y gallai ymddygiad yr anifail arwyddo y dylech oedi dros dro, rhoi’r gorau i’r gweithgaredd neu ddiwygio eich dull
- ceisio cymorth os bydd angen, pe bai risg i iechyd, diogelwch neu ddiogeled yr anifail, i chi neu i eraill
- cynhyrchu cofnodion sy’n cydymffurfio â’r gofynion proffesiynol, cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- cynnal safonau ymddygiad proffesiynol a moeseg a gweithio o fewn cyfyngiadau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a’ch profiad eich hun
- myfyrio ar eich perfformiad eich hun a chynllunio, cofnodi a gwerthuso eich datblygiad proffesiynol parhaus
- cynnal perthynas waith â chydweithwyr, cleientiaid ac ymarferwyr eraill o fewn eich disgyblaeth, ynghyd â gweithwyr proffesiynol milfeddygol neu ofal anifeiliaid eraill, fel y bo angen
- cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth bresennol a chodau ymarfer cysylltiedig sy’n ymwneud â gofal iechyd a lles anifeiliaid bob amser
- gweithio’n ddiogel a chymryd camau addas i atal y posibilrwydd o drosglwyddo clefydau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- amrywiaeth o ddulliau a thechnegau sydd ar gael ar gyfer eich disgyblaeth gyflenwol a naturiol/holistig, yn dibynnu ar yr anifail a’i amgylchiadau
- sut i asesu a phenderfynu ar y dull neu’r dechneg gofal iechyd cyflenwol a naturiol/holistig i’w defnyddio er mwyn cael y canlyniadau gorau, gan gyfrif am nodau a chyfyngiadau’r opsiynau gwahanol
- yr amgylchedd mwyaf priodol ar gyfer cynnig neu roi eich gofal iechyd cyflenwol a naturiol/holistig er mwyn cyflawni’r canlyniad gorau posibl i’r anifail
- y sefyllfaoedd lle gall gwasanaethau ychwanegol gefnogi eich disgyblaeth gofal iechyd cyflenwol a naturiol/holistig er mwyn rhoi budd gwell
- y sefyllfaoedd pan all disgyblaeth gofal iechyd cyflenwol a naturiol/holistig arall fod yn well i’r anifail penodol yn ei gyflwr neu sefyllfa benodol
- sut i asesu pob achos yn unigol er mwyn cyflawni’r canlyniad gorau posibl i’r anifail
- sut i ddarparu gwybodaeth a chyngor i gefnogi perchennog neu ofalwr yr anifail i wneud y dewis maen nhw’n ei ffafrio ar gyfer gofal eu hanifail, a phwysigrwydd gwneud i’r perchennog neu’r gofalwr deimlo’i fod yn cael ei gynnwys a’i fod yn rhan werthfawr o’r broses
- sut i weithio gyda pherchennog neu ofalwr yr anifail i ddatblygu dull cytunedig o helpu’r anifail, a phwysigrwydd ei gynnwys a’i gefnogi er mwyn i’r dull cytunedig fod yn llwyddiannus
- sut dylai cynnydd gael ei werthuso a phwysigrwydd trafod hyn gyda pherchennog neu ofalwr yr anifail ar y dechrau ac yn ystod y broses gofal iechyd cyflenwol a naturiol/holistig
- unrhyw gamau gweithredu y mae’n ofynnol i’r perchennog neu’r gofalwr eu cymryd i gefnogi llwyddiant hirdymor a’r angen am ddilyn unrhyw gyngor ôl-driniaeth i fyny
- y mathau o gyflyrau corfforol ac ymddygiadol a all effeithio ar y ffordd o nesáu at yr anifail a’i drin
- sut i nodi’r risgiau a’r peryglon posibl sy’n gysylltiedig â thrin anifeiliaid a sut i leihau ac ymateb i’r rhain er lles pennaf yr anifail ac i amddiffyn eich diogelwch eich hun a’ch eraill, a diogelwch yr anifail
- y gwahanol ffactorau a all effeithio’n andwyol ar ymddygiad anifail a beth i’w wneud os sylwir ar y rhain
- y gofyniad adrodd os bydd amheuaeth o gam-drin anifeiliaid a’r broses i’w dilyn
- sut i adnabod ac asesu arwyddion straen a braw yn yr anifeiliaid sy’n cael eu trin a sut i nodi sefyllfaoedd pan nad yw nesáu at anifail na’i drin yn addas nac yn briodol, heb gymorth
- y gofynion proffesiynol, cyfreithiol a sefydliadol perthnasol am gynhyrchu a storio cofnodion ar gyfer pob ymgynghoriad a thriniaeth
- eich cyfrifoldebau proffesiynol a moesegol, cyfyngiadau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a’ch profiad, a’r angen am yswiriant addas
- rôl sefydliadau a chymdeithasau proffesiynol
- gofynion deddfwriaeth bresennol ar les anifeiliaid a chyfyngiadau’r Ddeddf Milfeddygon (1966) o ran diagnosis anifeiliaid a rhoi triniaeth iddynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae hanes anifail yn cynnwys ei:
brofiadau bywyd
iechyd a diagnosisau meddygol
iechyd emosiynol
iechyd seicolegol neu iechyd meddwl
problemau ymddygiadol
profiad blaenorol o’r ddisgyblaeth gyflenwol holistig/naturiol berthnasol
Deddfwriaeth bresennol ar iechyd a lles anifeiliaid:
Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid 2006
Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid (Yr Alban) 2006
Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon) 2011
Deddf Milfeddygon (1966):
Mae’n anghyfreithlon o dan y Ddeddf Milfeddygon (1966) i bobl nad ydynt yn filfeddygon gyflawni milfeddygaeth.
Mae’r Ddeddf yn diffinio Milfeddygaeth fel a ganlyn:
gwneud diagnosis o glefydau mewn anifeiliaid, ac anafiadau iddynt, gan gynnwys profion a gyflawnir ar anifeiliaid at ddibenion diagnostig
rhoi cyngor ar sail diagnosis o’r fath
triniaeth feddygol neu lawdriniaethol anifeiliaid
cyflawni llawdriniaethau ar anifeiliaid
Dolenni I NOS Eraill
LANACT1 Asesu a diffinio angen anifail am ofal iechyd cyflenwol a naturiol/holistig
LANACT3 Cynnig Reiki i anifeiliaid
LANAnC10 Arsylwi ac adnabod ymddygiad anifeiliaid
LANAnC15 Trin a ffrwyno anifeiliaid
LANCS68 Gweithio yn unol â gofynion proffesiynol, deddfwriaethol a rheoleiddiol, ac o fewn cwmpas cyfrifoldeb moesegol a phersonol, er iechyd a lles anifeiliaid