Cefnogi gwaith cydweithredol ac mewn partneriaeth

URN: JETSCD16
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Cymunedol
Datblygwyd gan: NYA
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2015

Trosolwg


Mae'r safon hon yn ymwneud â rôl ymarferwyr datblygu cymunedol wrth annog a chefnogi gwaith cydweithredol. Mae ymarferwyr datblygu cymunedol yn galluogi cymunedau a grwpiau i weithio mewn partneriaeth a chydweithrediad ag eraill er mwyn cyflawni nodau cyffredin, cyrchu adnoddau neu gynyddu dylanwad.  

Trefnir y safonau datblygu cymunedol yn chwe maes allweddol:
• Un - deall ac ymarfer datblygu cymunedol 
• Dau - deall cymunedau ac ymgysylltu â nhw 
• Tri - gwaith grŵp a gweithredu ar y cyd 
• Pedwar - cydweithio a gweithio ar draws sectorau 
• Pump - dysgu cymunedol er newid cymdeithasol  
• Chwech - llywodraethu a datblygu sefydliadol 

Mae'r safon hon yn rhan o Faes Allweddol Pedwar


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1 hwyluso cymunedau i nodi anghenion cyffredin a materion maen nhw'n eu rhannu â chymunedau eraill
2 canfod cymunedau eraill sydd â diddordebau tebyg i rannu syniadau, profiad ac ymarfer a allai fod o fudd i'r ddwy gymuned
3 cefnogi cymunedau i nodi'n eglur a chytuno ar nodau, canlyniadau a strategaethau tymor byr a thymor hir ar gyfer gweithio ar y cyd
4 cefnogi cymunedau i asesu risgiau a manteision posibl ymwneud â gwaith partneriaeth
5 darparu gwybodaeth am gylch gorchwyl, nodau a gwaith partneriaethau sydd eisoes yn bodoli, ac amlygu cyfleoedd i ymwneud â'ch grŵp cymunedol eich hun 
6 cefnogi cymunedau i adolygu argaeledd adnoddau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth
7 cefnogi'r broses o sefydlu strwythurau a systemau tryloyw ac atebol ar gyfer datblygu gwaith cydweithredol rhwng cymunedau
8 hyrwyddo gweithio cydweithredol sy'n cydnabod ac yn ymdrin â rhwystrau i gyfranogiad, ac yn hybu ymddiriedaeth a dealltwriaeth ar sail parch cymunedau at ei gilydd 
9 cefnogi'r broses o fonitro a gwerthuso gwaith cydweithredol neu mewn partneriaeth er mwyn gwella ymarfer yn y dyfodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Y rhesymeg a'r cyd-destun
1 sut mae democratiaeth gynrychioliadol a chyfranogol yn gweithio'n ymarferol 
2 cysyniadau llythrennedd gwleidyddol, hawliau a chyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â llywodraethu
3 y cyfraniad y gall amrywiol gymunedau a grwpiau annibynnol ei wneud i benderfyniadau sy'n effeithio ar gymunedau 
4 sut mae natur perthnasoedd pŵer yn effeithio ar weithio cydweithredol

Ffactorau sy'n cefnogi gwaith effeithiol mewn partneriaeth
5 sut gall penderfyniadau a wneir gan bartneriaethau gael effaith ar gymunedau
6 lefelau o gynrychiolaeth ac atebolrwydd sy'n ofynnol ar gyfer gwaith effeithiol mewn partneriaeth 
7 cymhellion, nodau a chylchoedd gorchwyl partneriaethau
8 rhwystrau i gyfranogiad a dulliau a thechnegau ar gyfer eu goresgyn
9 goblygiadau adnoddau a chefnogaeth ar gyfer ymgysylltu â'r sbectrwm eang o randdeiliaid posibl
10 cylch oes partneriaethau, eu cyfyngiadau, a'r ffactorau a all effeithio ar gynaliadwyedd

Technegau a dulliau
11 technegau cynhwysol a chyfranogol ar gyfer cynnwys pobl
12 sut mae cyd-drafod, cynllunio, cytuno, adolygu a gwerthuso nodau cyffredin a dulliau o weithio mewn partneriaeth
13 manteision ac anfanteision gweithio mewn partneriaeth
14 sut mae cynyddu'r atebolrwydd i gymunedau
15 sut mae annog amrywiaeth ym mhob cam o weithio cydweithredol/mewn partneriaeth
16 sut mae ymdrin â diffyg gweithio cydweithredol mewn partneriaeth
17 sut mae monitro, gwerthuso ac adolygu gwaith partneriaeth a'i effeithiolrwydd
18 dulliau sy'n hwyluso cyfleoedd dysgu ar y cyd er mwyn sicrhau gwaith cydweithredol effeithiol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Seiliwyd datblygu cymunedol ar gyfres o werthoedd sy'n ei osod ar wahân i weithgareddau eraill, a all fod yn gysylltiedig, yn y gymuned. Mae'r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ddatblygu cymunedol, ac yn darparu sylfaen ar gyfer pob un o'r safonau. Y gwerthoedd yw;

1 Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
2 Gwrthweithio camwahaniaethu
3 Grymuso cymunedol
4 Gweithredu ar y cyd
5 Gweithio a dysgu gyda'n gilydd

Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallai pob un o'r gwerthoedd datblygu cymunedol lywio ymarfer yn y safon hon. Nid yw'r gosodiadau hyn yn rhan o'r gofynion asesu.

1 bod rhwystrau sy'n atal ymwneud a chyfranogiad cymunedau sydd wedi'u heithrio ac ar y cyrion yn cael eu nodi ac yn derbyn sylw
2 bod annibyniaeth ac amrywiaeth cymunedau sy'n rhan o bartneriaeth yn cael ei gydnabod, ei barchu a'i annog
3 bod strwythurau'n cael eu datblygu i ddefnyddio sgiliau, gwybodaeth a phrofiad aelodau o'r gymuned ac eraill
4 bod ffyrdd newydd a chreadigol o gydweithio yn cael eu harchwilio a'u hannog 
5 bod dysgu a rennir yn sylfaen ar gyfer yr holl weithgareddau partneriaeth​


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Learning Skills Improvement Service

URN gwreiddiol

LSICD15

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Grwpiau Cymorth Cymunedol

Cod SOC

3231

Geiriau Allweddol

datblygu cymunedol; ymarferydd datblygu cymunedol; ymarfer datblygu cymunedol; gwerthoedd datblygu cymunedol; ymchwil datblygu cymunedol; ymgynghori ar ddatblygu cymunedol; grwpiau datblygu cymunedol; dull datblygu cymunedol