Trefnu digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol
URN: JETSCD10
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Cymunedol
Datblygwyd gan: NYA
Cymeradwy ar:
2015
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rolau ymarferwyr datblygu cymunedol wrth gefnogi'r broses o drefnu digwyddiadau a gweithgareddau mewn cymunedau. Gall y digwyddiadau hyn gynnwys cyfarfodydd cyhoeddus, gweithdai, diwrnodau agored, arddangosfeydd ymgynghori a fforymau cymdogaeth, ymhlith pethau eraill.
Mae'r safon hon yn berthnasol i bob ymarferydd datblygu cymunedol.
Trefnir y safonau datblygu cymunedol yn chwe maes allweddol:
• Un - deall ac ymarfer datblygu cymunedol
• Dau - deall cymunedau ac ymgysylltu â nhw
• Tri - gwaith grŵp a gweithredu ar y cyd
• Pedwar - cydweithio a gweithio ar draws sectorau
• Pump - dysgu cymunedol er newid cymdeithasol
• Chwech - llywodraethu a datblygu sefydliadol
Mae'r safon hon yn rhan o Faes Allweddol Tri
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 cyd-drafod i ganfod pwrpas y digwyddiad neu'r gweithgaredd
2 cytuno ar y cynllun ar gyfer y digwyddiad neu'r gweithgaredd gyda phawb sy'n ymwneud ag ef
3 cynllunio'r digwyddiad neu'r gweithgaredd fel ei fod yn hygyrch, yn gynhwysol, yn gyfreithlon ac yn ddiogel i bawb yn y gymuned
4 cefnogi aelodau o'r gymuned i gaffael yr adnoddau gofynnol ar gyfer y digwyddiad neu'r gweithgaredd
5 darparu gwybodaeth i'r rhai sy'n ymwneud â threfnu'r digwyddiad fel eu bod yn gallu cyflawni'r tasgau a ddyrannwyd
6 dewis mathau o gyhoeddusrwydd i ddenu cyfranogwyr targed
7 cefnogi aelodau o'r gymuned i adolygu a diweddaru cynlluniau i gyflawni'r amcan gofynnol
8 sicrhau caniatâd unigolion i ddefnyddio'u gwybodaeth a'u delweddau at wahanol ddibenion
9 gwerthuso'r digwyddiad neu'r gweithgaredd er mwyn llywio gweithredu i'r dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Y cyd-destun
1 y ffactorau sy'n ymwneud â threfnu digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol
2 sut olwg sydd ar ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol hygyrch, cynhwysol a diogel
3 ffyrdd o gynnwys a datblygu pobl
Pennu nodau a chynlluniau cyffredin
4 agweddau ar y cyd at wneud penderfyniadau
Deinameg a phrosesau grŵp
5 sut mae datblygu ymarfer cydraddoldeb a gwrth-wahaniaethol mewn grwpiau
6 sut mae cefnogi'r rolau mae pobl yn ymgymryd â hwy mewn grwpiau
Trefnu Cymunedol
7 sut mae cyrchu adnoddau a chefnogaeth ar gyfer digwyddiadau neu weithgareddau cymunedol
8 sut mae cyflawni'r gofynion cyfreithiol ar gyfer trefnu a chynnal digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol
9 sut mae defnyddio technegau gwella ansawdd i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Seiliwyd datblygu cymunedol ar gyfres o werthoedd sy'n ei osod ar wahân i weithgareddau eraill, a all fod yn gysylltiedig, yn y gymuned. Mae'r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ddatblygu cymunedol, ac yn darparu sylfaen ar gyfer pob un o'r safonau. Y gwerthoedd yw;
1 Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
2 Gwrthweithio camwahaniaethu
3 Grymuso cymunedol
4 Gweithredu ar y cyd
5 Gweithio a dysgu gyda'n gilydd
Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallai pob un o'r gwerthoedd datblygu cymunedol lywio ymarfer yn y safon hon. Nid yw'r gosodiadau hyn yn rhan o'r gofynion asesu.
1 bod ystyriaethau amgylcheddol yn derbyn sylw wrth gynllunio a defnyddio adnoddau
2 bod lleoliadau'n cael eu dewis sy'n bodloni anghenion ac amgylchiadau gwahanol unigolion sy'n mynychu
3 bod gwybodaeth, arbenigedd a sgiliau aelodau o'r gymuned yn cael eu defnyddio'n llawn wrth gynllunio a chynnal y digwyddiad
4 bod cyfleoedd yn cael eu cymryd i gydweithio â grwpiau eraill wrth gynllunio digwyddiadau/gweithgareddau
5 bod gwerthuso adfyfyriol yn digwydd er budd i ddigwyddiadau a gweithgareddau yn y dyfodol
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2018
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Learning Skills Improvement Service
URN gwreiddiol
LSICD10
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Grwpiau Cymorth Cymunedol
Cod SOC
3231
Geiriau Allweddol
datblygu cymunedol; ymarferydd datblygu cymunedol; ymarfer datblygu cymunedol; gwerthoedd datblygu cymunedol; ymchwil datblygu cymunedol; ymgynghori ar ddatblygu cymunedol; grwpiau datblygu cymunedol; dulliau datblygu cymunedol