Cynllunio a chaffael adnoddau a chyllid ar gyfer cynaliadwyedd
URN: JETSCD21
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Cymunedol
Datblygwyd gan: NYA
Cymeradwy ar:
2015
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'r gefnogaeth mae ymarferwyr datblygu cymunedol yn ei darparu i grwpiau i nodi a chaffael yr adnoddau angenrheidiol i sicrhau eu cynaliadwyedd yn y tymor hwy.
Noder: nid yw ‘adnoddau’ yn cyfeirio at gyllid yn unig, ond yn hytrach at ystod eang o asedau, sy'n cynnwys amser, sgiliau a gwybodaeth pobl, a chyfarpar, deunyddiau ac adeiladau a gyfrannir.
Mae'r safon hon yn berthnasol i ymarferwyr datblygu cymunedol sy'n darparu cefnogaeth uniongyrchol i grwpiau cymunedol.
Trefnir y safonau datblygu cymunedol yn chwe maes allweddol:
• Un - deall ac ymarfer datblygu cymunedol
• Dau - deall cymunedau ac ymgysylltu â nhw
• Tri - gwaith grŵp a gweithredu ar y cyd
• Pedwar - cydweithio a gweithio ar draws sectorau
• Pump - dysgu cymunedol er newid cymdeithasol
• Chwech - llywodraethu a datblygu sefydliadol
Mae'r safon hon yn rhan o Faes Allweddol Chwech
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 cefnogi grwpiau i ddatblygu cynllun strategol, cynllun busnes a strategaeth ariannu a fydd yn cyflawni eu nodau a'u hamcanion
2 cefnogi grwpiau i ganfod yr adnoddau sy'n ofynnol i gyflawni eu nodau a'u hamcanion
3 cefnogi grwpiau i nodi arbenigedd eu haelodau ac asedau'r grŵp
4 hwyluso grwpiau i feddwl yn greadigol am ddiwallu eu hanghenion adnoddau
5 cynorthwyo grwpiau i gyfrifo gwerth gwahanol fathau o adnoddau, gan gynnwys amser a sgiliau pobl a gyfrannir i'w gweithgareddau
6 cyfeirio grwpiau ymlaen at asiantaethau cymorth i gael help i ddatblygu strategaethau a chanfod deiliaid adnoddau er mwyn cyflawni eu nodau a'u hamcanion
7 cynorthwyo grwpiau i asesu priodoldeb ffynonellau ariannu posibl ar gyfer yr anghenion a nodwyd ganddynt
8 cefnogi grwpiau i werthuso'r ystod o opsiynau ar gyfer cael hyd i gyllid
9 cynyddu ymwybyddiaeth o fanteision partneriaethau ffurfiol neu anffurfiol er mwyn cyflwyno cynnig i gyrff ariannu
10 cefnogi grwpiau trwy'r camau o baratoi ceisiadau am gyllid
11 cefnogi grwpiau i ddatblygu a rheoli eu hadnoddau eu hunain a'u systemau monitro ariannol fel eu bod yn atebol i gyllidwyr, buddiolwyr a'r gymuned ehangach
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Ffyrdd o drefnu
1 technegau i gynorthwyo sefydliadau i bennu, datblygu ac adolygu eu nodau a'u blaenoriaethau, eu cryfderau a'u meysydd i’w gwella
Materion Cyfreithiol
2 goblygiadau statudol ar gyfer ariannu, a gofynion cyffredinol cyrff ariannu
Adnoddau a chyllid
3 sut mae amcangyfrif anghenion sefydliadau, prosiectau penodol a gweithgareddau o ran adnoddau
4 systemau ariannol sylfaenol ar gyfer cyllidebu a chadw cyfrifon
5 yr ystod o gynlluniau busnes a datblygu a allai fod o ddefnydd i sefydliadau cymunedol
6 sut mae cwblhau ceisiadau am arian ar raddfa fach, ganolig a mawr
Rheoli prosiectau
7 sut mae cymhwyso egwyddorion cynllunio a rheoli prosiectau
8 cynlluniau ar gyfer rheoli trefniadau wrth gefn prosiectau
Gwerthuso a monitro cyfranogol ac ar y cyd
9 sut mae defnyddio gwybodaeth fonitro a gwerthuso i lywio cynlluniau tymor byr, canolig a hir
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Seiliwyd datblygu cymunedol ar gyfres o werthoedd sy'n ei osod ar wahân i weithgareddau eraill, a all fod yn gysylltiedig, yn y gymuned. Mae'r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ddatblygu cymunedol, ac yn darparu sylfaen ar gyfer pob un o'r safonau. Y gwerthoedd yw;
1 Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
2 Gwrthweithio camwahaniaethu
3 Grymuso cymunedol
4 Gweithredu ar y cyd
5 Gweithio a dysgu gyda'n gilydd
Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallai pob un o'r gwerthoedd datblygu cymunedol lywio ymarfer yn y safon hon. Nid yw'r gosodiadau hyn yn rhan o'r gofynion asesu.
1 bod materion moesegol ac amgylcheddol sy'n ymwneud ag ariannu ac adnoddau yn cael eu hystyried, a bod gwahanol safbwyntiau'n cael eu clywed a'u parchu
2 bod yr adnoddau sydd ar gael o fewn y gymuned yn hysbys, yn cael eu gwerthfawrogi a'u rhannu, yn arbennig er mwyn cynnal cymunedau sydd ar y cyrion
3 bod y cyfrifoldebau i gymunedau, cyllidwyr ac asiantaethau eraill o ran rheoli adnoddau yn cael eu deall a'u cyflawni'n llawn
4 bod polisïau a gweithdrefnau'n cael eu rhoi ar waith i reoli adnoddau mewn modd cynaliadwy
5 bod cefnogaeth yn ei lle i ddatblygu sgiliau ariannol, llythrennedd a rheoli
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2018
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Learning Skills Improvement Service
URN gwreiddiol
LSICD20
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Grwpiau Cymorth Cymunedol
Cod SOC
3231
Geiriau Allweddol
datblygu cymunedol; ymarferydd datblygu cymunedol; ymarfer datblygu cymunedol; gwerthoedd datblygu cymunedol; ymchwil datblygu cymunedol; ymgynghori ar ddatblygu cymunedol; grwpiau datblygu cymunedol; dull datblygu cymunedol