Annog a chefnogi cyrff cyhoeddus i feithrin perthnasoedd effeithiol gyda chymunedau

URN: JETSCD15
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Cymunedol
Datblygwyd gan: NYA
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2015

Trosolwg


Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr datblygu cymunedol sydd â chyfrifoldeb am weithredu polisïau a/neu fentrau llywodraeth leol a chenedlaethol sy'n galw am ddatblygu deialog, perthnasoedd gwaith a llinellau atebolrwydd rhwng cyrff cyhoeddus, sefydliadau eraill a chymunedau neu grwpiau cymunedol.

Trefnir y safonau datblygu cymunedol yn chwe maes allweddol:
• Un - deall ac ymarfer datblygu cymunedol 
• Dau - deall cymunedau ac ymgysylltu â nhw 
• Tri - gwaith grŵp a gweithredu ar y cyd 
• Pedwar - cydweithio a gweithio ar draws sectorau 
• Pump - dysgu cymunedol er newid cymdeithasol  
• Chwech - llywodraethu a datblygu sefydliadol 

Mae'r safon hon yn rhan o Faes Allweddol Pedwar


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1 cyfathrebu'r manteision posibl, yr heriau a'r goblygiadau ehangach pan fo cyrff cyhoeddus yn ceisio ymgysylltu â chymunedau
2 gweithio gyda chyrff cyhoeddus i'w galluogi i ymateb yn effeithiol i gymunedau amrywiol sy'n chwilio am wasanaethau gwell ar sail anghenion a nodwyd gan y gymuned 
3 gweithio gyda chyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill i nodi adnoddau a fydd yn cynnal cynrychiolwyr cymunedol
4 cefnogi llunwyr penderfyniadau i sefydlu gwerthoedd, persbectifau a dulliau gweithredu teg a chynhwysol wrth weithio gyda chymunedau 
5 asesu i ba raddau mae polisïau a mentrau'r llywodraeth yn hybu gwerthoedd cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb, gwrthweithio camwahaniaethu a chynhwysiad i gymunedau
6 cyfathrebu i gyrff cyhoeddus fanteision a chyfraniad dull datblygu cymunedol o gyflawni amcanion polisi 
7 cefnogi cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill i ddefnyddio dulliau gweithredu cynhwysol a grymusol wrth ymgysylltu â chymunedau
8 hybu defnydd o fframweithiau y cytunwyd arnynt yn lleol, yn rhanbarthol neu'n genedlaethol yn sail ar gyfer datblygu perthnasoedd gwaith gyda chymunedau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Y rhesymeg a'r cyd-destun
1 sut mae democratiaeth gynrychioliadol a chyfranogol yn gweithio'n ymarferol
2 cysyniadau llythrennedd gwleidyddol, hawliau dinasyddiaeth a chyfrifoldebau yng nghyswllt llywodraethu 
3 polisïau perthnasol y llywodraeth ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol, 
4 y cyfraniad y gall amrywiol grwpiau annibynnol a chymunedau ei wneud i benderfyniadau sy'n effeithio ar gymunedau
5 sut mae anghyfiawnder, camwahaniaethu ac eithrio cymdeithasol yn effeithio ar fywydau unigolion a chymunedau
6 sut mae perthnasoedd pŵer yn effeithio ar gydweithio
7 cyd-destun cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd cymunedau 
8 y cysylltiadau a'r gwahaniaethau rhwng cysyniadau o ddatblygu cymunedol a'r syniadau allweddol a gyflwynir ym mholisïau a mentrau'r llywodraeth
9 pwerau cyrff cyhoeddus a'r dyletswyddau a'r rhwymedigaethau sydd arnynt i gymunedau

Ffactorau sy'n cefnogi gwaith effeithiol mewn partneriaeth
10 y gwahanol lefelau o gynrychiolaeth ac atebolrwydd dan sylw sy'n ofynnol ar gyfer gwaith effeithiol mewn partneriaeth 
11 rhwystrau i ymwneud ac amrywiaeth o ddulliau gweithredu a thechnegau ar gyfer eu goresgyn
12 sut mae archwlio arferion a phersbectifau sefydliadol a'u heffaith ar gymunedau
13 sut mae sicrhau bod eraill yn adfyfyrio ar arferion a phersbectifau sefydliadau, a sut maent yn effeithio ar gymunedau
14 sut mae cydweithio i gaffael adnoddau 

Technegau a dulliau
15 technegau cynhwysol a chyfranogol ar gyfer meithrin perthnasoedd 
16 sut mae canfod yr anghenion dysgu a hyfforddi sy'n ofynnol i feithrin perthnasoedd effeithiol
17 gwahanol fodelau o eiriolaeth gymunedol 
18 technegau a dulliau gweithredu i gynyddu'r atebolrwydd i gymunedau
19 systemau a phrosesau cyfathrebu i hysbysu a chynnal gwaith cydweithredol 
20 manteision gwerthoedd a phrosesau datblygu cymunedol wrth feithrin perthnasoedd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Seiliwyd datblygu cymunedol ar gyfres o werthoedd sy'n ei osod ar wahân i weithgareddau eraill, a all fod yn gysylltiedig, yn y gymuned. Mae'r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ddatblygu cymunedol, ac yn darparu sylfaen ar gyfer pob un o'r safonau. Y gwerthoedd yw;

1 Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
2 Gwrthweithio camwahaniaethu
3 Grymuso cymunedol
4 Gweithredu ar y cyd
5 Gweithio a dysgu gyda'n gilydd

Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallai pob un o'r gwerthoedd datblygu cymunedol lywio ymarfer yn y safon hon. Nid yw'r gosodiadau hyn yn rhan o'r gofynion asesu.

1 bod cymhlethdod ac amrywiaeth cymunedau yn cael eu cydnabod a’u defnyddio i lywio cynllunio prosesau ymgysylltiad cymunedol er mwyn sicrhau cydraddoldeb
2 bod arferion sy'n camwahaniaethu yn erbyn unigolion a chymunedau yn cael eu hamlygu ac yn derbyn sylw 
3 bod y sgiliau a'r wybodaeth sy'n angenrheidiol i ymgysylltu â chymunedau a'u grymuso yn cael eu cydnabod, gan greu cyfleoedd dysgu
4 bod ymrwymiad ystyrlon i weithredu ar y cyd, gyda'r nod o wella ardaloedd lleol yn cael ei arddangos
5 bod technegau adfyfyrio a gwerthuso yn cael eu defnyddio i adolygu sut mae sefydliadau'n meithrin perthynas â chymunedau 


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Learning Skills Improvement Service

URN gwreiddiol

LSICD14

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Grwpiau Cymorth Cymunedol

Cod SOC

3231

Geiriau Allweddol

datblygu cymunedol; ymarferydd datblygu cymunedol; ymarfer datblygu cymunedol; gwerthoedd datblygu cymunedol; ymchwil datblygu cymunedol; ymgynghori ar ddatblygu cymunedol; grwpiau datblygu cymunedol; dulliau datblygu cymunedol