Trin a rheoli anifeiliaid o deulu’r ceffyl

URN: LABEHC2
Sectorau Busnes (Suites): Gweithgareddau Milfeddygol Para-broffesiynol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Ebr 2010

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn disgrifio'r cymhwysedd sydd ei angen i drin a rheoli anifeiliaid o deulu'r ceffyl yn waraidd er mwyn gallu gwneud gwaith a bod y peryglon i'r anifail, y triniwr, i chi eich hun ac eraill yn cael eu lleihau. Byddwch yn gallu asesu'r peryglon cysylltiedig, nodi dulliau priodol o drin a rheoli ar gyfer y ceffyl a'i ofynion, a defnyddio'r dulliau hyn yn effeithiol ac yn ddiogel. Byddwch yn gallu ystyried y ffactorau canlynol a allai effeithio ar ymddygiad ceffylau:

oed
brîd
tymer
amgylchedd
profiadau
dylanwadau allanol

Bydd angen i chi gyfathrebu gyda phobl eraill er mwyn cytuno ar y gofynion ar gyfer trin a rheoli er mwyn sicrhau:

bod diogelwch personél, yn eich cynnwys chi, yn cael ei gynnal
bod lles yr anifail yn cael ei gynnal
bod yr offer priodol yn cael ei ddewis a'i ddefnyddio'n gywir


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1 Dewis dull o drin a rheoli’n waraidd sy’n briodol ar gyfer y ceffyl a’i ofynion er mwyn lleihau’r perygl i’r anifail, y triniwr, i chi eich hun ac eraill

P2 Trafod a chytuno ar y gofynion trin gydag eraill er mwyn i’r dasg gael ei gwneud

P3 Mynd at y ceffyl mewn ffordd sy’n hybu lles anifeiliaid, sy’n lleihau trallod i’r anifail ac sy’n cynnal iechyd a diogelwch

P4 Addasu’r ffordd o drin a rheoli’r ceffyl mewn ymateb i’w adweithiau a’i ymddygiad

P5 Mabwysiadu safle i weithio sy’n ddiogel ar gyfer y ceffyl a chi eich hun

P6 Sicrhau bod iechyd a lles yr anifail yn cael ei gynnal yr holl amser

P7 Sicrhau nad yw eich rhyngweithio chi gyda’r ceffyl yn cael effaith niweidiol ar ei ymddygiad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Trin a rheoli anifeiliaid o deulu’r ceffyl

G1 Pam y gall fod angen trin a rheoli ceffylau a sut y gallai hyn effeithio ar y dull a ddewisir

G2 Yr ystod o ddulliau gwahanol o drin a rheoli

G3 Sut i gynllunio trin a rheoli ceffylau

G4 Sut i asesu’r peryglon sy’n gynhenid i drin a rheoli ceffylau

G5 Ffactorau a allai achosi trallod neu fraw mewn ceffylau

G6 Sut i adnabod ac asesu’r arwyddion o drallod a braw mewn ceffylau

G7 Sut i adnabod sefyllfaoedd neu amodau lle nad yw’n addas i berson wynebu, trin neu reoli ceffyl heb gymorth a chanlyniadau posibl gwneud hynny

Gweithio gydag anifeiliaid o deulu’r ceffyl

G8 Sut i adnabod amgylchedd gwaith addas

G9 Sut i adnabod safleoedd gwaith addas fydd yn lleihau’r perygl o anaf neu salwch personol

G10 Sut i wynebu, codi, dal a gweithio gyda thraed ceffylau

G11 Terfynau gwaith diogel yn y droed a’r aelod

G12 Rhagofalon i’w cymryd i atal anaf i’r ceffyl

G13 Cydnabod hynny pan fyddai’r ceffyl yn cael budd o hyfforddiant interim.


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Ebr 2015

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEHC2

Galwedigaethau Perthnasol

Milfeddyg para-broffesiynol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

teulu’r ceffyl; ceffyl; trin; rheoli