Cefnogi cymunedau i reoli gwrthdaro ac ymdrin ag ef yn effeithiol, boed hynny o fewn cymunedau a grwpiau cymunedol neu rhyngddynt
URN: JETSCD11
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Cymunedol
Datblygwyd gan: NYA
Cymeradwy ar:
2015
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â delio gyda gwrthdaro:
• o fewn cymunedau
• rhwng cymunedau
• o fewn grwpiau cymunedol
• rhwng grwpiau cymunedol
Mae'r safon hon yn cydnabod yr elfennau tebyg wrth ddelio gyda phob gwrthdaro, a'r sgiliau sy'n ofynnol i ddadansoddi'r cyd-destun ac ymateb mewn ffyrdd sy'n gynhwysol, yn canolbwyntio ar atebion, ac yn gweithio i sicrhau newid cymdeithasol cadarnhaol. Mae'r safon hefyd yn cydnabod y gall gwrthdaro greu costau a manteision, mae'n cydnabod achosion ac effeithiau gwrthdaro, ac yn nodi bod gwahanol strategaethau ar gyfer delio gyda gwrthdaro mewn cymunedau a gwrthdaro oddi mewn i sefydliadau a rhyngddynt.
Mae'r safon hon yn berthnasol i bob ymarferydd datblygu cymunedol.
Trefnir y safonau datblygu cymunedol yn chwe maes allweddol:
• Un - deall ac ymarfer datblygu cymunedol
• Dau - deall cymunedau ac ymgysylltu â nhw
• Tri - gwaith grŵp a gweithredu ar y cyd
• Pedwar - cydweithio a gweithio ar draws sectorau
• Pump - dysgu cymunedol er newid cymdeithasol
• Chwech - llywodraethu a datblygu sefydliadol
Mae'r safon hon yn rhan o Faes Allweddol Tri
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 nodi natur, achosion ac effeithiau gwrthdaro o fewn a rhwng cymunedau a grwpiau cymunedol
2 ymateb i wrthdaro er mwyn lleihau'r tensiynau o fewn neu rhwng cymunedau mewn ffyrdd sensitif
3 gweithio i leihau'r ofn a'r trallod a achosir gan wrthdaro cymunedol
4 cefnogi pobl i nodi meysydd lle gallai gwrthdaro godi, tir cyffredin a diddordebau a rennir
5 cefnogi aelodau o'r gymuned i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a hyder i ddelio â gwrthdaro mewn modd cadarnhaol
6 nodi a chanfod ffyrdd o ddileu rhwystrau i gyfathrebu a dealltwriaeth o'r ddeutu o fewn a rhwng cymunedau
7 hybu gwerthoedd, persbectifau, hawliau a chyfrifoldebau pawb sy'n rhan o'r gwrthdaro wrth geisio datrys y sefyllfa
8 nodi'r posibiliadau o ran cyfryngu a'i ffynonellau ar gyfer ymdrin â gwrthdaro mewn cymunedau neu grwpiau cymunedol
9 cyfryngu o fewn a rhwng grwpiau i oresgyn gwrthdaro lle bynnag y bo modd
10 dogfennu'r meysydd sy'n destun cytuno neu anghytuno er mwyn cyfeirio atynt yn y dyfodol
11 cefnogi strategaethau a arweinir ar y cyd er mwyn ymdrin â gwrthdaro sy'n parhau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Y cyd-destun
1 effaith perthnasoedd pŵer ar unigolion a chymunedau
2 manteision cydnabod a gosod gwerth ar amrywiaeth, ac arfer cynhwysol sy'n wrthwahaniaethol
3 rhwystrau i ymwneud â gweithgareddau ar y cyd a ffyrdd o'u goresgyn
4 agweddau negyddol a chadarnhaol gwrthdaro
Delio gyda gwrthdaro cymunedol
5 achosion, effeithiau a chanlyniadau gwrthdaro cymunedol
6 dulliau gwahanol, amserol a chreadigol o fynd ati i ddadansoddi a datrys gwrthdaro
7 sut mae hwyluso dulliau ar y cyd o ddatrys gwrthdaro
8 ffynonellau o gymorth cyfryngu sydd ar gael i unigolion, cymunedau ac ymarferwyr
9 dulliau o ymateb yn sensitif er mwyn lleihau tensiynau a goresgyn ofnau cymunedau
Cefnogi'r dysgu
10 gwybod sut mae datblygu gwybodaeth, sgiliau, dealltwriaeth ac agweddau eraill er mwyn delio gyda gwrthdaro
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Seiliwyd datblygu cymunedol ar gyfres o werthoedd sy'n ei osod ar wahân i weithgareddau eraill, a all fod yn gysylltiedig, yn y gymuned. Mae'r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ddatblygu cymunedol, ac yn darparu sylfaen ar gyfer pob un o'r safonau. Y gwerthoedd yw;
1 Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
2 Gwrthweithio camwahaniaethu
3 Grymuso cymunedol
4 Gweithredu ar y cyd
5 Gweithio a dysgu gyda'n gilydd
Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallai pob un o'r gwerthoedd datblygu cymunedol lywio ymarfer yn y safon hon. Nid yw'r gosodiadau hyn yn rhan o'r gofynion asesu.
1 bod perthnasoedd pŵer a'u heffeithiau yn cael eu cydnabod yn agored mewn sefyllfaoedd o wrthdaro
2 bod gwrthdaro'n derbyn sylw o safbwynt lle ceir parch rhwng yr holl bartïon a'i gilydd
3 bod ffyrdd adeiladol o herio yn sicrhau bod ffynonellau gwrthdaro yn cael eu 'dadbersonoli’
4 bod pawb y mae'r gwrthdaro'n effeithio arnynt yn cael eu hannog i gyfrannu at gynhyrchu syniadau a datrysiadau
5 bod unigolion a grwpiau yn adfyfyrio ar y sefyllfa o wrthdaro, yn dysgu yn ei sgîl, ac yn symud ymlaen oddi yno
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2018
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Learning Skills Improvement Service
URN gwreiddiol
LSICD11
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Grwpiau Cymorth Cymunedol
Cod SOC
3231
Geiriau Allweddol
datblygu cymunedol; ymarferydd datblygu cymunedol; ymarfer datblygu cymunedol; gwerthoedd datblygu cymunedol; ymchwil datblygu cymunedol; ymgynghori ar ddatblygu cymunedol; grwpiau datblygu cymunedol; dulliau datblygu cymunedol