Hyrwyddo a chefnogi perthnasoedd effeithiol rhwng cymunedau a chyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill
URN: JETSCD14
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Cymunedol
Datblygwyd gan: NYA
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2015
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi sut mae ymarferwyr datblygu cymunedol yn cefnogi cymunedau i ddeall yn well:
• sut mae cyrff cyhoeddus ac asiantaethau eraill yn gweithio ac yn gwneud penderfyniadau
• sut mae dylanwadu ar brosesau gwneud penderfyniadau
• sut mae penderfynu a ddylen nhw weithio gyda chyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill
• sut mae datblygu perthnasoedd effeithiol
Mae llawer o fuddion i'w caffael yn sgîl perthnasoedd effeithiol rhwng cymunedau, cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill. Fodd bynnag, er mwyn elwa'n llawn, mae angen i gymunedau ddeall y cylchoedd gorchwyl, y pwerau a'r dyletswyddau sydd gan gyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill, a sut gallan nhw ddylanwadu ar brosesau gwneud penderfyniadau. Mae cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill am weithio gyda chymunedau am amrywiaeth o resymau. Mae'n bwysig bod cymunedau'n glir ynghylch sut bydd hyn hefyd o fudd iddyn nhw.
Mae'r safon hon yn berthnasol i bob ymarferydd datblygu cymunedol sy'n cefnogi cymunedau yn y broses hon.
Trefnir y safonau datblygu cymunedol yn chwe maes allweddol:
• Un - deall ac ymarfer datblygu cymunedol
• Dau - deall cymunedau ac ymgysylltu â nhw
• Tri - gwaith grŵp a gweithredu ar y cyd
• Pedwar - cydweithio a gweithio ar draws sectorau
• Pump - dysgu cymunedol er newid cymdeithasol
• Chwech - llywodraethu a datblygu sefydliadol
Mae'r safon hon yn rhan o Faes Allweddol Pedwar
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 cynorthwyo cymunedau i ddeall prosesau democrataidd a gwleidyddol lleol, cenedlaethol a byd-eang, a ble mae'r pŵer a'r dylanwad
2 casglu gwybodaeth, sydd wedi'i diweddaru ac yn berthnasol i weithredu cymunedol cyfredol, am rolau a chyfrifoldebau cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill y mae eu gwaith yn effeithio ar gymunedau
3 cynorthwyo cymunedau i ddeall y pwerau cyfreithiol, y cyfrifoldebau statudol a'r adnoddau sydd gan gyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill, a sut gall hynny effeithio ar benderfyniadau a wneir ar y cyd
4 hybu perthnasoedd rhwng cymunedau, cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill er lles cymunedau
5 cefnogi cymunedau i ddeall y tensiynau sy'n gallu codi rhwng sefydliadau sydd â gwahanol strwythurau a phrosesau gwneud penderfyniadau er mwyn gwella perthnasoedd
6 darparu gwybodaeth i gymunedau ynghylch sut mae ymgysylltu a gweithio ar y cyd â chyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill i gyflawni'r nodau y cytunwyd arnynt
7 cynorthwyo cymunedau i edrych ar fentrau'r llywodraeth a'r cyfleoedd maen nhw'n eu cyflwyno i gymunedau ddylanwadu ar lunwyr penderfyniadau
8 cynorthwyo cymunedau i gyrchu gwybodaeth am drefniadau gwaith amlasiantaeth sydd eisoes yn bodoli, er mwyn llywio gweithredu cymunedol
9 cefnogi cymunedau i nodi'r sgiliau sy'n angenrheidiol i ymgysylltu â chyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill
10 cefnogi cymunedau i ganfod a sefydlu cysylltiadau perthnasol oddi mewn i gyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill, er mwyn cyflawni'r nodau y cytunwyd arnynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Y rhesymeg a'r cyd-destun
