Dadansoddi a lledaenu canfyddiadau ymchwil gymunedol
URN: JETSCD09
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Cymunedol
Datblygwyd gan: NYA
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2015
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â choladu a defnyddio data ymchwil gymunedol, gan gynnwys rhoi adborth ar y canfyddiadau a'r argymhellion yn cytunwyd arnynt i bawb y mae angen iddynt wybod amdanynt, a phawb a gyfrannodd atynt.
Mae'r safon hon yn berthnasol i bob ymarferydd datblygu cymunedol.
Trefnir y safonau datblygu cymunedol yn chwe maes allweddol:
• Un - deall ac ymarfer datblygu cymunedol
• Dau - deall cymunedau ac ymgysylltu â nhw
• Tri - gwaith grŵp a gweithredu ar y cyd
• Pedwar - cydweithio a gweithio ar draws sectorau
• Pump - dysgu cymunedol er newid cymdeithasol
• Chwech - llywodraethu a datblygu sefydliadol
Mae'r safon hon yn rhan o Faes Allweddol Dau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 gweithio gyda grwpiau i adolygu ansawdd a swm yr wybodaeth a gasglwyd a nodi unrhyw fylchau
2 cynnwys llais a barn cymunedau sydd ar y cyrion wrth ddadansoddi a lledaenu ymchwil gymunedol
3 cefnogi ymchwilwyr cymunedol i ddadansoddi'r wybodaeth a gasglwyd
4 cefnogi ymchwilwyr cymunedol i ddehongli'r wybodaeth a gasglwyd
5 cefnogi'r broses o gyfathrebu'r canfyddiadau cychwynnol i'r gymuned ehangach a'r holl sefydliadau perthnasol ar gyfer sylwadau
6 adolygu'r canfyddiadau a'u diwygio yng ngoleuni adborth
7 casglu cynigion ar gyfer cyflwyno'r canfyddiadau i wahanol gynulleidfaoedd
8 hwyluso datblygiad argymhellion gan y gymuned ac eraill
9 hwyluso agweddau cyfranogol er mwyn cytuno ar flaenoriaethau realistig, seiliedig ar dystiolaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Dadansoddi a lledaenu
1 effeithiau ffactorau strwythurol ar gymunedau
2 technegau ar gyfer coladu a dehongli data a gwybodaeth
3 prosesau ar gyfer cyflwyno argymhellion a phennu blaenoriaethau
4 ffyrdd o gyflwyno gwybodaeth ar gyfer gwahanol ddibenion a chynulleidfaoedd
5 dulliau o fwydo canlyniadau ymgynghori ac ymchwil yn ôl i'r gymuned ehangach a sefydliadau perthnasol
6 sut mae cynnwys aelodau o'r gymuned ac ymchwilwyr mewn gweithgareddau lledaenu
7 sut mae cefnogi dewis dulliau a thechnegau lledaenu perthnasol ar gyfer cynulleidfaoedd a dibenion gwahanol
8 sut mae hwyluso trafodaethau o amgylch y tensiynau sy'n ymwneud â dewis dulliau a thechnegau lledaenu
9 agweddau a dulliau i'w defnyddio wrth werthuso prosesau ymchwilio neu ymgynghori
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Seiliwyd datblygu cymunedol ar gyfres o werthoedd sy'n ei osod ar wahân i weithgareddau eraill, a all fod yn gysylltiedig, yn y gymuned. Mae'r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ddatblygu cymunedol, ac yn darparu sylfaen ar gyfer pob un o'r safonau. Y gwerthoedd yw;
1 Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
2 Gwrthweithio camwahaniaethu
3 Grymuso cymunedol
4 Gweithredu ar y cyd
5 Gweithio a dysgu gyda'n gilydd
Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallai pob un o'r gwerthoedd datblygu cymunedol lywio ymarfer yn y safon hon. Nid yw'r gosodiadau hyn yn rhan o'r gofynion asesu.
1 bod ymchwil canlyniadau yn rhoi sylw i sefyllfa wleidyddol, economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cyfredol y gymuned
2 bod gwybodaeth ar y canlyniadau yn cael ei chyflwyno mewn gwahanol fformatau i sicrhau hygyrchedd
3 bod y gymuned yn cadw perchnogaeth ar y canlyniadau a'r casgliadau
4 bod y gymuned yn penderfynu ar y cyd ar yr argymhellion ar gyfer gweithredu yn y dyfodol
5 bod adfyfyrio'n cael ei drefnu ar y profiad o gyfranogi mewn prosesau ymchwil ac ymgynghori
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2018
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Learning Skills Improvement Service
URN gwreiddiol
LSICD08
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Grwpiau Cymorth Cymunedol
Cod SOC
3231
Geiriau Allweddol
datblygu cymunedol; ymarferydd datblygu cymunedol; ymarfer datblygu cymunedol; gwerthoedd datblygu cymunedol; ymchwil datblygu cymunedol; ymgynghori ar ddatblygu cymunedol; grwpiau datblygu cymunedol; dulliau datblygu cymunedol