Rheoli datblygiad mewnol a pherthnasoedd allanol sefydliad
URN: JETSCD24
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Cymunedol
Datblygwyd gan: NYA
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2015
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu amgylchedd lle gall sefydliadau gyflawni gwaith datblygu cymunedol cynhwysol ac effeithiol. Mae'r safon yn cynnwys rheoli strwythurau a systemau mewnol i sicrhau gwaith datblygu cymunedol effeithiol. Ar yr un pryd, mae'r safon yn annog ymarferwyr datblygu cymunedol i edrych allan, gyda golwg ar ymateb i faterion ac anghenion cymunedol. Mae'r safon hon yn ymwneud â'r tasgau y mae angen eu cyflawni i gynyddu ymwybyddiaeth o ddatblygu cymunedol yn eu sefydliad eu hun, ac i reoli'r perthnasoedd rhwng y sefydliad a'r cymunedau y mae'n gweithio gyda nhw.
Mae'r safon hon yn berthnasol i'r rhai sy'n rheoli perthnasoedd ym maes datblygu cymunedol ac i holl reolwyr sefydliadau datblygu cymunedol.
Trefnir y safonau datblygu cymunedol yn chwe maes allweddol:
• Un - deall ac ymarfer datblygu cymunedol
• Dau - deall cymunedau ac ymgysylltu â nhw
• Tri - gwaith grŵp a gweithredu ar y cyd
• Pedwar - cydweithio a gweithio ar draws sectorau
• Pump - dysgu cymunedol er newid cymdeithasol
• Chwech - llywodraethu a datblygu sefydliadol
Mae'r safon hon yn rhan o Faes Allweddol Chwech
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 casglu tystiolaeth i ddadansoddi newidiadau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd i'r amgylchedd gwaith o ran eu goblygiadau i'ch ymarfer datblygu cymunedol eich hun
2 delio'n effeithiol gyda newid, ansicrwydd a gwrthdaro o fewn y sefydliad neu'r tu allan iddo
3 cefnogi datrys problemau ar y cyd o fewn timau a rhwng ymarferwyr a staff eraill y sefydliad i gyflawni amcanion sefydliadol
4 datblygu a gweithredu ymarfer i gynyddu grymuso cymunedol ac ymwneud â phrosesau cynllunio a gwneud penderfyniadau
5 rheoli'r tensiynau a all godi rhwng gwerthoedd proffesiynol a sefydliadol yn eich sefydliad eich hun
6 rheoli effaith penderfyniadau eich sefydliad eich hun ar gymunedau
7 datblygu polisïau sefydliadol i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus ymarferwyr datblygu cymunedol
8 rhoi arweiniad ar fodelau o wneud penderfyniadau a chynllunio datganoledig i eraill yn y sefydliad
9 adfyfyrio ar ymarfer i lywio penderfyniadau rheoli sy'n ymwneud â datblygu a newid y sefydliad
10 asesu effaith arfer datblygu cymunedol ar gymunedau penodol a rhannu hynny gydag phobl eraill berthnasol i gefnogi cynllunio yn y dyfodol
11 defnyddio gwahanol arddulliau arweinyddiaeth ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd yn eich sefydliad eich hun a pherthnasoedd allanol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Y cyd-destun
1 materion allweddol wrth reoli a chefnogi datblygu cymunedol
2 cyd-destun eich sefydliad datblygu cymunedol eich hun o fewn polisi lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
3 natur, cyfansoddiad a hanes cymunedau lleol
4 ethos y sefydliad a gweithdrefnau a fydd yn effeithio ar gymunedau
5 deddfwriaeth sy'n effeithio ar waith gyda grwpiau cymunedol a chymunedau
Modelau a phrosesau sy'n ofynnol ar gyfer rheoli ymarfer datblygu cymunedol
6 sut mae eiriol dros ymarfer datblygu cymunedol ar lefel strategol yn eich sefydliad eich hun
7 sut mae mesur effaith datblygu cymunedol ar gymunedau a sefydliadau
8 sut mae hwyluso newid a datblygiad unigol a sefydliadol
9 agweddau at reoli gwrthdaro
Adnoddau ar gyfer rheoli ymarfer datblygu cymunedol
10 y gwerth y mae profiad o ymarfer datblygu cymunedol yn ei gyfrannu i rôl reoli
11 sut mae cael hyd i gyngor a gwybodaeth arbenigol a'u cyrchu sy'n berthnasol i wella arferion a strwythurau sefydliadol
12 modelau ar gyfer gwneud penderfyniadau datganoledig a'u haddasrwydd mewn gwahanol sefyllfaoedd
13 pwysigrwydd adfyfyrio'n feirniadol ar ymarfer mewnol y sefydliad fel rhan o ddatblygiad proffesiynol a sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Seiliwyd datblygu cymunedol ar gyfres o werthoedd sy'n ei osod ar wahân i weithgareddau eraill, a all fod yn gysylltiedig, yn y gymuned. Mae'r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ddatblygu cymunedol, ac yn darparu sylfaen ar gyfer pob un o'r safonau. Y gwerthoedd yw;
1 Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
2 Gwrthweithio camwahaniaethu
3 Grymuso cymunedol
4 Gweithredu ar y cyd
5 Gweithio a dysgu gyda'n gilydd
Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallai pob un o'r gwerthoedd datblygu cymunedol lywio ymarfer yn y safon hon. Nid yw'r gosodiadau hyn yn rhan o'r gofynion asesu.
1 bod dulliau creadigol o feddwl yn cael eu cymhwyso i sicrhau agweddau cynhwysol at ddatrys problemau
2 bod materion camwahaniaethu sy'n cael eu codi gan gymunedau yn cael eu clywed, ac y gweithredir arnynt
3 bod prosesau gwneud penderfyniadau cyfranogol yn cael eu mabwysiadu sy'n cynnwys cymunedau a sefydliadau'n weithredol
4 bod natur gyfunol datblygu cymunedol yn cael ei gynnal yn wyneb targedau sy'n ymwneud ag unigolion
5 bod aelodau o'r gymuned yn cael eu symbylu a'u cefnogi i arwain y gwaith o feithin perthnasoedd allanol
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2018
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Learning Skills Improvement Service
URN gwreiddiol
LSICD25
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Grwpiau Cymorth Cymunedol
Cod SOC
3231
Geiriau Allweddol
datblygu cymunedol; ymarferydd datblygu cymunedol; ymarfer datblygu cymunedol; gwerthoedd datblygu cymunedol; ymchwil datblygu cymunedol; ymgynghori ar ddatblygu cymunedol; grwpiau datblygu cymunedol; dulliau datblygu cymunedol