Cynghori ar strwythurau sefydliadol i gefnogi datblygu cymunedol

URN: JETSCD20
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Cymunedol
Datblygwyd gan: NYA
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2015

Trosolwg


Mae'r safon hon yn ymwneud â'r gefnogaeth y mae ymarferwyr datblygu cymunedol yn ei darparu pan fydd grwpiau ffurfiol neu anffurfiol yn datblygu eu strwythurau sefydliadol. Gall hyn fod am lawer o wahanol resymau; i ymateb i ofynion cyllidwyr, gall y grwpiau fod wedi cyrraedd cyfnod penodol yn eu datblygiad, neu gallant ddymuno ymgymryd ag adnoddau sylweddol a'u rheoli, er enghraifft adeilad neu staff.  

Mae'r safon hon yn berthnasol i bob ymarferydd datblygu cymunedol sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda grwpiau cymunedol ac yn darparu cyngor ar strwythurau sefydliadol.  

Trefnir y safonau datblygu cymunedol yn chwe maes allweddol:
• Un - deall ac ymarfer datblygu cymunedol 
• Dau - deall cymunedau ac ymgysylltu â nhw 
• Tri - gwaith grŵp a gweithredu ar y cyd 
• Pedwar - cydweithio a gweithio ar draws sectorau 
• Pump - dysgu cymunedol er newid cymdeithasol  
• Chwech - llywodraethu a datblygu sefydliadol 

Mae'r safon hon yn rhan o Faes Allweddol Chwech


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1 cefnogi grwpiau i adolygu a chytuno ar eu diben, eu nod, eu blaenoriaethau, eu strwythur a'u haelodaeth cyfredol, yn unol â gofynion sefydliadol 
2 cynorthwyo grwpiau i werthuso eu rhesymau dros ystyried mathau newydd o strwythur sefydliadol, er mwyn penderfynu ar yr opsiwn mwyaf priodol 
3 cyfeirio grwpiau at ffynonellau perthnasol o wybodaeth am y gwahanol strwythurau sefydliadol sy'n bodoli 
4 gwerthuso goblygiadau'r gwahanol opsiynau sydd ar gael i gynghori grwpiau cymunedol
5 hwyluso grwpiau i gytuno ar strwythur sefydliadol a fydd yn diwallu eu hanghenion yn y dyfodol ac a fydd yn atebol i'w haelodau ac i'r gymuned ehangach
6 cefnogi grwpiau i ddefnyddio gwerthoedd datblygu cymunedol yn sylfaen ar gyfer creu strwythur sefydliadol sy'n addas ar gyfer diwallu anghenion y gymuned 
7 cynorthwyo grwpiau i gyrchu cyngor ac arweiniad fel bod y strwythur sefydliadol yn cydymffurfio â deddfwriaeth lywodraethu ac arfer gorau cyfredol
8 hwyluso grwpiau i adolygu a chytuno ar eu trefniadau gwneud penderfyniadau yn unol â gofynion sefydliadol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Strwythurau democrataidd
1 unigrywiaeth y sectorau gwirfoddol a chymunedol a sut mae hynny'n dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch strwythur sefydliad
2 cyfraniad sefydliadau annibynnol a hunan-bennol at weithredu ac ymgysylltiad cymunedol effeithiol
3 modelau ar gyfer prosesau democrataidd o wneud penderfyniadau
4 materion cydraddoldeb y mae angen ymdrin â hwy wrth ddatblygu strwythurau sefydliadol cyfranogol

Ffyrdd o drefnu
5 technegau cyfranogol i gynorthwyo sefydliadau i adolygu eu nodau, eu blaenoriaethau a'u hymarfer
6 technegau cyfranogol i gynorthwyo sefydliadau i gynllunio, dyrannu rolau a datblygu a defnyddio'r sgiliau a geir o fewn y sefydliad 
7 systemau a gweithdrefnau sefydliadol 
8 agweddau at reolaeth strategol a gweithredol
9 sut mae cefnogi rheoli newid a chynlluniau wrth gefn
10 sut mae cefnogi cynaliadwyedd hir dymor sefydliadau 

Materion Cyfreithiol
11 eich cyfyngiadau eich hun wrth roi cyngor cyfreithiol, a phryd mae angen ceisio cefnogaeth arbenigol
12 manteision ac anfanteision strwythurau sefydliadol a chyfreithiol sy'n berthnasol i sefydliadau cymunedol
13 goblygiadau atebolrwydd i ymddiriedolwyr, rheolwyr a buddiolwyr
14 sefydliadau sy'n darparu cyngor a chefnogaeth manwl ar strwythurau cyfreithiol a sefydliadol
15 gofynion cyfreithiol cynnal grwpiau a sefydliadau cymunedol; gan gynnwys cychwyn, cyfansoddi a chau

Adnoddau a chyllid
16 yr ystod o gynlluniau, yn cynnwys busnes, datblygu, adnoddau ariannol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Seiliwyd datblygu cymunedol ar gyfres o werthoedd sy'n ei osod ar wahân i weithgareddau eraill, a all fod yn gysylltiedig, yn y gymuned. Mae'r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ddatblygu cymunedol, ac yn darparu sylfaen ar gyfer pob un o'r safonau. Y gwerthoedd yw;

1 Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
2 Gwrthweithio camwahaniaethu
3 Grymuso cymunedol
4 Gweithredu ar y cyd
5 Gweithio a dysgu gyda'n gilydd

Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallai pob un o'r gwerthoedd datblygu cymunedol lywio ymarfer yn y safon hon. Nid yw'r gosodiadau hyn yn rhan o'r gofynion asesu.

1 bod cysyniadau cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb yn cael eu hadlewyrchu yn nodau'r sefydliad
2 bod y penderfyniadau a wneir wedi'u seilio ar brosesau democrataidd a chyfranogol
3 bod newidiadau cyfansoddiadol arfaethedig yn destun ymgynghori eang ac yn cael eu cefnogi gan resymeg glir 
4 bod cymunedau'n cael eu cefnogi i edrych ar y sefyllfa mewn modd tymor hir, strategol wrth archwilio'r opsiynau ar gyfer strwythur sefydliadol
5 bod adborth yn cael ei geisio ar effeithiolrwydd y strwythur sefydliadol  ​


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Learning Skills Improvement Service

URN gwreiddiol

LSICD19

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Grwpiau Cymorth Cymunedol

Cod SOC

3231

Geiriau Allweddol

datblygu cymunedol; ymarferydd datblygu cymunedol; ymarfer datblygu cymunedol; gwerthoedd datblygu cymunedol; ymchwil datblygu cymunedol; ymgynghori ar ddatblygu cymunedol; grwpiau datblygu cymunedol; dulliau datblygu cymunedol