1 sut mae democratiaeth gynrychioliadol a chyfranogol yn gweithio'n ymarferol
2 cysyniadau llythrennedd gwleidyddol, hawliau dinasyddiaeth a chyfrifoldebau yng nghyswllt llywodraethu
3 polisïau perthnasol y llywodraeth ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol
4 y cyfraniad y gall amrywiol grwpiau annibynnol a chymunedau ei wneud i benderfyniadau sy'n effeithio ar gymunedau
5 sut mae anghyfiawnder, camwahaniaethu ac eithrio cymdeithasol yn effeithio ar fywydau unigolion a chymunedau
6 sut mae perthnasoedd pŵer yn effeithio ar gydweithio
7 cyd-destun cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd eich cymuned eich hun
8 y cysylltiadau a'r gwahaniaethau posibl rhwng cysyniadau o ddatblygu cymunedol a'r syniadau allweddol a gyflwynir ym mholisïau a mentrau'r llywodraeth
Pwerau cyrff cyhoeddus a'r dyletswyddau a'r rhwymedigaethau sydd arnynt i gymunedau
9 sut mae cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill yn cael eu rheoleiddio a'u rheoli
10 y dyletswyddau a'r cyfrifoldebau sydd ar gyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill i gymunedau
11 sut mae cefnogi cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill i wella sut maen nhw'n ymgysylltu â chymunedau
Technegau a dulliau
12 sut mae cefnogi cymunedau ac unigolion i ddylanwadu ar lunio penderfyniadau
13 sut mae datblygu'r sgiliau angenrheidiol i ddylanwadu ar wneud penderfyniadau
14 technegau cynhwysol a chyfranogol ar gyfer meithrin perthnasoedd
15 sut mae cyd-drafod, cynllunio, cytuno, adolygu a gwerthuso perthnasoedd rhwng cymunedau a sefydliadau eraill
16 technegau a dulliau gweithredu i gynyddu'r atebolrwydd i gymunedau
17 systemau cyfathrebu sy'n hybu dealltwriaeth a deialog agored
18 dulliau sy'n hwyluso cyfleoedd dysgu ar y cyd er mwyn sicrhau gwaith effeithiol ar y cyd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Seiliwyd datblygu cymunedol ar gyfres o werthoedd sy'n ei osod ar wahân i weithgareddau eraill, a all fod yn gysylltiedig, yn y gymuned. Mae'r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ddatblygu cymunedol, ac yn darparu sylfaen ar gyfer pob un o'r safonau. Y gwerthoedd yw;
1 Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
2 Gwrthweithio camwahaniaethu
3 Grymuso cymunedol
4 Gweithredu ar y cyd
5 Gweithio a dysgu gyda'n gilydd
Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallai pob un o'r gwerthoedd datblygu cymunedol lywio ymarfer yn y safon hon. Nid yw'r gosodiadau hyn yn rhan o'r gofynion asesu.
1 bod anghydbwysedd pŵer rhwng cymunedau, cyrff cyhoeddus ac asiantaethau eraill yn cael eu cydnabod ac yn derbyn sylw
2 bod cyfleoedd i ddylanwadu ar arfer camwahaniaethol a'i herio yn cael eu harchwilio'n feirniadol
3 bod hawliau cymunedau i'w diffinio eu hunain, eu blaenoriaethau a'u hagendâu ar gyfer gweithredu yn cael eu gwneud yn benodol
4 bod camau'n cael eu cymryd i feithrin hyder mewn cymunedau i gymryd rhan mewn deialog gyda chyrff cyhoeddus
5 bod gwybodaeth am sut mae cyrff cyhoeddus ac asiantaethau eraill yn gweithio yn cael ei rhannu gyda chymunedau
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2018
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Learning Skills Improvement Service
URN gwreiddiol
LSICD13
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Grwpiau Cymorth Cymunedol
Cod SOC
3231
Geiriau Allweddol
datblygu cymunedol; ymarferydd datblygu cymunedol; ymarfer datblygu cymunedol; gwerthoedd datblygu cymunedol; ymchwil datblygu cymunedol; ymgynghori ar ddatblygu cymunedol; grwpiau datblygu cymunedol; dulliau datblygu cymunedol