Monitro a gwerthuso gweithgareddau datblygu cymunedol
URN: JETSCD23
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Cymunedol
Datblygwyd gan: NYA
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2015
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rôl yr ymarferydd datblygu cymunedol wrth fynd ati a chynorthwyo eraill i fonitro, adolygu a gwerthuso eu gweithgareddau, eu prosiectau a'u ffyrdd o drefnu. Mae'n darparu fframwaith ar gyfer gwerthuso canlyniadau ac effaith ymarfer datblygu cymunedol.
Mae'r safon hon yn berthnasol i bob ymarferydd datblygu cymunedol.
Trefnir y safonau datblygu cymunedol yn chwe maes allweddol:
• Un - deall ac ymarfer datblygu cymunedol
• Dau - deall cymunedau ac ymgysylltu â nhw
• Tri - gwaith grŵp a gweithredu ar y cyd
• Pedwar - cydweithio a gweithio ar draws sectorau
• Pump - dysgu cymunedol er newid cymdeithasol
• Chwech - llywodraethu a datblygu sefydliadol
Mae'r safon hon yn rhan o Faes Allweddol Chwech
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 esbonio diben monitro, adolygu a gwerthuso prosesau a gweithgareddau datblygu cymunedol o ran eich sefydliad eich hun
2 pennu'r amserlenni a'r terfynau amser ar gyfer monitro, adolygu a gwerthuso gweithgareddau ar gyfer prosiect neu broses yn eich sefydliad eich hun
3 pennu'r meini prawf ar gyfer monitro, adolygu a gwerthuso gweithgareddau, gan gynnwys gweithdrefnau ar gyfer delio gyda gwybodaeth sensitif a chyfrinachol
4 asesu goblygiadau amser ac adnoddau cynnal gwerthusiadau
5 cefnogi'r defnydd o ddulliau agored, cynhwysol a grymusol ar gyfer casglu a chofnodi gwybodaeth feintiol ac ansoddol sy'n darlunio canlyniadau
6 darparu gwybodaeth am yr hyfforddiant a'r gefnogaeth sydd ar gael i grwpiau, fel eu bod yn gallu creu a gweithredu fframwaith ar gyfer gwerthuso gwasanaethau a gweithgareddau sefydliadol
7 cynghori grwpiau ar ddulliau casglu data y gellir gwirio eu cywirdeb a'u perthnasedd, a'u cofnodi i lywio prosiectau yn y dyfodol
8 cynnal cyswllt rheolaidd rhwng pawb sy'n ymwneud â'r prosesau monitro, adolygu neu werthuso
9 cefnogi grwpiau i adolygu'r prosesau a'r dulliau a ddefnyddir wrth fonitro, adolygu neu werthuso, er mwyn eu gwella ar gyfer defnydd yn y dyfodol
10 hwyluso grwpiau i ddefnyddio'u data monitro a gwerthuso i adolygu eu gweithgareddau a chynllunio'u cyfeiriad yn y dyfodol
11 cynorthwyo grwpiau i adrodd am eu canfyddiadau a'u hargymhellion i fuddiolwyr, cyllidwyr a rhanddeiliaid eraill perthnasol
12 darparu cefnogaeth a gwybodaeth i alluogi grwpiau i weithredu argymhellion sy'n deillio o fonitro a gwerthuso
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwerthuso a monitro cyfranogol ac ar y cyd
1 sut mae cynllunio ar gyfer monitro a gwerthuso wrth gynllunio prosiect
2 systemau a dulliau monitro a gwerthuso sy'n hwyluso casglu gwybodaeth gywir a pherthnasol am gynnydd prosiect neu broses
3 y camau sy'n rhan o'r prosesau monitro a gwerthuso
4 dulliau cyfranogol o werthuso effeithiolrwydd gweithgaredd
5 sut mae adrodd canfyddiadau gweithgareddau monitro a gwerthuso
6 strategaethau lledaenu sy'n briodol ar gyfer gweithgareddau datblygu cymunedol
7 sut mae defnyddio canlyniadau gweithgareddau monitro a gwerthuso i wella ymarfer
8 ble mae cael yr adnoddau a'r arbenigedd i gefnogi monitro a gwerthuso
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Seiliwyd datblygu cymunedol ar gyfres o werthoedd sy'n ei osod ar wahân i weithgareddau eraill, a all fod yn gysylltiedig, yn y gymuned. Mae'r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ddatblygu cymunedol, ac yn darparu sylfaen ar gyfer pob un o'r safonau. Y gwerthoedd yw;
1 Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
2 Gwrthweithio camwahaniaethu
3 Grymuso cymunedol
4 Gweithredu ar y cyd
5 Gweithio a dysgu gyda'n gilydd
Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallai pob un o'r gwerthoedd datblygu cymunedol lywio ymarfer yn y safon hon. Nid yw'r gosodiadau hyn yn rhan o'r gofynion asesu.
1 mae'r meini prawf monitro a gwerthuso yn cynnwys rhoi sylw i ba raddau mae'r gwerthoedd wedi llywio ymarfer
2 mae'r prosesau monitro a gwerthuso yn gynhwysol, yn rymusol ac yn gwrthweithio camwahaniaethu
3 mae cymunedau'n deall sut mae gweithgareddau monitro a gwerthuso'n helpu i arddangos newidiadau sy'n digwydd
4 ceisir safbwyntiau, barn a phrofiadau'r gymuned fel rhan o'r broses werthuso
5 caiff canlyniadau canfyddiadau gwerthuso eu bwydo nôl i gymunedau
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2018
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Learning Skills Improvement Service
URN gwreiddiol
LSICD23
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Grwpiau Cymorth Cymunedol
Cod SOC
3231
Geiriau Allweddol
datblygu cymunedol; ymarferydd datblygu cymunedol; ymarfer datblygu cymunedol; gwerthoedd datblygu cymunedol; ymchwil datblygu cymunedol; ymgynghori ar ddatblygu cymunedol; grwpiau datblygu cymunedol; dulliau datblygu cymunedol