Hwyluso dysgu cymunedol ar gyfer datblygiad cymdeithasol a gwleidyddol

URN: JETSCD19
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Cymunedol
Datblygwyd gan: NYA
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2015

Trosolwg


Mae'r safon hon yn ymwneud â rôl ymarferwyr datblygu cymunedol wrth hwyluso dysgu unigolion a grwpiau ar gyfer gweithredu cymunedol ar y cyd. Mae'n edrych ar rolau ymarferwyr datblygu cymunedol wrth ddarparu cyfleoedd dysgu i ddatblygu arbenigedd, sgiliau, gwybodaeth a syniadau creadigol pobl sy'n ymwneud â datblygu cymunedol. Y ffocws yw dysgu sy'n cefnogi gweithredu ar y cyd ac yn rhoi llais mwy effeithiol i gymunedau. Ystyr hynny yw y gallai gweithgareddau dysgu gynnwys datblygu dealltwriaeth feirniadol o brosesau a strwythurau diwylliannol, cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd; sut mae'r rhain yn brofiadau cyffredin i bobl yn gyffredinol; a sut gellir eu herio.

Mae'r safon hon yn berthnasol i ymarferwyr datblygu cymunedol sy'n trefnu a/neu'n darparu cyfleoedd dysgu datblygu cymunedol. 

Trefnir y safonau datblygu cymunedol yn chwe maes allweddol:
• Un - deall ac ymarfer datblygu cymunedol 
• Dau - deall cymunedau ac ymgysylltu â nhw 
• Tri - gwaith grŵp a gweithredu ar y cyd 
• Pedwar - cydweithio a gweithio ar draws sectorau 
• Pump - dysgu cymunedol er newid cymdeithasol  
• Chwech - llywodraethu a datblygu sefydliadol 

Mae'r safon hon yn rhan o Faes Allweddol Pump


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1 meithrin perthnasoedd parhaol llawn ymddiriedaeth gydag unigolion o wahanol gefndiroedd sydd â gwahanol brofiadau yn y broses ddysgu
2 nodi anghenion dysgu unigolion a grwpiau cymunedol 
3 teilwra gweithgareddau dysgu i ddiwallu'r anghenion a fynegwyd gan unigolion a grwpiau cymunedol 
4 defnyddio profiadau pobl yn fan cychwyn ar gyfer gweithgareddau dysgu cyfranogol a dulliau o ddiwallu anghenion dysgu gwahanol 
5 creu amgylcheddau cefnogol ar gyfer dysgu sy'n archwilio gwerthoedd, persbectifau, hawliau a chyfrifoldebau
6 defnyddio cyfleoedd dysgu i hyrwyddo camau gweithredu pendant dros newid cymdeithasol 
7 defnyddio adnoddau priodol ar gyfer gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar ddatblygu cymunedol
8 defnyddio adnoddau priodol ar gyfer dysgu datblygu cymunedol 
9 cyd-drafod â darparwyr dysgu a hyfforddiant i gefnogi dysgu cymunedol a datblygiad proffesiynol
10 monitro, adolygu ac adrodd ar effaith gwahanol gyfleoedd dysgu i unigolion a chymunedau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Y cyd-destun
1 rôl dysgu wrth hybu ymddiriedaeth, dealltwriaeth a pharch o fewn a rhwng cymunedau
2 rhwystrau i ddysgu a ffyrdd o'u goresgyn
3 arfer gwrthwahaniaethol wrth ddarparu a chyflwyno dysgu

Agweddau at ddysgu
4 agweddau a dulliau i gynnal dysgu 
5 effaith gwahanol anghenion dysgu a dewisiadau a ffafrir wrth ddysgu 
6 ffyrdd gwahanol o gefnogi camau gweithredu, dysgu a dadansoddiadau beirniadol o natur pŵer, anghydraddoldeb a chamwahaniaethu, a gweithredu democrataidd

Adnoddau a chefnogaeth ar gyfer dysgu
7 sut mae canfod, addasu a chreu adnoddau ar gyfer dysgu cymunedol
8 fframweithiau cymwysterau perthnasol 
9 rhwydweithiau cynnal dysgu ffurfiol ac anffurfiol a sut mae eu cyrchu

Gwerthuso dysgu
10 dulliau o werthuso gweithgareddau dysgu a chanlyniadau dysgu ar gyfer cymunedau ac unigolion
11 sut mae lledaenu canlyniadau gwerthuso yn gwella'r ddarpariaeth ddysgu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Seiliwyd datblygu cymunedol ar gyfres o werthoedd sy'n ei osod ar wahân i weithgareddau eraill, a all fod yn gysylltiedig, yn y gymuned. Mae'r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ddatblygu cymunedol, ac yn darparu sylfaen ar gyfer pob un o'r safonau. Y gwerthoedd yw;

1 Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
2 Gwrthweithio camwahaniaethu
3 Grymuso cymunedol
4 Gweithredu ar y cyd
5 Gweithio a dysgu gyda'n gilydd

Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallai pob un o'r gwerthoedd datblygu cymunedol lywio ymarfer yn y safon hon. Nid yw'r gosodiadau hyn yn rhan o'r gofynion asesu.

1 bod rôl dysgu wrth newid sefyllfa gymdeithasol, economaidd a gwleidyddol pobl yn cael ei chydnabod a'i harchwilio
2 bod amser yn cael ei gymryd i feithrin ymddiriedaeth yn y grŵp dysgu, fel bod pobl yn teimlo'n hyderus i rannu profiadau a dysgu o brofiadau pobl eraill
3 bod dulliau dysgu yn cael eu defnyddio i alluogi pobl i ddatblygu'r hyder a'r sgiliau i fedru cynrychioli eu hunain a'u buddiannau 
4 bod cyfranogwyr yn ymwneud â rhannu eu barn a'u profiadau o ddysgu, a chyfrannu syniadau er mwyn gwella'r profiad er budd eraill
5 bod cyfranogwyr yn cael eu hannog a'u cefnogi i nodi cyfleoedd pellach ar gyfer eu datblygiad eu hun ​


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Learning Skills Improvement Service

URN gwreiddiol

LSICS18

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Grwpiau Cymorth Cymunedol

Cod SOC

3231

Geiriau Allweddol

datblygu cymunedol; ymarferydd datblygu cymunedol; ymarfer datblygu cymunedol; gwerthoedd datblygu cymunedol; ymchwil datblygu cymunedol; ymgynghori ar ddatblygu cymunedol; grwpiau datblygu cymunedol; dulliau datblygu cymunedol